Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2024 Dyddiadur Gwraig Offeiriad

Dyddiadur Gwraig Offeiriad

Diary of a Parsons Wife December 24.

Tyfu'n hen gyda'n gilydd

Gan ein bod ni, erbyn hyn, wedi bod gyda'n gilydd yn hirach nag y buon ni cyn i ni gyfarfod, mae Marcus a minnau'n bendant yn cydgyffwrdd ar lawer ystyr a gydag amrywiol raddau o gysur!

Roedd neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar yn awgrymu y dylai pawb gael ffrindiau sy'n fwy caredig, yn fwy hael ac yn fwy grasol na ni ein hunain - a dyna yw Marcus, fy hanner gwell yn sicr. Mae’n llawer mwy amyneddgar na mi, ac os yw’n gwylltio, dwi’n gwybod fod pethau’n wirioneddol ddrwg.

Ond dwi wedi sylwi’n ddiweddar ein bod ni’n bendant mewn perygl o ymasiad trosiadol. Mae’n hawdd gwybod ein bod yn bâr mewn torf, oherwydd rydyn ni’n bendant wedi mynd i edrych yn debycach i’n gilydd.

Fe gafodd y llun yma’i dynnu ar y ffordd i'r Almaen yn yr haf.

Er ein bod ni rywsut yn llwyddo i anfon cod gwisg at ein gilydd yn ddiarwybod, mae’n ymddangos nad yw'r ymasiad Zipperlen eto wedi cyrraedd agweddau dwysach ar ein bywyd. Mae fy amynedd yn sicr yn mynd yn fwyfwy prin, a dwi’n bendant yn fwy styfnig. Yn ddiweddar, pan oedd un o'm criw rhwyfo yn awyddus i dreulio'r diwrnod acw yn didoli'r cit cychod sy'n cael ei gadw dros dro yn ein garej - gwelais fy mod i’n ceisio creu mwy a mwy o resymau i’w hatal; a hynny’n syml am mai hi oedd wedi mynd ati i drefnu hyn heb ofyn fy nghaniatâd i ddod i annibennu’r garej. Wel, efallai bod annibennu’n or-ddweud, neu efallai’n anwiredd a dweud y gwir, gan fod y garej yn llawer taclusach ar ôl iddi adael.

Cyn bo hir, bydd y tîm rhwyfo a minnau yn cychwyn ar fordaith o Lanzarote i Antigua felly dwi wedi bod yn treulio amser gyda hyfforddwr dygnwch er mwyn bod yn siŵr bod ein gwytnwch meddyliol yn ddigonol. Mae hyn wedi cynnwys technegau seicometreg yn rhannol i ddeall ein hunain a'n gilydd yn well ac i ddatblygu arferion cyfathrebu sensitif rhyngom. Mae wedi bod yn ymarfer diddorol a gwerthfawr a cheisiais ddefnyddio rhai o'r syniadau rydyn ni wedi eu dysgu adeg ‘Garej-gate’. Er fy mod yn falch ei bod hi’n teimlo mor gyfforddus yn fy nhŷ, rydw wedi sylweddoli bod gen i ffiniau cartref ffisegol anhyblyg ond anweledig. Mae yna waharddiad ar rannau penodol o’m cartref , mae’r garej (pwy fase’n meddwl?) a'r gegin yn y 10 uchaf.

Rhaid i mi weithio'n galetach ar fod mor amyneddgar â Marcus cyn y Nadolig, pan ddaw ei rieni i aros gyda ni – hwyrach y bydd rhaid i mi negodi rhywfaint ar ddeinameg y gegin!

Polly Zipperlen