Tinsel ar y goeden…
Tywysog Albert, gŵr y Frenhines Fictoria, sy’n aml yn cael y clod am wneud coed Nadolig yn ffasiynol ym Mhrydain ond mae'r traddodiad o addurno a dod â gwyrddni i'n tai a'n haddoldai yn llawer hŷn na hynny. Harriet Carty sy’n ymchwilio i'r hanes.
Mae yna gofnodion ar gael o addurniadau ar gyfer y Satwrnalia mewn disgrifiadau hynafol o'r 5ed ganrif CC. Dathlwyd Satwrnalia ganol mis Rhagfyr, tua adeg yr heuldro. Mae addurno coed yn draddodiad Celtaidd hynafol hefyd. Byddai coeden yn cael ei haddurno adeg heuldro'r gaeaf fel symbol o fywyd a byddai’r Llychlynwyr yn gwneud hynny i ddathlu Yule, gŵyl ganol gaeaf arall.
Nid dim ond adeg yr heuldro y byddai’r Celtiaid yn addurno coed, mae Plini’r Hynaf yn disgrifio gŵyl ar 6ed diwrnod y lleuad a oedd yn cynnwys derwen gysegredig. Ond roedd coed eraill yn bwysig yn ogystal â’r Dderwen a’r Ddraenen, e.e. yr onnen, coeden afalau, gwernen, collen, ysgawen.
Mae’r ywen yn ymddangos mewn llawer o draddodiadau a chredoau, fel symbol o farwolaeth a bywyd a byddai canghennau o goed yw a chelyn yn cael eu rhoi i addurno cartrefi ac eglwysi ar gyfer y Nadolig, yn ôl pob tebyg oherwydd eu dail bythwyrdd a’r aeron coch.
Mewn cofnodion eglwysig o ddiwedd yr Oesoedd Canol gwelir cofnodion o brynu celyn ac eiddew. Mae'r garol Nadolig Deck the Halls with Boughs of Holly yn dyddio o Gymru'r 16eg ganrif.
Arfer a ddaeth yn boblogaidd hefyd yn Oes Fictoria oedd gosod torch ar y drws, ond fel gydag addurniadau a defnyddio gwyrddni, doedd y torchau chwaith ddim yn rhywbeth newydd. Roedd cyflwyno torch fel gwobr am lwyddiant a rhagoriaeth filwrol yn hen draddodiad Rhufeinig. Efallai bod torchau Adfent wedi cychwyn gyda’r Lwtheriaid yn yr Almaen yn yr 16eg ganrif.
Mae torchau cusanu yn draddodiad sydd wedi hen ddod i ben erbyn hyn, ond a allai fod wedi arwain at yr arferiad o gusanu o dan yr uchelwydd. Byddai brigau hyblyg o goed cyll neu helyg gan amlaf yn cael eu ffurfio’n gylch a byddai darnau o wyrddni yn cael eu plethu i mewn i’r cylch, cyn eu hongian ar wal neu wrth y drws i groesawu pobl.
Mae'r rhan fwyaf o fynwentydd ein heglwysi yn cynnwys cyflenwad parod o'r gwyrddni a ddefnyddir yn draddodiadol ar gyfer addurno; celyn, eiddew, coed yw ac weithiau uchelwydd hefyd. Cam bach at ddatblygu ffordd fwy cynaliadwy fyddai defnyddio mwy o'r addurniadau naturiol hyn a lleihau'r angen am flodau wedi'u mewnforio neu belenni artiffisial a goleuadau. O wneud hyn, byddech yn dilyn ôl troed cenedlaethau lawer wrth ddathlu'r Nadolig a'r heuldro gan ddod â gobaith mewn tymor tywyll.