Gwell Data = Gwell Cenhadaeth
Mae tiwtor Athrofa Padarn Sant, Alun Evans, wedi'i gyffroi gan ap digidol newydd yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer presenoldeb neu aelodaeth.
Byddai eglwysi yn arfer anfon ffurflen bob blwyddyn i Gorff y Cynrychiolwyr, gan gofnodi ffigurau presenoldeb blynyddol. Ond mae'r ap newydd yn golygu y gellir cofnodi a rhannu presenoldeb mewn gwasanaethau yn gyflym pryd bynnag y bydd gwasanaeth yn cael e gynnal.
Yr hyn sy'n fy nghyffroi yw y gall eglwysi, Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol, a'r eglwys yn genedlaethol ddysgu cymaint am yr hyn sy'n digwydd yn yr Eglwys yng Nghymru, a gall gwell dealltwriaeth ein helpu i fod yn fwy cynhyrchiol yn ein cenhadaeth a'n gweinidogaeth.
Mae'r data a gesglir drwy'r ap ar gael i Ddeoniaid Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol gael mynediad ato, gan ganiatáu i gymunedau eglwysig (ac Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol) ddeall mwy am eu presenoldeb. Bydd eglwysi yn gallu gweld yn gliriach a oes patrymau a beth mae hynny'n ei olygu i'r ffordd maen nhw'n ceisio cenhadu.
Faint yn fwy o bobl sy'n mynychu gwasanaethau yn ystod yr Adfent a thros y Nadolig o'i gymharu â gweddill y flwyddyn? A oes mwy o bobl yn dod dros fisoedd yr haf? A oes mwy o bobl yn mynychu un math o addoliad o gymharu ag un arall? Pe bai eglwys yn ystyried disodli un gwasanaeth y mis gyda math gwahanol o wasanaeth, efallai ar adeg wahanol, oni fyddai'n wych gallu darganfod sut mae presenoldeb wedi newid mewn eglwysi eraill sydd wedi gwneud yr un peth y flwyddyn flaenorol?
Yn fy rôl fel Tiwtor Cenhadaeth yn Athrofa Padarn Sant, mae gen i ddiddordeb hefyd yn yr hyn y gellir ei ddysgu o edrych ar y data ar lefel genedlaethol. Oes yna dueddiadau diddorol yn digwydd yn yr Eglwys yng Nghymru? A beth mae hynny'n ei olygu i genhadaeth yng Nghymru? Mae'n mynd i fod mor ddefnyddiol trafod tystiolaeth gydag ordinandiaid a churadiaid am yr hyn sy'n digwydd, a beth allai hynny ei olygu i'r weinidogaeth.
Mae'r ap wedi bod ar waith ers tua blwyddyn bellach ac mae'n cael ei ddefnyddio'n raddol gan eglwysi ar draws yr Eglwys yng Nghymru. O edrych ar y data sydd eisoes wedi dod i mewn, efallai y bydd rhywfaint o newyddion da i'w rannu am yr hyn sy'n digwydd ar draws yr Eglwys yng Nghymru yn gyfan. Ond mae angen i fwy o eglwysi ddefnyddio'r ap i gael darlun mwy clir o’r sefyllfa.
Gyda ffigurau presenoldeb yn aml yn uwch yn ystod yr Adfent a thros y Nadolig, byddai'n wych pe bai pob eglwys yn dechrau defnyddio'r ap newydd yr Adfent hwn. Mae’n bosib y byddwn yn teimlo'n nerfus, yn poeni efallai na fydd ein ffigurau yn edrych cystal. Ond os gallwn weld yn fwy clir beth sy'n digwydd yn ein heglwysi, gallem weithio'n 'fwy clyfar, ddim yn galetach', gan ddilyn y ffordd y mae Ysbryd Duw yn symud yma yng Nghymru.