Yr Adfent, dechrau'r Flwyddyn Litwrgaidd
David Gleed yn myfyrio ar y tymor nesaf
Gogoniant y flwyddyn litwrgaidd, y tymhorau a'r diwrnodau arbennig sy'n dathlu bywyd a gweinidogaeth Iesu mewn cylch trwy gydol y flwyddyn, yw ei bod yn dod â ni'n ôl at Iesu, waeth lle’r ydyn ni, beth rydyn ni’n wneud, waeth pa mor brysur ydyn ni neu pa mor bell i ffwrdd.
Mae nifer y tymhorau a'r diwrnodau sy'n cael eu dathlu yn amrywio yn dibynnu ar y traddodiad. Mae pob Cristion yn dathlu'r Nadolig a'r Pasg. Mae llawer hefyd yn cynnwys yr Adfent, yr Ystwyll, y Grawys, yr Wythnos Sanctaidd a'r Pentecost. Gall sant penodol neu lawer o seintiau fod yn rhan o galendr a thaith y flwyddyn. Mae pob un yn dathlu cariad Crist. Maen nhw i gyd yn bwyntiau angori, i’n tynnu’n ôl i gael ein hadnewyddu a'n hadfywio, ac i'n hatgoffa fod Iesu gyda ni bob amser.
Ac mae'r cyfan yn dechrau gyda’r Adfent, wrth gychwyn ar y flwyddyn Litwrgaidd newydd.
Fy hun heb neb ond ti fy Nuw
Rwy'n teithio ar fy ffordd
Pa fudd im ofni pan wyt ti gerllaw
Arglwydd y nos a’r dydd?
Diogelach ydwyf yn dy law
Na phe bai torf yn cadw’r gelyn draw.
(Sant Columba)