Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2024 Gwau i Gofio

Gwau i Gofio

Poppies 1 [Llangoedmor]

Cynhaliodd Grŵp Gwau Eglwys Llangoedmor Ŵyl i ddathlu’r pabi coch ar gyfer Sul y Cofio ddechrau Tachwedd.

Daeth cannoedd o bobl i Eglwys Sant Cynllo i weld y miloedd o flodau pabi a gafodd eu creu gan grŵp gwau'r eglwys, ac yna eu cynnwys mewn arddangosfeydd er cof am ryfeloedd byd, glaniadau D-Day a brwydrau eraill.

Roedd rhai ymwelwyr wedi teithio cryn bellter, o Lyn Ebwy a Margam, Llanon a Chaerfyrddin ac Arberth.

"Cafwyd ymatebion mor gadarnhaol,” meddai un o aelodau'r grŵp gwau, Margaret Smith - "disgrifiadau fel hardd, gwych, emosiynol, trawiadol ac anhygoel"

Gêm ddifyr i’r plant oedd dod o hyd i’r llygoden fach sy’n ‘byw’ yn yr eglwys. Tasg y llygoden oedd Gwarchod y Blodau Pabi. Mae'r llygoden fach wlân wedi byw yn yr eglwys ers tro, ond does neb yn gwybod o ble ddaeth hi!