Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2024 Ap i’ch Ffôn clyfar

Ap i’ch Ffôn clyfar

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi lansio Llithiadur digidol newydd.

Digital Lectionary [C]

Nod y wefan/ap pwrpasol yw galluogi defnyddwyr i weld Llithiadur Dyddiol yr Eglwys yng Nghymru ar-lein, darllen testun llawn eu Gwasanaethau Dyddiol yn eu dewis iaith a pharatoi taflenni gwasanaeth a thestunau eraill hefyd.

Mae'r Llithiadur Digidol ar y we (https://lectionary.churchinwales.org.uk/ ). Mae'n dilyn Llithiadur yr Eglwys yng Nghymru ac mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg o'r un ffynhonnell. Wrth ddefnyddio'r Llithiadur Digidol, gallwch symud o gwmpas y flwyddyn litwrgaidd a symud i'r blynyddoedd dilynol, lawrlwytho'r Colectau a Gweddïau Wedi’r Cymun, darlleniadau o'r Beibl a gwybodaeth arall i'ch cyfrifiadur i’ch helpu i gynhyrchu taflenni gwasanaeth ac ati.

Mae modd agor y dudalen we hygyrch hon hefyd ar ffôn clyfar a gellir gosod y dudalen we yn hawdd wedyn fel Ap (gellir gosod yr Ap hefyd, gyda swyddogaeth lawn ar gyfrifiadur bwrdd gwaith). Mae gan yr Ap ar ffôn clyfar holl swyddogaethau’r dudalen we heblaw am y testun y gellir ei lawrlwytho. Os oes angen unrhyw wybodaeth arall arnoch, cysylltwch â Ritchie Craven, Rheolwr Cyhoeddiadau'r Eglwys yng Nghymru: ritchiecraven@churchinwales.org.uk