Gofal ein Gwinllan
Ysgrifau ar gyfraniad Yr Eglwys yng Nghymru i’n llên a’n hanes a’n diwylliant.
Cyfrol 1
Golygyddau: A. Cynfael Lake and D. Densil Morgan
Cyhoeddwr: Y Lolfa 2023
ISBN: 978-1-800994553
Pris: £12
Y mae Gwinllan ein Gofal yn gyfrol wirioneddol bwysig i ysbrydoli Cymry Cymraeg yr Eglwys yng Nghymru, i addysgu’r di-Gymraeg am hanes yr Eglwys, ac i helpu iachau’r clwyfau a achoswyd gan frwydr enbyd y Datgysylltiad. Mae’r is-bennawd Ysgrifau ar gyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i’n llên a’n hanes a’n diwylliant yn disgrifio’r cynnwys a’r amcan yn gryno.
Mae’r ysgrifau yn bennaf yn deillio o gyfres o ddarlithiau byrion mewn weminarau a draddodwyd ar Zoom dros gyfnod y ‘Clo Mawr’ ac wedyn sy’n rhoi hanes y Cymry Cymraeg hynny, o’r cyfieithwyr Beiblaidd yn yr unfed ganrif ar bymtheg , y rhai a’i gwnaeth yn bosibl i Gymry ddeall a darllen eu gwaith, fel y Ficer Prichard a Griffith Jones, i frwdfrydedd tanbaid Williams Pantycelyn, Daniel Rowlands a Howel Harries, Eglwyswyr i gyd, yn y ddeunawfed ganrif. Ond wrth i’r brwdfrydedd hwnnw droi Cymru’n wlad hynod o lythrennog, yr oedd Eglwys Loegr yng Nghymru yn dioddef rhagfarn ac ariangarwch yr ‘Esgyb Eingl’. (Mae angen nodi bod Eglwys Loegr yn Lloegr wedi dioddef yn yr un cyfnod wrth i’r llywodraeth gadw esgobion yn Llundain i bleidleisio trosto yn Nhŷ’r Arglwyddi). Felly ar y dechrau yr oedd esgobion fel William Morgan, Richard Davies a Richard Parry, Archddiaconiaid fel Edmwnd Prys a Thomas Huet gydag offeiriad dysgedigaf Cymru, Dr John Davies Mallwyd yn gosod seiliau beiblaidd cadarn i’r genedl. Erbyn amser y Morrisiaid a Goronwy Owen, Edward Richard Ystradmeurig a Ieuan Fardd, y lleygwyr diwylliedig oedd y rhai oedd yn protestio bod esgobion di-Gymraeg absennol yn apwyntio’u meibion a’u neiant i fywiolaethau Cymraeg yn farwol i’r ffydd ac i enw da’r Eglwys. Nid dim ond esgobion oedd yn euog ond boneddigion Seisnigedig a rheithoriaid absennol hefyd.
Mae cyfoeth wedi ei grynhoi yn yr ysgrifau hyn ac un o’r nodweddion hyfrytaf yw’r dyfyniadau sy’n peri i enwau cyfarwydd droi’n bersonoliaethau byw. Mae gwyleiddd-dra’n ein gorfodi hefyd i nodi bod y mwyafrif o’r ysgrifau wedi eu llunio gan ysgolheigion sy’n Ymneilltuwyr (ac ambell wrthgiliwr am wn i!) Bu’r Athro E Wyn James yn ysgogwr brwdfrydig a Chynfael Lake a Densil Morgan yn olygyddion manwl. Mae lle i fod yn wir ddiolchgar i’r cyfeillion dysgedig a chyfeillgar hyn am eu hamser. eu diddordeb a’u dysg. Mae’r hen gyhuddiad rhagfarnllyd bod yr Hen Fam wedi troi’n Hen Estrones yn cael ei chymhwyso i ddarlun llawer mwy ac amrywiol. Gwelwn yn hytrach Eglwys Gymraeg ei gwreiddiau yn cael ei rheoli gan bobl nad oeddent, am resymau gwleidyddol yn bennaf, yn adnabod nac yn gefnogol i’w gwir dreftadaeth.
Mae’n achos llawenydd bod yr Eglwys ei hunan wedi bod yn hael ei chymeradwyaeth i’r gyfrol. Bu’r Parchedig Ainsley Griffiths yn ddiwyd yn hel cefnogaeth i’r webinarau a staff Athrofa St Padarn, yr Archesgob Andy John hefyd. Daeth adnodd ariannol werthfawr Cronfa Isla Johnston i’r fei.
Prynwch, darllenwch, mwynhewch a diolchwch fod pethau’n gallu newid.
Enid R. Morgan