Yr Esgob yn arwain dathliadau Dydd Gŵyl Dewi gyda neges i wleidyddion Cymru
Mae Esgob newydd Tyddewi yn diolch i wleidyddion Cymru am eu gwaith yn “y dyddiau anodd hyn” yn ei neges Gŵyl Dewi cyntaf i Senedd Cymru.
Gan sicrhau aelodau’r Senedd eu bod yn ei weddïau, mae’r Esgob Dorrien Davies hefyd yn eu hannog gyda geiriau Nawddsant Cymru, Dewi Sant, i fod “yn llawen, cadw’r ffydd a gwneud y pethau bychain”.
Cyflwynwyd y neges i’r Senedd ym Mae Caerdydd gan ddisgyblion ac athrawon o Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn Dewi gyda'r Canon Leigh Richardson, Is-Ddeon Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Mae’n dweud, “Yn ystod y dyddiau anodd hyn i Gymru a’r byd, yr wyf yn ymwybodol o’r cyfrifoldebau a’r pwysau sydd ar holl aelodau’r Senedd wrth i chi wynebu penderfyniadau anodd a sefyllfaoedd heriol.
“Y mae fy neges Dydd Gŵyl Ddewi yn un syml a diffuant. Hynny yw, i ddatgan diolch twymgalon am bopeth yr ydych yn ei wneud dros les pobl Cymru.
“Hoffwn eich sicrhau o’m dymuniadau gorau a gweddïau, ac i rannu geiriau tragwyddol ein nawddsant, Dewi.
“ ‘Byddwch lawen, cedwch y ffydd a gwnewch y pethau bychan a glywsoch ac a welsoch gennyf fi’”.