Grantiau
Rhaglen Grant Cyfalaf Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Adeiladau Hanesyddol
Mae Cadw yn gwahodd ceisiadau ar gyfer y Rhaglen Grant Cyfalaf Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Adeiladau Hanesyddol
Mae'r manylion ar wefan Cadw yn Grant adeiladau hanesyddol | Cadw (llyw.cymru)
Rhaglen Grant Cyfalaf Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Adeiladau Hanesyddol
Mae asedau cymunedol sydd wedi’u rhestru oherwydd eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yn gwneud cyfraniad pwysig at les a bywiogrwydd cymunedau ledled Cymru. Mae eu hyfywdra a’u cadernid wrth i ni wynebu heriau’r newid yn yr hinsawdd yn cael ei danategu gan waith atgyweirio a chynnal a chadw rheolaidd. Felly, bwriad Rhaglen Grant Cyfalaf Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Adeiladau Hanesyddol yw cynnig cymorth ariannol tuag at gynnal a chadw ac atgyweirio asedau cymunedol hanesyddol, fel neuaddau pentref a chymunedol, sefydliadau, llyfrgelloedd, cofebion rhyfel ac addoldai sydd ar gael i’r gymuned ehangach eu defnyddio.
Mae grant o 75% o gost gwaith sy’n gymwys am grant, hyd at uchafswm o £25,000 yr eiddo, ar gael ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio bach amrywiol sy’n angenrheidiol i gadw asedau cymunedol mewn cyflwr da, fel:
- glanhau cwteri dŵr glaw, cafnau a phibelli
- atgyweirio neu newid rhannau o gafnau dŵr ac ati sydd wedi’u difrodi, mân atgyweiriadau i’r to, llechi/teils/cribau rhydd ac ati;
- atgyweirio/adnewyddu gwaith plwm/caeadau plwm;
- gwaith ailadeiladu bach, e.e. cyrn simnai/parapetau;
- atgyweirio neu ailbwyntio ardaloedd bach o waith maen;
- atgyweirio ac ailaddurno gwaith coed;
- atgyweirio gwydr ffenestri/drysau;
- atgyweirio gwaith plastro;
- atgyweirio waliau a rheiliau ffin;
Dylai’r gwaith gael ei wneud gan gontractwr gyda sgiliau cadwraeth / profiad o adeiladau hanesyddol ac yn dibynnu ar gymhlethdod y gwaith, dylai gael ei nodi gan bensaer neu syrfëwr siartredig sydd wedi’i achredu i wneud gwaith cadwraeth.
Grantiau ar gyfer Ymgeiswyr am Urddau
Cronfa Cleaver ar gyfer Ymgeiswyr am Urddau
http://www.cleaver.org.uk/
Bwriad Cronfa Cleaver ar gyfer Ymgeiswyr am Urddau yw cefnogi ac annog ymgeiswyr Anglicanaidd sydd â dealltwriaeth gonfensiynol o’r offeiriadaeth gatholig, a phwysleisio pa mor allweddol yw dysgeidiaeth ddiwinyddol gadarn a pharhaol ymhlith clerigiaid.
Mae’r Gronfa’n cynnig:
Grantiau llyfrau ar gyfer ymgeiswyr ymhob blwyddyn o’u hyfforddiant ffurfiol cyn eu hordeinio;
Grantiau i glerigiaid ar gyfer astudiaethau ôl-radd;
Grantiau llyfrau, tanysgrifiadau llyfrgell, etc., ar gyfer clerigiaid a ordeiniwyd ers deng mlynedd neu fwy, er mwyn astudiaethau diwinyddol parhaol;
Grantiau i glerigiaid ar gyfer astudiaethau sabothol yn cynnwys ymchwil academaidd ac ysgrifennu dwys;
Grantiau i gefnogi ymgeiswyr sy’n ystyried ac yn archwilio, galwedigaeth i’r offeiriadaeth, a sy’n treulio cyfnod prawf mewn plwyf, fel rhan o’r broses.
Y Gymdeithas er Cynorthwyo Clerigiaid Tlawd
https://www.cpas.org.uk/advice-and-support/other-advice-and-support#.VZKUFRtVhHw
Mae grantiau CPAS i Weinidogion dan Hyfforddiant yn ariannu Grantiau i ymgeiswyr am urddau i’w cynorthwyo yn ystod eu cyfnod hyfforddi.
Gallwch lawrlwytho taflen wybodaeth, ffurflen gais a ffurflen gyllideb. Gofalwch ddarllen y daflen wybodaeth, lle mae amodau gogyfer â derbyn grant, cyn cwblhau ffurflen gais. Ystyrir ceisiadau deirgwaith y flwyddyn, a dylid eu hanfon erbyn diwedd Medi, Ionawr neu (ar gyfer myfyrwyr heb fod yn eu blwyddyn olaf), Ebrill.
SPCK
Ymddiriedolaeth Richards
www.spck.org.uk/the-richards-trust/index/
Gweinyddir y gronfa hon gan yr SPCK, er cynorthwyo ymgeiswyr am urddau
sy’n brin o arian. Cronfa wrth law yw hi er cynorthwyo ymgeiswyr sydd â phroblemau ariannol yn ystod eu cyfnod coleg.
Elusen Coleg St Aidan
http://www.spck.org.uk/grants/richards-trust/
Grantiau tuag at dreuliau byw, llyfrau, treuliau cyfnod lleoli ac amodau annisgwyl. g. Board of Finance. Church House, 5500 Daresbury Park, Daresbury, Warrington WA4 4GE. Ffôn: 01928 718834
Ymddiriedolaeth St Boniface
http://www.stbonifacetrust.org.uk/
Elusen fechan er hybu’r Grefydd Gristionogol yn unol ag egwyddorion y ffydd Anglicanaidd ymhob rhan o’r byd yw hon. Y mae hi ar gael yn enwedig ar gyfer addysg a hyfforddiant clerigiaid a lleygwyr, drwy ddyfarnu ysgoloriaethau a lwfansau cynnal a chadw, neu unrhyw bwrpas cysylltiedig â’u lles ysbrydol neu dymhorol.
Rheolir gan Gyngor St Boniface a chyferfydd yr ymddiriedolwyr 4 gwaith y flwyddyn.
Grantiau i Glerigiaid
Gwyliau
Tranquillity House
Ysgrifennydd Grantiau: Mrs Ridgeway, Tranquillity House Trustees, 9 Merrivale View Road, Dousland, Yelverton, Devon PL20 6NS.
Mae’r Ymddiriedolaeth hon yn elusen sy’n cynnig grantiau, yn arbennig i alluogi clerigiaid i gael gwyliau; wrth ddyfarnu’r cyfryw grantiau telir sylw yn bennaf i’r clerigiaid hynny sydd heb fod yn fras eu byd. Enwebir ymgeiswyr cymwys gan yr Esgob.
Addysg
Grantiau Ariannol yr Ecclesiastical ar gyfer y Weinidogaeth
http://www.ecclesiastical.com/churchmatters/news-and-faqs/newsletters/mba-awards/index.aspx
Bu’r Grantiau hyn o gymorth i gannoedd o weinidogion gymryd saib sylweddol ar gyfer astudio. Mewn gwirionedd, ers sefydlu’r corff hwn yn 1987, blwyddyn ganmlwyddiant Ecclesiastical, derbyniodd bron 1,000 o glerigiaid gymorth ariannol am amrediad eang o brosiectau a chynlluniau yn ystod saib estynedig.
Meini Prawf ar gyfer derbyn Cymorth
Rhaid cydymffurfio â’r canlynol:
- Clerigiaid unigol yn Eglwys Anglicanaidd Lloegr, yr Alban, Cymru ac Iwerddon.
- Rhaid i bob ymgeisydd am grant fod yn weinidog llawn-amser yn yr Eglwys Anglicanaidd ac wedi ei (h)ordeinio ers 10 mlynedd o leiaf.
- Gall urddasogion - Archddiaconiaid, Esgobion a Deoniaid – hefyd ymgeisio.
- Dyfernir grantiau gogyfer â chyfnodau saib-astudio estynedig yn unig; ni fydd cwrs hir-dymor megis PhD yn gymwys, ac ni roddir grantiau gogyfer â thalu ffïoedd Prifysgol (er y bydd cwrs, yn ystod cyfod astudio estynedig yn gymwys).
Rhaid defnyddio’r ffurflenni cais priodol.
Meini Prawf ar gyfer Dyfarnu
Dyfernir maint y grantiau unigol yn ôl y canlynol:
- Y gwerth i’r ymgeisydd unigol
- Y budd i’r eglwys ehangach
- Y gefnogaeth ariannol a addawyd o fannau eraill
- Pa mor gadarnhaol yw argymhelliad Esgob/Archddiacon wrth gefnogi’r cais.
Ymddiriedolaeth Gyllid Ewropeaidd
Cysyllter â Parch Ian Holdcroft, the Vicarage, 780 Whitchurch Lane, Whitchurch, Bristol BS14 0EU
Grantiau gogyfer â theithio i astudio eglwys a gwlad yn Ewrop. Anfoner cais cyn 31 Rhagfyr y flwyddyn ganlynol.
Cymdeithas y Ddeilen Fasarn (Fellowship of the Maple Leaf)
http://www.mapleleaf.org.uk/
Swyddogaeth y gymdeithas hon yw hybu cysylltiadau rhwng yr Eglwys yng Nghanada a’r Deyrnas Unedig, drwy hyrwyddo dysgu, y naill gan y llall wrth gydymwneud yn ddiwylliannol.
Mae yna ddau fath o grant i’r perwyl hwn:
Grantiau ariannol i glerigiaid unigol, ymgeiswyr am urddau a lleygwyr, er mwyn astudio a rhyng-brofi diwylliannau: perthnasol i bobl Canada yn ymweld â’r DG, ac i’r gwrthwyneb. Gall rhain fod ar gyfer lleoliadau estynedig yn para tri mis neu fwy, neu leoliadau byrion o lai na thri mis.
Grantiau ar gyfer prosiectau. Er enghraifft:
- Prosiectau er datblygu gweinidogaeth.
- Prosiectau ym maes addysg a hyfforddiant Gristionogol, cyfrifoldeb cymdeithasol, cyfathrebu croes-ddiwylliannol a gwaith bugeiliol.
- Prosiectau yn perthyn i frodorion y ‘Cenhedloedd Cyntaf’ mewn 'Esgobaethau Nawdd' yng Nghanada.
- Mae’r Ymddiriedolwyr yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn ym Mawrth a Medi i drafod gwaith y gymdeithas a dyfarnu’r grantiau. Gellir ymgeisio ar unrhyw adeg; trefnir dyfarnu grantiau yn y cyfnodau rhwng cyfarfodydd Ymddiriedolwyr, lle bo hynny’n addas.
Llyfrgell St Deiniol (Gladstone)
https://www.gladstoneslibrary.org/contact/about-the-library/scholarships-bursaries
Rhoddir disgownt i glerigiaid a myfyrwyr, hefyd graddfeydd sabothol a nifer cyfyngedig o ysgoloriaethau a grantiau i’r sawl a fynn ymchwilio, darllen neu ysgrifennu yn Lôlyfrgell St Deiniol.
Ymddiriedolaeth Goffa Josephine Butler
http://www.josephinebutler.org.uk/documentation/
Wrth bwyso a mesur hawl unigolion i dderbyn cymorth, mae’r Ymddiriedolwyr yn eiddgar i gefnogi ceisiadau lle mae’r astudiaeth yn cyplysu ffydd Gristionogol a gweithredu cymdeithasol ymarferol. Fel rheol, ni ddyfernir grantiau tuag at dreuliau cynnal a chadw personol; yn hytrach, treuliau dysgu a chostau eraill cysylltiedig â hynny a ystyrir, ac felly, at ei gilydd, ni chynigir cymorth o ran astudio graddau cyntaf. Uchafswm o £500 a roddir i unigolion, fel arfer. Gwelir manylion am fathau o grantiau a sut i ymgeisio, ar y wefan.
Cronfa Goffa Philip Usher
http://www.philipusherfund.org.uk/apply.html
Cynigir ysgoloriaethau a grantiau teithio i’r sawl sydd yn dymuno mynd dramor i astudio Eglwys Uniongred y Dwyrain. Bydd maint yr ysgoloriaeth yn dibynnu ar y wlad yr ymwelir â hi; hefyd hyd yr arhosiad. Rhaid i ymgeiswyr fod yn weinidogion ordeiniedig neu wedi eu derbyn i baratoi at y weinidogaeth.
Rhoddir blaenoriaeth i rai sydd o dan 36 oed. Rhaid iddo/iddi fod yn barod i dreulio rhwng chwech a deunaw mis dramor yn astudio ffydd a hynt ymarferol Eglwys Uniongred.
Mae yna amod pendant ynghlwm wrth yr ysgoloriaeth, sef fod yn rhaid cyflwyno ymdriniaeth ysgrifenedig (ynghyd â gogwydd diwinyddol) am gyfnod astudio’r Eglwys Uniongred, o fewn chwe mis ar ôl dychwelyd.
Yn ychwanegol at yr Ysgoloriaeth, gall y Pwyllgor ddyfarnu grantiau llai ar gyfer cyfnodau byrrach o astudiaeth Uniongred, a bwrw fod ceisiadau teilwng i law, a bod adnoddau ariannol ar gael.
Cronfa Provost Howard
Cysyllter â: The Precentor, Coventry Cathedral, 1 Hill Top, Coventry CV1 5AB
Cronfa yw hon sy’n cynnig grantiau gogyfer ag astudiaethau diwinyddol cysylltiedig â deall a hybu eciwmeniaeth, hefyd brosiectau ymarferol yn ymwneud â chymod a dealltwriaeth ryngwladol. Rhaid i ymgeiswyr ddangos fod eglwysi eraill yn rhan amlwg o’u syniadau a’u bwriadau. Rhaid anfon cais cyn mis Mehefin.
Ymddiriedolaeth St Sior
http://www.fsje.org.uk/sgeorges.php
Mae grantiau ar gael i glerigiaid Anglicanaidd, seminariaid a myfyrwyr. Ar hyn o bryd mae’r grantiau’n werth hyd at £350. Mae’r Ymddiriedolwyr, yn flynyddol, yn penderfynu maint y cyllid sydd ar gael, a dyfernir grantiau yn unol â hynny. Cynghorir pobl, felly, i ymgeisio’n gynnar yn y flwyddyn.
Clerigiaid – Mae grantiau i glerigiaid cyflogedig yn gyfyngedig i’r sawl sy’n manteisio ar gyfnodau sabbothol. O ran clerigiaid hunangyflogedig (na chant ond yn bur anaml, gyfnodau sabothol) mae grantiau ar gael ar gyfer astudio cydnabyddedig. Cyfraniad at deithio a thalu am lety cysylltiedig â’r gwaith astudio, fydd y grant fel rheol. Disgwylir geirda i’r ymgeisydd gan esgob, archddiacon neu swyddog addysg barhaol cyn y gellir ystyried cais.
Sefydliad Coleg St Luc
http://www.st-lukes-foundation.org.uk/
Unigolion sy’n ymgymryd â gwaith ymchwil a chymwysterau ôlraddedig mewn meysydd arbennig fydd yn elwa o’r grantiau hyn; ond mae cymorth ar gael hefyd i fudiadau cymwys sy’n ymwneud â phynciau cyd-berthynol. Nid yw’r Sefydliad yn talu tuag at adeiladau, nac yn cyflwyno grantiau i gyrff eraill eu gweinyddu; ac ni ellir cefnogi ysgolion yn uniongyrchol (er y gellir noddi athrawon sy’n ymgymryd ag astudiaethau cymwys). Mae’r rhan o’r wefan hon sy’n nodi “Awards” yn cynnwys manylion ynglŷn â’r amrywiol enghreifftiau o noddi pobl a sefydliadau, gan esbonio hefyd sut i ymgeisio.
Noder mai rhwng Ionawr a Mai yn unig y gellir anfon ceisiadau. Dyfernir grantiau ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol.
Plant Clerigiaid
Ymddiriedolaeth Buttle
http://www.buttleuk.org/pages/grant-programmes.html
- Grantiau bychain — am declyn neu wasanaeth sy’n allweddol o ran lles plentyn.
- Grantiau Ffïoedd Ysgol - help gyda chostau addysg plant sydd ag anghenion dwys, na all y wladwriaeth dalu amdanynt.
- Grantiau i fyfyrwyr a phobl dan hyfforddiant – mae’r cynllun hwn dan arolwg ar hyn o bryd.
Elusen Lawrence Atwell
http://www.theskinnerscompany.org.uk/grants-and-trusts/lawrence-atwells-charity/
Mae’r elusen hon yn cynorthwyo pobl ifainc o gefndir incwm-isel i ennill cymwysterau neu i dderbyn hyfforddiant i ddilyn gyrfa yn eu dewis faes.
Ymddiriedolaeth Rustat
http://www.durham.anglican.org/resources/financial-help-for-clergy-with-children-of-school-age.aspx
Gweinyddir yr Ymddiriedolaeth gan Goleg Iesu, Caergrawnt, gan gynnig cymorth i glerigiaid sydd â phlant oed-ysgol. Mae grantiau bychain ar gael at unrhyw ddiben addysgol, gan gynnwys gwisg swyddogol, prydau ysgol a chludiant. Rhoddir ystyriaeth i bob achos cymwys, eithr yn arbennig i glerigiaid nad ydynt yn ebrwyaid, ond â chanddynt blant mewn ysgolion gwladol.
Rhaid i’r awdurdodau esgobaethol gymeradwyo pob cais, gan arwyddo i’r perwyl, a rhaid cyflwyno datganiad ariannol, a manylion am oedrannau ac ysgolion plant.
Gall yr Ymddiriedolwyr ddarparu cymorth ariannol hefyd i blant clerigiaid, a sicrhaodd le i astudio yng Ngholeg Iesu. Y bwriad yw denu ymgeiswyr teilwng o deuluoedd clerigol, a rhoi grant i’r ymgeiswyr llwyddiannus fel rhywbeth atodol ar gyfer eu cynhaliaeth o ddydd i ddydd, fel na bo angen, efallai, iddynt fenthyca.
Cymorth â Dyled
Cristionogion yn erbyn Tlodi
https://capuk.org/
Elusen genedlaethol yn cynghori ynglŷn â dyled yw hon, gyda rhwydwaith o 36 canolfan leol yn cynnig gwasanaethau cynghori ymarferol, ynghyd ag addysg materion ariannol.
Cymorth Cyffredinol yn ystod Caledi
Ymddiriedolaeth Gefnogi Clerigiaid
https://www.clergysupport.org.uk/
Corff sy’n cynnig cymorth i glerigiaid Anglicanaidd a’u teuluoedd pan fo amgylchiadau’n anodd. Os oes yna anawsterau ariannol nau deuluol, mae yma le i droi. Mae’r Ymddiriedolaeth yn cefnogi clerigiaid Anglicanaidd (gan gynnwys ymgeiswyr am urddau a phobl wedi ymddeol) a’u teuluoedd yn y DG & Iwerddon. Chwiliwch y gwiriwr cymhwysedd ar y wefan, er mwyn gweld a ydych yn gymwys, a sylwch ar y grantiau: ar gyfer cefnogi dyled, materion brys, iechyd, cefnogaeth ariannol a llesiant.
Ymddiriedolaeth Elizabeth Finn
https://www.elizabethfinncare.org.uk/
Lleddfu angen a gofid ymhlith Prydeinwyr a Gwyddelod, ynghyd ag aelodau agosaf eu teuluoedd, ac o amrywiaeth helaeth o swyddi a chefndiroedd – dyna yw amcan yr Ymddiriedolaeth hon. Mae enwadaeth grefyddol, safbwynt wleidyddol, oed a thrigfan , yn amherthnasol pan yn dyfarnu pwy sy’n debyg o dderbyn cymorth. Fe all angen a gofid gwmpasu anawsterau henaint, llesgedd, anabledd, unigedd cymdeithasol neu gyni ariannol.
Mae dau fath o bobl yn debyg o dderbyn cymorth: rhai yn byw yn eu cartrefi eu hunain a chanddynt lai na £16,000 ar eu helw ar wahan i’w tŷ, a’r rheiny sydd angen cymorth â ffïoedd cartref gofal neu gartref nyrsio, a chanddynt lai na £12,250.
Gwŷr/Gwragedd Clerigiaid a Chlerigiaid wedi Ymddeol
Defodau Briw (Broken Rites)
http://www.brokenrites.org/support-links.html
Cydgymdeithas annibynnol, genedlaethol gwragedd clerigiaid Anglicanaidd, gweinidogion a Swyddogion Byddin yr Eglwys, a phawb ohonynt wedi ysgaru neu ymwahanu. Y pwrpas yw cefnogi a chynnig cymorth ymarferol i wŷr a gwragedd wedi ymwahanu neu ysgaru.
Elusen Dr George Richards
Dr. Paul Simmons, Flat 96 Thomas More House, Barbican, London. EC2Y 8BU
Cynigir cymorth ariannol i glerigiaid Anglicanaidd sydd wedi ymddeol yn gynnar oherwydd afiechyd; hefyd gwŷr gweddw a phlant sy’n dibynnu arnynt. Rhaid cwblahu ffurflen gais A4, 2-ochr. Mae’r Ymddiriedolwyr yn cyfarfod ym Mehefin a Thachwedd.
Ymddiriedolaeth Newton
Email newtonslichfield@gmail.com
Sefydlwyd er mwyn darparu cymorth ariannol i weddwon, gwŷr a gwragedd ysgaredig neu wedi ymwahanu, a phlant dibriod – pob un ohonynt yn perthyn i glerigiaid Eglwys Loegr, yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Esgobol yr Alban, a fuasai farw. Ceir gwybodaeth bellach drwy ddefnyddio’r ebost uchod.
Cymdeithas Mair a Martha
http://www.sheldon.uk.com/
Prif amcan yr elusen hon yw cefnogi gweinidogion Cristionogol a’u/neu eu gwŷr/gwragedd, yn enwedig ar adegau o straen, argyfwng, gorweithio neu salwch meddyliol. Mae’r gwaith arbenigol a chenedlaethol hwn yn digwydd at ei gilydd, mewn cyd-destun encil a byd addysg.
Turn 2 us
https://www.turn2us.org.uk/Get-Support
Elusen genedlaethol sy’n helpu pobl mewn anawsterau ariannol i sicrhau budd-daliadau lles, grantiau elusennol a gwasanaethau cefnogi. Mae modd chwilio’n ddyfal am grantiau a chymorth drwy gyfrwng y wefan.