Galwedigaethau
Mae’r eglwys Anglicanaidd yn Esgobaeth Tyddewi yn gymuned Gristnogol sy’n rhoi pwyslais ar wasanaethu.
Mae angen i ddilynwyr ffordd Crist fod yn Weision:
- Gweision i Grist
- Gweision i’w Eglwys
- Gweision i’w bobl
Mae Duw yn galw ei holl bobl i wasanaeth Cristnogol.
Beth yw eich galwedigaeth benodol chi?
Efallai bod rhywun eisoes wedi gwneud sylw am ddawn benodol sydd gennych y gallai Duw ei defnyddio yn ei eglwys.
Mae angen Cristnogion ar Dyddewi i wasanaethu fel:
- presenoldeb yn y gweithle
- Gwirfoddolwyr Cymunedol
- Swyddogion Eglwysig
- Cynorthwywyr Ewcharistig
- Partneriaid Gweddi
- Darllenwyr a Chyfryngwyr Addoliad
- Arweinwyr Addoliad
- Cerddorion
- Darllenwyr Lleyg
- Gweithwyr Plant ac Ieuenctid
- Gweinidogaeth mewn cyd-destun dwyieithog
- Offeiriaid (Anghyflogedig)
- Offeiriaid (Cyflogedig)
Mae Tîm Cyfathrebu’r Esgobaeth wedi cynhyrchu cyfres o fideos byr am alwedigaeth gyda phobl sydd wedi dilyn amrywiaeth o deithiau ffydd ac sydd wedi ymateb i alwad.
- Gwylio ein ffilmiau am alwedigaethau
Beth i’w wneud nawr?
Treuliwch amser yn gweddïo am yr hyn rydych chi’n ei feddwl ac yn ei deimlo. Siaradwch â ffrind y gallwch ymddiried ynddo. Gofynnwch i eraill weddïo drosoch – a gyda chi.
Os hoffech gyfarfod â rhywun i archwilio galwad Duw ar gyfer eich bywyd, siaradwch â’ch ficer a chysylltwch â chynghorydd galwedigaethau.
- Cydlynydd – y Parch. Mark Ansell E-bost: markansell@cinw.org.uk