Cymrodoriaeth galwedigaeth
Mae Duw yn galw ar bob un ohonom mewn cymaint o ffyrdd i wneud Ei ewyllys.
Ydych chi, neu ydych chi'n nabod rhywun sy'n cael ei alw gan Dduw? Os felly, rydyn ni yma i'ch helpu.
Mae ein Cymrodoriaeth yn ymwneud ag archwilio’r hyn rydyn ni'n teimlo mae Duw yn ein galw iddo; efallai i fod yn warden eglwys, yn llywodraethwr sylfaen, yn Gynorthwyydd Ewcharistaidd - mae'r rhestr yn ddi-ben-draw a dydy Cymrodoriaeth ddim ar gyfer y rhai sy’n teimlo eu bod wedi cael eu galw i weinidogaeth drwyddedig neu ordeiniedig yn unig.
Cofiwch:
- does dim pwysau
- does dim gwaith cartref
- mae yna awyrgylch ofalgar lle gall pobl siarad a gwrando, rhannu pryd o fwyd a chwmni ei gilydd
- mae cyfle i ddarganfod pa mor debyg – a pha mor wahanol – rydyn ni i gyd yn clywed galwad Duw yn ein bywydau.
Os ydych chi'n clywed galwad Duw yn eich bywyd, os ydych chi'n chwilfrydig neu'n teimlo'n ansicr am yr hyn y mae'r cyfan yn ei olygu, yna rydyn ni yma i chi. Siaradwch â'ch ficer, eich cynullydd Ardal Gweinidogaeth Leol, eich Deon Ardal, un o'n cynghorwyr galwedigaethau neu'r tîm Datblygu Lleygion (<<<maen nhw wedi'u rhestru drosodd ar ochr chwith y dudalen hon)
Mae yna grwpiau Cymrodoriaeth Galwedigaeth ledled yr esgobaeth ac mae mwy yn cychwyn bob blwyddyn.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Cydlynydd Cymrodoriaeth Galwedigaeth, Sophie Whitmarsh