Hafan Ffydd Cursillo

Cursillo

Cursillo St Davids Welsh Leaflet 2024 P1

Cursillo St Davids Welsh Leaflet 2024 P2

Mudiad o fewn yr Eglwys yw Cursillo, sy'n cael ei arwain gan leygwyr a rhai ordeiniedig er mwyn cynnig ffordd i Gristnogion dyfu trwy weddi, astudiaeth a gweithred, ac i rannu cariad Duw gyda phawb.

Mae Cursillo yn weithredol yn Esgobaeth Tyddewi. Mae aelodau yn cyfarfod yn rheolaidd i weddïo, addoli, gwrando a rhannu pryd o fwyd, a rhwng y cyfarfodydd hyn mae grwpiau lleol llai yn cyfarfod i rannu ac annog.

CURSILLO st davids + logo.jpg

Mae Cursillo wedi bod yn brofiad canolog ar daith ffydd sawl un. Efallai eich bod wedi bod ar y daith honno am beth amser ond yn teimlo fod mwy i'w ddarganfod. Efallai mai Cursillo yw'r union beth i chi!

Mae taith Cursillo yn dechrau gydag encil tridiau o hyd - ond mae’n dipyn gwahanol i’r encil arferol. Mae yna sgyrsiau a myfyrdodau, trafodaethau grŵp bach, cydaddoli a chyfle am gymdeithas a hwyl gyda chyd-bererinion. Ond nid dyna’r cyfan - cewch eich gwahodd i ymuno â chymuned newydd, os dymunwch chi, sy'n cyfarfod yn rheolaidd mewn gwahanol ffyrdd i annog a chefnogi y naill a’r llall yn yr hyn a elwir "y Pedwerydd Diwrnod" – gweddill eich bywyd!

Encil?

Mae'r encil tridiau yn gyfle i gamu yn ôl o brysurdeb yr oes fodern a gofyn rhai cwestiynau treiddgar amdanom ni ein hunain a'n perthynas â Duw ac eraill. Mae hynny'n swnio'n brofiad reit ddychrynllyd - ond mae Cursillo yn seiliedig ar weddi a derbyn gras Duw fel y gallwn ni fod yn driw i ni’n hunain a 'gadael fynd a gadael y cyfan i Dduw’. Wrth i ni wrando ar straeon pobl eraill a rhannu ein straeon ein hunain, rydyn ni'n dod o hyd i safbwyntiau newydd a maeth ar ein taith. O ie - ac rydyn ni’n cael llond gwlad o hwyl hefyd! Gallwch ddysgu mwy am y cwrs YMA

"Pedwerydd diwrnod?"

Felly, nid diwrnod yw "Y Pedwerydd Diwrnod" fel y cyfryw, ond yn hytrach mae'n ymadrodd sydd wedi'i fathu i ddisgrifio'r hyn sy'n digwydd yn barhaus ar ôl Cursillo. Yn fyr, mae cyfle i ymuno â llond llaw o Cursillistas eraill (y rhai sydd wedi bod ar Cursillo) mewn grŵp bach sy’n cwrdd yn rheolaidd - efallai’n wythnosol, bob pythefnos neu'n fisol - gyda chyfle i rannu gydag eraill sut mae pethau'n mynd. Yn ogystal ag Aduniad Grŵp, mae yna gynulliadau mwy bob hyn a hyn, a drefnir yn aml ar sail esgobaethau. Rydyn ni’n galw’r rhain yn Ultreyas - gair Sbaeneg arall! - ac maen nhw’n gyfle i gydaddoli ac annog ein gilydd. Gallwch ddysgu mwy am y pedwerydd diwrnod YMA

Trobwynt?

Mae yna un peth sy'n aml yn denu pererinion at Cursillo. Er eu bod yn gymharol ddiogel yn eu ffydd, mae yna rywbeth sy’n peri iddyn nhw gredu bod mwy i ddarganfod efallai. Gall Cursillo fod yn drobwynt lle rydyn ni’n penderfynu bod angen i ni ddechrau rhoi o’r neilltu rhai pethau roedden ni’n credu oedd mor bwysig; ac efallai y daw rhyw gyfeiriad newydd nad ydyn ni efallai wedi'i ystyried i'r amlwg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: https://www.churchinwales.org.uk/cy/ Esgobaeth Dewi Sant

Os hoffech ddod i gwrdd â ni, mae croeso i chi gysylltu gyda'r Parch David Payne, revdrpayne@btinternet.com neu Caroline Llewellyn cursillostdavidslaydirector@btinternet.com