2024: Blwyddyn Halen & Goleuni
Mathew 5:13 Chwi yw halen y ddaear
Mathew 5:14 Chwi yw goleuni’r byd.
Trwy olrhain themâu Gweddi, Disgyblaeth a Phererindod Adfent 2023, bydd Esgobaeth Tyddewi yn canolbwyntio ar Gyfrifoldeb Cymdeithasol.
Mae blwyddyn Halen a Goleuni, sef yr enw a roesom arni, yn naturiol yn olrhain sut mae bod yn ddisgybl, ac yn ein helpu i ganolbwyntio ar sut rydyn ni’n byw ein bywydau yng nghyd-destun y byd ar ein taith trwy fywyd bob dydd.
Mae cyfrifoldeb cymdeithasol mor fawr ac mor eang fel na fyddai'n ymarferol ceisio datrys y cyfan mewn blwyddyn hyd yn oed. Felly, rydyn ni wedi dewis canolbwyntio ar lond llaw o feysydd yn ystod gwahanol dymhorau’r flwyddyn. Roedd yr Esgob Joanna yn awyddus i'n hannog i godi ein llygaid nid yn unig i fyny ond hefyd tuag allan, nid dim ond canolbwyntio ar Dduw neu ar ein hunain neu'r materion agosaf atom, ond ar y byd ehangach rydyn ni'n byw ac yn symud ynddo.
Felly, bydd elfen o her, a bydd gofyn i ni ystyried pethau sy’n achosi peth anesmwythdra i ni efallai. Elfen arall yw un o anogaeth. Yn syml, mae cyfrifoldeb cymdeithasol yn rhan mor annatod o'r ffydd Gristnogol, gyda llawer ohonom eisoes yn cyfranogi i hynny mewn rhyw ddull neu fodd. Gallech fod yn gwirfoddoli; yn eiriolwr; yn lledaenu neges Iesu o gariad, gobaith a heddwch; neu gallech fod yn gymydog da; ni ddylem danbrisio pa mor effeithiol yw "gwneud y pethau bychain", ac mae hynny cystal â dweud na ddylem danbrisio effaith halen a goleuni.
Calendr:
- Gorffennaf 2024 - Masnachu mewn Pobl / Caethwasiaeth
- Awst 2024 - Teulu
- Tymor y Greadigaeth 2024 – Yr Amgylchedd
- Hydref 2024 - Ffermio a Physgota
- Tymor y Deyrnas 2024 - Heddwch a Rhyfel