Awdurdod Addysg Esgobaeth Tyddewi
Nod Tîm Addysg yr Esgobaeth yw ceisio cynrychioli a hyrwyddo buddiannau'r Eglwys yng Nghymru ym maes addysg yn Esgobaeth Tyddewi.
Cyfrifoldeb Awdurdod Addysg yr Esgobaeth
Mae Awdurdod Addysg yr Esgobaeth yn ceisio cyflawni ei genhadaeth yng nghyswllt arbennig yr Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir gan yr Esgobaeth, ond mae hefyd yn ceisio sefydlu cysylltiadau a chydweithredu pellach ag Ysgolion Cymunedol a Cholegau Addysg Uwch a Bellach o fewn Esgobaeth Tyddewi
Mae'n cyflawni'r gwaith hwn mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, y Gymdeithas Genedlaethol a phob asiantaeth wirfoddol arall.
Yn benodol, mae'n cynnig cyngor ac arweiniad i Lywodraethwyr Ysgolion yr Eglwys ar y gwaith o addysgu a darparu adnoddau Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd a llywodraethu ysgolion, ac mae'n goruchwylio'r arolygiad Adran 50 mewn ysgolion gwirfoddol.
O ran addysg statudol, mae hefyd yn Awdurdod Addysg a ddynodwyd yn briodol ac yn gyfreithiol ar gyfer Esgobaeth Tyddewi. Yn ymarferol, mae Cyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth, gyda chymorth Swyddogion Addysg eraill yr Esgobaeth, yn gweinyddu ei swyddogaethau cyfreithiol ar ran yr Esgob. Trwy waith Cyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth a'i gynorthwywyr, mae Awdurdod Addysg yr Esgobaeth yn ymwneud â;
- phenodi llywodraethwyr i gyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol;
- sefydlu ysgolion newydd;
- staffio ysgolion yr Eglwys;
- cynnig cyngor i'r Esgob ar faterion addysg statudol.
Mae hefyd yn gweithio'n agos gyda Thimau Esgobaethol eraill sy'n ymwneud ag addysg yn yr Esgobaeth.
Dogfennau defnyddiol
Rhagor o wybodaeth