Hyfforddiant Diogelu
Gwahoddiad i'r rhai sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth yn yr eglwys i fynychu sesiwn hyfforddiant Diogelu drwy'r iaith Gymraeg.
Mae sesiwn Modiwl C - Diogelu ac Arweinyddiaeth i gymryd lle yn Eglwys Dewi Sant, Cilgant Sant Andrew, Caerdydd ar nos Lun 7ed o Hydref 6yh-9yh. Dyma gyfle gwych i unigolion ar draws yr Esgobaeth - ac yn ehangach - i fynychu'r sesiwn hon a fydd yn cael ei chyflwyno drwy'r iaith Gymraeg.
Hyfforddiant Diogelu yn Esgobaeth Tyddewi
Am fanylion pellach, mae croeso ichi gysylltu a Meleri Cray, Swyddog Hyfforddi ac Ymgysylltu Diogelu ar melericray@cinw.org.uk