Stiwardiaeth ariannol

Rhodd Cymorth
Mae Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth wedi cyhoeddi canllawiau newydd i helpu Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol i fanteisio'n llawn ar eu gweithgareddau codi arian.
Mae Rhodd Cymorth yn gynllun gan Lywodraeth y DU sy'n galluogi elusennau a Sefydliadau Corfforedig Elusennol i adhawlio'r dreth sy'n cael ei thalu ar roddion pobl. Mae hawlio Rhodd Cymorth yn gallu cynyddu gwerth yr hyn a roddir 25%.
Mae Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol ac eglwysi yn gallu manteisio ar y cynllun mewn tair ffordd:
Rhodd Cymorth - rhaid i'r rhoddwr fod yn drethdalwr Incwm neu Enillion Cyfalaf a rhaid llofnodi Datganiad Rhodd Cymorth. Yna gall yr Eglwys/Ardal Gweinidogaeth Leol adhawlio'r dreth ar y rhodd/rhoddion. Mae hyn yn cynnwys rhoddion untro a rhoddion rheolaidd. Hefyd, rhaid cadw cofnodion a thrywydd archwilio priodol.
Mae'r Bwrdd yn argymell bod yr holl Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol ac eglwysi yn gwneud y canlynol:
(i) gweithredu Cynllun Rhodd Cymorth effeithiol;
(ii) sicrhau bod eu hawliadau yn gyfredol. Gellir ôl-ddyddio hawliadau am hyd at bedair blynedd.
GASDS (Cynllun Rhoddion Bach Rhodd Cymorth) – ar gyfer rhoddion hyd at £30 yr un. Addas ar gyfer pethau fel casgliadau plât rhydd, arian parod a rhoddion digyswllt yn unig. Nid yw'r cynllun hwn yn gysylltiedig â faint o dreth y mae rhoddwr wedi'i thalu.
Rhoi yn Syth – Mae'r cynllun hwn ar gyfer pobl sydd am roi yn rheolaidd trwy Ddebyd Uniongyrchol ac mae'n cael ei weinyddu gan Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru. Mae'r rhodd yn mynd i'r eglwys y mae'n cael ei roi iddi, mae Corff y Cynrychiolwyr yn hawlio'r Rhodd Cymorth, ac mae'n talu'r rhodd yn uniongyrchol i'r eglwys. Gall y rhoddwr ddiwygio neu ganslo ei ddebyd uniongyrchol ar unrhyw adeg. Mantais y trefniant hwn i'r Eglwys yw ei fod yn creu llai o waith gweinyddol gan fod y Rhodd Cymorth yn cael ei hawlio'n rheolaidd gan Gorff y Cynrychiolwyr. Mae'r manylion llawn a ffurflenni ar gael ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.
Mae'r Bwrdd yn argymell y dylai pob un o'r Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol wirio eu cofnodion, a chadarnhau pa eglwysi yn eu hardaloedd sydd â chofnodion cyfredol, neu heb gofnodion cyfredol, ar gyfer hawliadau Rhodd Cymorth, a rhoi gwybod i Swyddog Cymorth Prosiectau'r esgobaeth, Clare Walker.
Sefydliadau Corfforedig Elusennol newydd
Ar ôl cofrestru, dylai Sefydliadau Corfforedig Elusennol newydd gofrestru ar gyfer Rhodd Cymorth; bydd angen datganiadau newydd ac amlenni rhoi wythnosol. Bydd yr Ardal Gweinidogaeth Leol yn cyflwyno hawliadau ar gyfer eglwysi’r ardal, a chaiff y Rhodd Cymorth sy'n cael ei adennill ei ddychwelyd i eglwysi unigol.
Dylai Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol benodi Ysgrifennydd Rhodd Cymorth i brosesu hawliadau. Bydd angen i'r unigolion hyn wybod am y rheolau a'r gweithdrefnau ar gyfer hawlio. Gall y Bwrdd helpu i drefnu deunyddiau hyfforddi a chanllawiau ar gyfer yr unigolion hyn os yw'n gwybod pwy ydyn nhw. Dylid anfon enwau a chyfeiriadau e-bost at clarewalker@churchinwales.org.uk
Mae canllawiau llawn ar Rodd Cymorth ar gael ar wefan Llywodraeth y DU yma: https://www.gov.uk/donating-to-charity/gift-aid
Ambell i linc defnyddiol
- Samplau o bregethau ar Stiwardiaeth, a syniadau ar gysylltu themau stiwardiaeth gyda'r llithlyfr Addoli Cyffredinol
- Samplau o lythyron a thempledi gellir eu defnyddio i ddiolch i gyfranwyr
- Syniadau ar batrymau gellir eu defnyddio ar gyfer adnewyddu'n flynyddol, samplau o lythyron, cardiau ernes a ffurflenni archeb banc rheolaidd
- Copi o "Encouraging a Parish in Giving" i'w lawrlwytho
- Samplau o daflenni i'w defnyddio wrth annog rhoddion drwy ewyllys
- Amlinelliad y gellir ei ddefnyddio gyda CPE wrth greu polisi ar gyfer cyfrannu rhoddion drwy ewyllys
- Linc i archebu taflenni rhoddion drwy ewyllys
Adnodd ar-lein gyflawn ar gyfer rhedeg menter stiwardiaeth. Darperir rhaglen lawn ac adnoddau i gefnogi'r gwaith, ynghyd â nodiadau pregeth, canllawiau cyfarfodydd, llythyron i'w lawrlwytho a.y.b.