Hafan Ar gyfer clerigwyr ac aelodau Datblygiad Gweinidogol Parhaus

Datblygiad Gweinidogol Parhaus

Datblygiad Gweinidogol Parhaus 19 Medi 2024: Arweinyddiaeth Golegol

Bydd Datblygiad Gweinidogol Parhaus yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi Castellnewydd Emlyn ddydd Iau 19 Medi, gyda chofrestru o 09.30 a'r sesiwn yn dechrau'n brydlon am 10am. Bydd yr amserlen derfynol yn cael ei hanfon yn nes at y dyddiad.

Mae’n rhaid i bob clerig cyflogedig fynychu, tra bod croeso i glerigion digyflog a darllenwyr fynychu hefyd. A fyddech cystal ag anfon cadarnhad o’ch presenoldeb ynghyd ag unrhyw ofynion dietegol at lynnrees@cinw.org.uk mailto:lynnrees@cinw.org.uk. Dylid anfon unrhyw ymddiheuriadau at eich Archddiacon priodol a'u copïo i Lynn.

Arweinyddiaeth Golegol: Arwain Llawer yn Ddilys o dan arweiniad Sue ac Andy Henley

Sut y gallwn ni adeiladu arweinyddiaeth effeithiol, ddilys a chydwybodol yn ein Hardaloedd Gweinidogaeth Lleol? Bydd y diwrnod yn canolbwyntio ar y dasg heriol o adeiladu arweinyddiaeth dda, sy’n cael ei dosbarthu’n dda, ymhlith clerigion a lleygion â chefndiroedd, gwerthoedd a disgwyliadau amrywiol. Bydd yn archwilio sut i ddatblygu hyder yn eich arweinyddiaeth i gefnogi eich tîm Ardal Weinidogaeth Leol i ymgysylltu'n dda â'r gymuned ehangach.

Mae gan Sue Henley gefndir mewn gwaith cymdeithasol proffesiynol ac mae wedi arwain a hyfforddi timau mawr ym maes oedolion, a gofal cymdeithasol plant a theuluoedd. Mae hi wedi gwasanaethu fel warden plwyf ers sawl blwyddyn gan gynnwys yn ystod cyfnodau interregnum. Ar hyn o bryd, hi yw cadeirydd lleyg Ardal Gweinidogaeth Leol Aberystwyth ac mae’n aelod o Bwyllgor Sefydlog yr Esgobaeth a'r Corff Llywodraethol.

Mae Andy Henley yn Athro Emeritws yn Ysgol Fusnes Caerdydd ar ôl gyrfa helaeth mewn addysg uwch, gan gynnwys uwch-reolaeth, mewn tair prifysgol yng Nghymru. Mae ei arbenigedd ym meysydd menter, busnesau bach a datblygu economaidd. Datblygodd a chyfarwyddodd raglen Arwain Cymru ar gyfer busnesau bach a mentrau cymdeithasol Cymru ac yn ddiweddar bu'n llywydd y Sefydliad Busnesau Bach ac Entrepreneuriaeth. Ar hyn o bryd mae'n aelod o Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth.