Gofalu am Adeiladau Eglwysig
Mae gan bob Esgobaeth Bwyllgor Cynghori Esgobaethol (PCE).
Mae’r PCE yn cynnwys aelodau sydd ag arbenigedd mewn meysydd penodol sy’n ymwneud ag adeiladau eglwysig, megis pensaernïaeth, organau, archaeoleg ac ati. Prif rôl y PCE yw cynghori Canghellor yr Esgobaeth ynghylch ceisiadau am Hawlebau i awdurdodi gwneud gwaith ar eglwysi a mynwentydd eglwysi. Fodd bynnag, mae’r PCE yn barod i roi cyngor i Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol bob amser cyn iddynt wneud ceisiadau am Hawlebau.
Dylai’r Archddiaconiaid fod yn rhan o’r camau cychwynnol ac yn aml byddant yn cyflwyno’r PCE i roi cyngor, naill ai iddyn nhw, i’r Ardal Gweinidogaeth Leol neu i’r eglwys, ond ni allant roi caniatâd ar unrhyw adeg i unrhyw waith fynd rhagddo. Ni fydd Plwyfi’n ysgwyddo unrhyw gostau am y gwasanaeth hwn, a ariennir gan Gorff y Cynrychiolwyr sydd â’r cyfrifoldeb cyfreithiol am yr eiddo. Nod y PCE yw rhannu gwybodaeth, arfer da a phrofiad yn ôl yr angen.
Canllaw ar Reolau Hawleb
Pwrpas y Rheolau
Pwrpas y Rheolau Hawleb yw rheoli newidiadau ac atgyweiriadau y mae’n fwriad i’w gwneud i adeiladau eglwysig a’u cynnwys ac i fynwentydd eglwysi. Gallai fod gan newid i eglwys oblygiadau diwinyddol, artistig, pensaernïol neu archaeolegol neu gallai godi materion yn ymwneud â’r gyfraith, diogelwch neu yswiriant. Am y rhesymau hyn, mae’n rhaid i’r Eglwys sicrhau bod y ffactorau hyn yn cael eu hystyried yn ofalus cyn gwneud newidiadau. Yn ogystal, mae CADW, ar ran Senedd Cymru, yn rhestru llawer o adeiladau eglwysig fel rhai o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, gan ei gwneud yn ofynnol i newidiadau i’r adeiladau eglwysig hynny gael eu rheoli’n llym.
Lluniwyd y rheolau i ystyried llawer o ystyriaethau y tu hwnt i faterion gweithdrefnol syml, ac ar yr un pryd i geisio cysoni nifer o ofynion sydd weithiau’n gwrthdaro.
Maen nhw’n ceisio:
- diwallu anghenion eglwysi fel canolfannau addoli a chenhadaeth ond hefyd cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol sydd eu hangen i gadw’r eithriad eglwysig (am ddiffiniad o beth mae hyn yn ei olygu, gweler y pennawd Esemptiad Eglwysig yn nes ymlaen);
- bod yn ddigon cynhwysfawr i reoleiddio gwaith adeiladu sylweddol ond hefyd osgoi biwrocratiaeth wrth ymdrin â mân eitemau;
- osgoi cyfyngiadau diangen ar drefnu eitemau symudol ond hefyd darparu ar gyfer ystyriaeth briodol o eglwysyddiaeth;
- bodloni cyfrifoldeb Corff y Cynrychiolwyr fel ymddiriedolwr yr eglwysi ond hefyd osgoi ei orlwytho â mân eitemau;
- goresgyn y trafferth blaenorol o ddiffinio eitemau a oedd yn gofyn am “fân hawleb” (sydd wedi’i wneud trwy ddiddymu mân hawlebau a mynnu bod gan bob eitem naill ai hawleb lawn neu’n dod o fewn rhestr o eithriadau, sydd i’w gweld yn y Cyfansoddiad, Cyfrol II, Adran 4.2, trydedd atodlen).
Cynlluniwyd y Rheolau Hawleb i ystyried yr holl faterion hyn tra’n ymdrechu ar yr un pryd i greu cyn lleied o fiwrocratiaeth ag y mae’r sefyllfa’n ei ganiatáu. Rhaid iddynt ddarparu ar gyfer popeth o newid ffitiadau golau i adeiladu tŵr newydd.
Hawleb yw…
Hawleb (yn y cyd-destun hwn) yw trwydded eglwysig sy’n rhoi caniatâd i wneud newidiadau materol.
Nid hawleb yw…
Nid yw hawleb yn gydsyniad i waredu neu ymdrin â pherchnogaeth gyfreithiol eitem. Mae’r eglwysi a (yn y rhan fwyaf o achosion) cynnwys eglwysi yn eiddo i Gorff y Cynrychiolwyr ac mae cwestiynau am werthu neu waredu yn gwbl ar wahân i’r weithdrefn hawlebau. Rhaid ymgynghori â Chorff y Cynrychiolwyr ar wahân ar faterion o’r fath.
Y system hawlebau
Mae’r system hawlebau’n rhan o’r system farnwrol yn Llysoedd yr Eglwys yng Nghymru: mae’n fwy na system weinyddol yn unig. Mae hyn yn golygu, os bydd unrhyw un yn gwrthwynebu caniatáu hawleb arfaethedig, mae ganddynt gyfle i gyflwyno eu hachos yn llys yr esgobaeth. Canghellor yr Esgobaeth sy’n gwneud penderfyniadau, nid Pwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth. Yn ymarferol, prin iawn yw’r ceisiadau am hawlebau y mae’n ofynnol i’w clywed mewn llys agored.
Pryd mae angen hawleb?
Mae angen hawleb ar unrhyw waith arfaethedig i gynnwys eglwysi neu’n ymwneud â chynnwys eglwysi. Mae hyn yn cynnwys eglwysi neu fynwentydd anghysegredig os yw’r Esgob yn gorchymyn hynny. (Y rheswm am hyn yw er mwyn sicrhau bod eglwysi neu fynwentydd o’r fath, os ydynt wedi’u rhestru neu o fewn ardal gadwraeth, yn ddarostyngedig i god ymarfer y Wladwriaeth ar gyfer cadw Esemptiad Eglwysig). Fodd bynnag, mae rhai eithriadau ac ymdrinnir â’r rhain yn y Cyfansoddiad, Cyfrol II, Adran 4.2, trydedd atodlen.
Yn bennaf, nid oes angen unrhyw hawleb mewn perthynas â’r canlynol:
- Y mân faterion a restrir yn y Cyfansoddiad, Cyfrol II, Adran 4.2 atodlen III, er y dylid nodi y gall yr Esgob neu’r Periglor neu’r Cyngor Plwyf Eglwysig ei gwneud yn ofynnol i gael hawleb mewn rhai achosion.
- Ymdrinnir â’r materion hynny sy’n ymwneud â mynwentydd yn y Rheoliadau Mynwentydd (y Cyfansoddiad, Cyfrol II, Adran 2).
Tynnu gosodiadau, ffitiadau a chynnwys
Rhaid i Bwyllgor Eiddo Corff y Cynrychiolwyr gymeradwyo tynnu gosodiadau, ffitiadau a chynnwys fel rhan o’r broses Hawleb lle mae adeilad yr eglwys wedi’i gysegru. Yn ogystal, lle mae’r eglwys wedi’i rhestru ac nad yw’n cael ei defnyddio bellach fel man addoli, rhaid i gynnig i dynnu unrhyw eitemau a fyddai’n effeithio ar ei chymeriad fod yn destun cais caniatâd adeilad rhestredig i’r awdurdod cynllunio lleol. O dan god ymarfer y wladwriaeth, dyddiad datgan eglwys segur yw’r dyddiad pan fydd Esemptiad Eglwysig o reolaethau adeiladau rhestredig yn dod i ben. Mae methu â sicrhau’r cydsyniad angenrheidiol yn golygu y gallai’r person sy’n gyfrifol wynebu dirwy neu garchar.
Bydd angen cymeradwyaeth hawleb gan lys yr esgobaeth i gael gwared ar eitemau cyn pennu bod eglwys yn segur. Os bydd eitemau’n cael eu trosglwyddo i adeilad eglwys arall a freiniwyd yng Nghorff y Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru, yna bydd angen cymeradwyaeth hawleb hefyd gan lys esgobaethol adeilad yr eglwys sy’n derbyn yr eitemau. Os oes unrhyw amheuaeth, dylid ymgynghori ag ysgrifenyddion Pwyllgor Eglwysi a Bugeiliol yr Esgobaeth a / neu Bwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth ynghyd â Swyddog Eglwysi Corff y Cynrychiolwyr.
Rheoliadau Eglwysi Segur
Pan fydd yr Esgob yn datgan bod eglwys yn segur, bydd Pwyllgor Eglwysi a Bugeiliol Esgobaeth yn gofyn am arweiniad gan y PCE ar unrhyw rinweddau archaeolegol, artistig a hanesyddol sydd gan yr Eglwys a’i chynnwys.
Terfynau amser
Y terfyn amser ar gyfer derbyn ffurflenni wedi’u cwblhau i wneud cais am hawleb yw 19 diwrnod cyn y cyfarfod.
PCE – y System Hawleb ar-lein
Mae’r holl geisiadau i’r PCE yn cael eu gwneud ar-lein erbyn hyn. Gweler ein canllawiau.
Cysylltu â’r PCE
E-bostiwch Ysgrifennydd y Pwyllgor Cynghori Esgobaethol, Jan Every, ar janetevery@churchinwales.org.uk neu ffoniwch 01267 236145. Noder: rhaid cwblhau a chyflwyno pob cais i’r PCE ar-lein. Cysylltwch â’r Ysgrifennydd os oes angen cyngor arnoch.
Canghellor yr Esgobaeth
- Ei Anrhydedd y Barnwr Nicholas Cooke