Plant, Ieuenctid a Theuluoedd
![CYF WEelsh Logo [PIT]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/4.width-500.jpg)
Mae gwaith Plant, Ieuenctid a Theuluoedd yn rhan enfawr a phwysig o dwf Teyrnas Dduw o fewn yr esgobaeth. Mae Plant, Ieuenctid a Theuluoedd wedi cael eu cydnabod fel prif flaenoriaeth i'r esgobaeth ac yn ddi-os mae dyfodol yr eglwys yn nwylo ein pobl ifanc. Mae Plant, Ieuenctid a Theuluoedd yn rhoddion sydd angen eu meithrin fel rhan o gymuned gariadus. Mae angen iddyn nhw wybod bod yr eglwys yno a’i bod yn deall y problemau y maen nhw’n eu hwynebu.
2025: Blwyddyn Plant, Ieuenctid a Theuluoedd
Dechreuodd Blwyddyn Plant, Ieuenctid a Theuluoedd yr esgobaeth ar Sul yr Adfent 2024 a bydd yn para tan Adfent 2025.
Gydol y flwyddyn gallwch ddisgwyl gweld cyfres o ddigwyddiadau a all helpu Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol i ymgysylltu â phlant, ieuenctid a theuluoedd ar draws yr esgobaeth, adnoddau a chymorth i'ch helpu gyda'ch plant, ieuenctid a theuluoedd eich hun a diweddariadau rheolaidd trwy blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol, trwy Pobl Dewi, gwefan yr esgobaeth, a gwefan a chylchlythyr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd.
Bydd cyfres o fideos hefyd ar gael yn hwylus ar sianel YouTube Plant, Ieuenctid a Theuluoedd. Byddant yn cynnwys fideos a fydd yn rhoi sylw i bob dim o gynnal asesiadau risg a sut i ddechrau grwpiau i lunio a chynllunio gwasanaethau, neu ddechrau eich Llan Llanast eich hun.
Cynhaliwyd y lansiad ar 12 Rhagfyr yn yr Eglwys Gadeiriol. Bydd tri pherfformiad o'r Dioddefaint gan gwmni theatr LAMPS Wythnos y Pasg, Gŵyl i Blant a fydd ar daith ym mis Mai, y Bererindod Ieuenctid ym mis Awst, Gŵyl Rhyddid i deulu'r eglwys gyfan ym mis Awst, a llawer mwy.
Os hoffech dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf neu wirfoddoli, bydd Cylchlythyr misol Plant, Ieuenctid a Theuluoedd ar gael yn fisol o'r Adfent. Tanysgrifiwch drwy fynd i www.stdavidscyf.org.uk. Bydd negeseuon rheolaidd hefyd ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol yn www.facebook.com/StDavidsCYF neu ar Instagram cyfstdavids. Gallwch hefyd anfon neges e-bost at sophiewhitmarsh@cinw.org.uk neu ffonio 07870 415378.
Pererindod Ieuenctid 2025

4-8 Awst
Mae'n bleser gan y Parchedig Sophie Whitmarsh a'r Tasglu Plant, Ieuenctid a Theuluoedd gyhoeddi Pererindod Ieuenctid Esgobaeth Tyddewi 2025.
Bydd eleni'n cynnwys yr holl elfennau rydyn ni'n gyfarwydd â nhw ac yn eu caru am y bererindod, ond bydd hefyd sawl peth ychwanegol fel nofio a gweithgareddau chwaraeon eraill, yn ogystal â barbeciws a pizza yn lle brechdanau i ginio.
Mae fersiwn ddigidol o'r ffurflenni ar gael yma. https://form.jotform.com/250202203444338
Mae ffurflenni y gellir eu hargraffu hefyd ar gael yma: Ffurflen Archebu Pererindod Ieuenctid 2025
Unwaith y bydd y ffurflenni wedi'u cwblhau, anfonir e-bost yn cadarnhau’r archeb atoch gyda manylion sut y gellir gwneud taliad. Cofiwch nad ydyn ni am i arian fod yn rhwystr, felly cysylltwch â'r Parch Sophie drwy ebostio sophiewhitmarsh@cinw.org.uk neu ffonio 07870 415378 os yw'r taliad yn debygol o fod yn broblem.

Ewch i'n gwefan am adnoddau, digwyddiadau, gweithgareddau a mwy
https://www.stdavidscyf.org.uk/
