English

Yn Esgobaeth Tyddewi mae Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro - ardal sydd yn 2,266 milltir sgwar yn Ne Orllewin Cymru.

Rhennir yr Esgobaeth yn dair Archddiaconiaeth:

  • Aberteifi, Caerfyrddin a Thyddewi

Gweinyddiaeth

Staff Swyddfa'r Esgobaeth yn Abergwili, Caerfyrddin sy'n ymgymryd â gwaith gweinyddol yr Esgobaeth.

Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi a'i Is-Bwyllgorau sydd yng ngofal yr ochr ariannol o'r gwaith. Mae'r Bwrdd Cyllid yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant.

Mae Swyddfa'r Esgobaeth yn gweithredu fel canolfan adnoddau i gefnogi aelodau clerigol a lleygwyr yn yr esgobaeth. Ceir dwy ystafell gyfarfod yno a gall sefydliadau'r Esgobaeth eu defnyddio yn rhad ac am ddim. Cysylltwch â ni i drefnu.