Llyfrgell Cadeirlan Tyddewi
Cyflwyniad i Lyfrgell Cadeirlan Tyddewi
Mae'r Llyfrgell yn un o drysorau Cadeirlan Tyddewi. Fe'i lleolir ar frig grisiau troellog canolesol yn ran ogleddol yr adeilad, a hi yw'r unig Lyfrgell i oroesi yn unrhyw un o'r chwech eglwys gadeiriol Gymreig.
Dros y canrifoedd fe'i lleolwyd mewn gwahanol rannau o'r Gadeirlan, ond ers hanner canrif bellach fe'i lleolwyd yn yr hen Dŷ Siaptr gyda'r Trysordy uwchben. Roeddynt yn ffurfio ail a thrydydd llawr adeilad tri-llawr, gyda Chapel Sant Thomas ar y llawr gwaelod.
Daw siambr y Llyfrgell o'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac mae'n werth ei gweld. Mae'r llê tân gwreiddiol yn y wal gorllewinol, gyda golau bob ochr iddo, a'r rheiny'n debygol o fod yn dyddio nôl i'r drydedd ganrif ar ddeg.
Mae'r ffenest ddwyreiniol, y ffenest drionglog a'r ffenest ochr gyda'r pâr o seddi ffenest, hefyd yn dod o'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Gwelwyd llawer o newidiadau yn yr ystafell ei hun; yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd ysgol ramadeg y gadeirlan wedi'i lleoli yma, wedi i'r llawr rhwng Tŷ'r Siaptr a'r Trysordy gael ei dynnu allan.
Mae'r dodrefn a'r silffoedd llyfrau yn ei gwneud yn debyg i lyfrgell ganoloesol, ac mae rhai o'r drysau'n edrych fel petaent yn dod o'r ail ganrif ar bymtheg, ond dydyn nhw ddim. Mae'r ystafell a'r dodrefn fel y maent ar hyn o bryd yn dyddio o'r ugeinfed ganrif. Nid yw'r llyfrgell, fel casgliad o lyfrau, yn dod o'r canol oesoedd chwaith.
Daeth silffoedd a chelfi'r llyfrgell fel rhan o waith adnewyddu'r ystafell ym 1956 /1957 pan grewyd y llyfrgell er cof am yr Esgob WT Havard fu farw ym 1956 ac mae hyn wedi'i nodi'n glir ar y platfform pren sydd ar waelod y grisiau.
Mae oddeutu 7,000 o lyfrau ar amrywiaeth rhyfeddol o destunau yn y Llyfrgell. Mrs Mary Buckland oedd Ceidwad y Llyfrgell yn y 1950au, ac mewn adroddiad i'r Siaptr o gwmpas 1957, fe ddywedodd fod yna 4500 o gyfrolau wedi'u dosbarthu a'u gosod ar y silffoedd dan y penawdau canlynol: Archaeoleg; Pensaernïaeth, Botaneg, Llenyddiaeth Saesneg (Seciwlar), Hanes a Dogfennau Cyfraith Ailargraffiedig, Cyfnodolion ac Adroddiadau, Gwyddoniaeth ac Athroniaeth, Diwinyddiaeth, Topograffeg, Testunau Cymraeg.
Yn y silffoedd arbennig roedd :
- Lyndewode Parochiale 1505,
- Calvin’s Sermons 1574
- The History of Cambria and Camden’s Britannia 1600
- Beibl Cymraeg Parry 1620
- Dr John Davies’ Dictionarium Duplex of 1632;
- Dodoen (1578)
- Gerrard’s Herbal (1636)
- Gweithiau Charles I
- Copi o Browne Willis’ Survey of St David’s 1717
Yn y casgliad erbyn heddiw mae llyfrau a arferai fod yn eiddo Deoniaid, yn enwedig James Allen (Deon o 1878-1926), a adawodd ei lyfrau i'r llyfrgell yn ei ewyllys, Esgobion, Yr Esgob John Owen 1897-1926 a offeiriaid sy'n dyddio nôl i'r unfed ganrif ar bymtheg.
Ceir hefyd gasgliadau o ffotograffau perthnasol i Dewi Sant a'r penrhyn. Mae amrediad y themau yn eang iawn, ac yn cwmpasu'r nawddsant, Tyddewi, Cymru a hanes yr Eglwys yng Nghymru. Yn ogystal, mae yna adran hanes lleol defnyddiol a nifer o luniau o'r Gadeirlan yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif; gellir gweld printiau o gyfnod cynharach hefyd.
Mae'r Llyfrgell fel y mae heddiw yn ddyledus iawn i grant a gyflwynwyd iddynt gan Ymddiriedolaeth y Pererinion fel rhan o waith adnewyddu cyffredinol ar ôl y rhyfel, a wnaed gan Dean Witton Davies rhwng 1950 a 1956.