Cwrdd â'r Deon
Y Gwir Barchedig Ddr Sarah Rowland Jones, Deon a Chantor Ysgol Gadeiriol Tyddewi
Cafodd y Deon Sarah ei magu yn y Trallwng ac Amwythig. Ar ôl astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caergrawnt, ymunodd â'r gwasanaeth diplomyddol, ac am y 15 mlynedd nesaf bu’n gweithio yn Llysgenadaethau Prydain yn yr Iorddonen a Hwngari. Roedd ei chyfrifoldebau yn ystod ei gwaith gyda’r Swyddfa Dramor yn Llundain yn cynnwys polisi ynni, gwrthderfysgaeth a delio â'r Undeb Ewropeaidd.
Yn Budapest, fe'i gwnaed yn Lefftenant yr Urdd Fictoraidd (LVO) am ei rôl yn trefnu ymweliad gwladol y Frenhines â Hwngari yn 1993. Gadawodd y gwasanaeth yn 1996 i ddilyn ei galwedigaeth Gristnogol a chyflwynwyd OBE iddi am ei gwasanaethau i'r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad ym mis Ionawr 1997.
Hyfforddodd y Deon Sarah ar gyfer yr offeiriadaeth yng Ngholeg Sant Ioan, Nottingham. Fe'i hordeiniwyd yn 1999 a gwasanaethodd yn Wrecsam i ddechrau, yn ei hesgobaeth enedigol, Llanelwy.
Yn 2002, symudodd i Dde Affrica i briodi’r Gwir Barchedig Justus Marcus, Esgob rhanbarthol yn Esgobaeth Cape Town a chyn Ddeon Cadeirlan Kimberley. Cyfarfu’r ddau pan gawsant ill dau eu penodi i'r Comisiwn Sefydlog Rhyng-Anglicanaidd ar Gysylltiadau Eciwmenaidd. Mae hi'n parhau i wasanaethu ar amryw o gyrff Anglicanaidd ac eciwmenaidd rhanbarthol a rhyngwladol.
Trist nodi y bu farw'r Esgob Marcus o ganser flwyddyn yn ddiweddarach. Wedi hynny bu Sarah yn gweithio fel Cynghorydd Ymchwil i amryw o Archesgobion Cape Town, ac yn ystod y cyfnod hwn cwblhaodd ddoethuriaeth mewn athroniaeth crefydd a diwinyddiaeth gyhoeddus, sef Doing God in Public.
Yn 2011 priododd â Peter Evans a oedd yn gyd-alltud Cymreig yn gweithio yn Ne Affrica. Ar ôl dychwelyd i Gymru yn 2013 penodwyd Sarah i swydd yn Eglwys Ioan Fedyddiwr yng nghanol dinas Caerdydd.
Cyhoeddwyd ei phenodiad fel Deon Tyddewi ym mis Tachwedd 2017 a chafodd ei chyflwyno a'i sefydlu ym mis Mai 2018.