Erw Dewi

Gardd Gymunedol Tyddewi
Gardd Gymunedol newydd Cadeirlan Tyddewi yw Erw Dewi. Mae EcoDewi yn cydweithio gyda Cadeirlan Tyddewi ar y prosiect yma, - prosiect fydd yn fuddiol i'r gymuned leol yn ogystal â'r amgylchedd naturiol lleol.
Y weledigaeth yw i greu ardal fydd yn medru cael ei defnyddio gan grwpiau cymunedol, yn ogystal ag ymwelwyr y Gadeirlan; lle i bawb fwynhau creadigaeth Duw a lle fydd yn annog lles a chreadigrwydd - adrodd straeon, pererindodau, celf a chrefft, bioamrywiaeth, gwerthfawrogi ac annog natur, ac adeiladu a chynnal cynefinoedd i fywyd gwyllt lleol.
Mae'r ardd, sydd wrth ymyl y Canondy, wedi cael ei defnyddio at sawl pwrpas gwahanol dros y blynyddoedd, ond roedd drysni wedi tyfu'n wyllt ynddi. Felly, ychydig cyn Nadolig 2020, daeth criw bychan o wirfoddolwyr o'r gadeirlan a'r gymuned at ei gilydd (gyda'r ymbellhau cymdeithasol angenrheidiol), er mwyn clirio'r tir a dechrau cynllunio sut y gallai'r ardd edrych.
Cafwyd nawdd ariannol cychwynnol gan Keep Wales Tidy i gychwyn y prosiect, ac mae'r ardd wedi'i thrawsnewid o hyn...

...i hyn!
![Erw Dewi 3 [Croeso].JPG](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Erw_Dewi_3_Croeso.width-500.jpg)



Ond mae dal gwaith i'w wneud:

![Erw Dewi [Play Area]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Erw_Dewi_11_Play_Area.width-500.jpg)
![Erw Dewi [Wildlife Pond]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Erw_Dewi_12_Wildlife_Pond.width-500.jpg)
Os hoffech gynnig help llaw, cysylltwch â'r tîm ar hello@dewisacre.org.uk neu