Swyddfa'r Esgob
SYLWCH: Peidiwch ag ymweld â swyddfa’r Esgob heb drefnu apwyntiad ymlaen llaw. Pan fydd angen cyfarfod wyneb yn wyneb, mae’n rhaid i hynny ddigwydd drwy apwyntiad yn unig.
Caplan yr Esgob
Jonathan Parker
Y Parch. Jonathan Parker yw Caplan yr Esgob ac mae’n gweithio yn Llys Esgob. Mae Jonathan, a fu’n athro ysgol uwchradd yn Nhyddewi, wedi gwasanaethu ym mhob un o’r tair archddiaconiaeth ers iddo gael ei ordeinio.
Yn ogystal â darparu cefnogaeth fugeiliol ac ysbrydol i’r Esgob, mae wrth law i gynnal trefn gwasanaethau, y meitr a bagl yr esgob yn ôl yr angen. Fel rhan o staff yr Esgob, mae’n mynychu pwyllgorau esgobaethol a chyfarfodydd cynllunio amrywiol. Mae Jonathan yn awyddus i ddarparu cefnogaeth fugeiliol i glerigwyr hefyd, ac mae’n hapus i unrhyw un gysylltu ag ef.
Mae’n edrych ymlaen at gyfarfod â llawer o aelodau teulu’r esgobaeth wrth iddo deithio ar draws yr esgobaeth gyda’r Esgob.
CP yr Esgob
Marie Parker
Mae Marie yn gweithio'n agos iawn gyda'r Esgob ym mhob agwedd o'i gwaith, gan roi cefnogaeth ymarferol iddi wrth i'r Esgob ymgymryd â'r holl faterion a ddaw i'w sylw.
Lleolir Marie yn Swyddfa'r Esgob. Hi yw'r pwynt cyswllt cyntaf, ac fel rhan o'i dyletswyddau gweithredol mae hi'n cydlynu cyfarfodydd, yn paratoi briffiau, prosesu gohebiaeth ac yn gwneud trefniadau, er mwyn sicrhau bod gwaith yr Esgob yn effeithlon ac yn effeithiol wrth iddi ymateb i anghenion sy'n newid yn barhaus.
Yn ogystal â gweithio'n agos gyda'r Esgob a'r Uwch-Dîm Arweinyddol, mae Marie yn gweithio gydag amrediad eang o gydweithwyr mewnol, allanol a rhyngwladol.