Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2025 "Mae'r gwersyll hwn wedi delio ag un cynnyrch... marwolaeth"

"Mae'r gwersyll hwn wedi delio ag un cynnyrch... marwolaeth"

Ewan Lawry sy’n ystyried gwasanaeth y Parchedig T J Stretch yn yr Ail Ryfel Byd a rhyddhau gwersyll crynhoi Bergen-Belsen

Ganwyd Thomas James Stretch yn Wdig, Sir Benfro, ar 17 Ionawr 1915, cyn astudio yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan ac, ym 1938, dod yn gurad yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Aberystwyth. Wedi'i ordeinio ychydig cyn i'r rhyfel ddechrau ym 1939, parhaodd ei weinidogaeth yn y Drindod Sanctaidd tan Ebrill 1943 pan ymadawodd gyda set gymun preifat a gyflwynwyd iddo gan blwyfolion diolchgar. Ychydig ddyddiau ar ôl glaniadau D-Day, cychwynnodd Stretch i Ffrainc gyda'r Ail Fyddin Brydeinig, a frwydrodd wedyn trwy'r Iseldiroedd ac i'r Almaen. Wythnosau ar ôl croesi'r Rhein yn gynnar ym mis Ebrill 1945, cynigiodd cynrychiolwyr byddin yr Almaen ildio gwersyll crynhoi Bergen-Belsen, lle'r oedd achos o epidemig teiffws wedi cychwyn.

T J Stretch

Fel caplan i Garsiwn Didoliad Rhif 10 (y Llywodraeth Filwrol), roedd Stretch ymhlith y cyntaf i fynd i mewn i'r gwersyll, gan ddod o hyd i bron i 60,000 o garcharorion, y rhan fwyaf yn sâl ac yn newynog, a 13,000 o gyrff heb eu claddu. Yng nghanol yr arswyd, cafodd Stretch a'r caplaniaid y dasg o gynnal claddedigaethau torfol a cheisio cysuro'r goroeswyr. Gyda'r nodwedd anffodus o fod yn un o'r cyntaf i weld yn uniongyrchol y troseddau a gyflawnwyd yn enw purdeb hiliol, cafodd Stretch ei ffilmio o flaen bedd torfol agored. “Dydw i erioed yn fy myw wedi gweld y fath ofnadwyedd damniol", meddai.

Y bore hwnnw roedden nhw wedi claddu 5,000 o gyrff, ac roedd y pwll yr oedd o'i flaen yn cynnwys 5,000 eto. Ysgrifennodd adroddiad hefyd ar gyfer y Church Times yn cyferbynnu'r golygfeydd "prydferth iawn" o amgylch Belsen, gyda'i "fryniau tonnog a’i goedwigoedd pinwydd helaeth", a'r "gweithredoedd ofnadwy... a oedd yn cuddio y tu ôl iddynt”.

Gan sicrhau nad oedd darllenwyr o dan unrhyw gamargraff ynghylch natur y gwersylloedd, aeth i fanylion graffig am yr amodau, gan ddisgrifio sut yr oedd carcharorion yn yfed dŵr ffos, yn lladd ac yn bwyta cig mochyn amrwd, ac yna yn marw oherwydd na allai eu stumogau reoli hyd yn oed ychydig o fwyd. Ffieiddia at y ffordd yr oedd y gwarchodwyr Almaenig wedi "trin y carcharorion fel bwystfilod" a bod "eu dioddefaint yn fêl ar eu bysedd", a gresynai fod cymaint yn cael eu hadnabod yn unig wrth y rhifau ar y tatŵs ar eu breichiau (yr oedd y cofnodion cyfatebol wedi'u dinistrio). Yr unig gysur a gafodd oedd gweld y carcharorion yn dechrau cael "ychydig o'u hunan-barch yn ôl”.

Ar ôl y rhyfel, dychwelodd Stretch i weinidogaeth plwyf, gan wasanaethu ledled Swydd Gaerhirfryn cyn ei farwolaeth ym mis Hydref 1973. Gorffennodd ei erthygl yn y Church Times yn ingol: “ni aiff yr hyn a welais yn angof fyth”.