English
We are currently in the process of making our entire website bilingual.

Unfortunately, this page has not been fully translated yet but will be soon. If you would like to help us translate this page sooner and contribute in a way that helps us reach more people through the website, please click on the button below. Alternatively, you can ask for this page to be translated and we will do our best to do so as soon as possible.

Ar gychwyn mis Gorffennaf apwyntiwyd Judith Leigh fel Swyddog Gweinyddol newydd Cadeirlan Tyddewi, rôl sydd hefyd yn ymgymryd â
dyletswyddau'r Prif Swyddog Gweithredu.

Judith Leigh

"Mae'n bleser croesawu Judith i'r tîm ac i'n cymuned," medd Deon y Gadeirlan. "Mae ganddi flynyddoedd o brofiad fydd yn atgyfnerthu ein gallu ni i ymgymryd â heriau ehangach yr unfed ganrif ar hugain, yn ogystal â'n cynorthwyo i ddelio gyda chyfnod cythryblus y coronafeirws."

Ers 18 mlynedd mae Judith wedi bod yn gweithio gyda grantiau, ac yn fwyaf diweddar gyda'r Trusthouse Charitable Foundation, sy'n cefnogi elusennau bychan lleol mewn ardaloedd anghenus. Bu hefyd yn gweithio gyda mudiadau elusennol, ers symud i Lundain fel myfyriwr i astudio Hanes Cyfoes a Chanoloesol.

Medd Judith, sydd wedi bod yn dod i Dyddewi ar wyliau ers dros 30 mlynedd, "rwyf wedi bod yn chwilio ers amser am swydd yn y fan yma, swydd fydd yn fy ysbrydoli a'm galluogi i gefnogi'r gymuned, felly mae derbyn y swydd yma yn y Gadeirlan yn bleser."

Mae Judith yn olynu Moyra Skenfield, fu'n gwneud y swydd ers dros 30 mlynedd, ac sy'n rhoi'r gorau iddi er mwyn teithio a dilyn diddordebau eraill.