English

Baby Loss Awareness 2025.jpeg

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir rhwng 9-15 Hydref I’r rhai a effeithir gan golled mewn i uno ac yn cloi gyda digwyddiad byd-eang "Ton o Oleuni".

Mae adran Gofal Ysbrydol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a thimau Bydwreigiaeth a Gynaecoleg a Newyddenedigol wedi ymrwymo i gefnogi'r rhai yr effeithir arnynt gan farw-enedigaeth, colled yn ystod beichiogrwydd neu'n fuan ar ôl genedigaeth ac i nodi bywydau'r babanod arbennig hyn.

Mae'r gefnogaeth hon yn ymestyn i rieni, teuluoedd, ffrindiau a staff gofal iechyd a oedd, neu a fyddai wedi bod, yn rhan bwysig o fywydau'r babanod hyn.

Drwy gydol yr wythnos, bydd goleuadau glas a phinc yn cael eu harddangos yn y Capel / Ystafelloedd Tawel yn ysbytai Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg.

Mae tri digwyddiad hefyd wedi'u trefnu i ddarparu lle diogel a chefnogol i rieni, teuluoedd a ffrindiau i ddod at ei gilydd er cof am y babanod a oleuodd ein bywydau am gyfnod mor fyr gyda’r rhai sy’n deall.

Sir Benfro

Dydd Mawrth 7 Hydref 2025 am 7yh.

Lleoliad: Capel, Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, SA61 2PZ.

Bydd hyn yn rhan o wasanaeth blynyddol ‘Forget me Not’.

Ceredigion

Dydd Iau 9 Hydref 2025 am 6:30yh.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Bryn Penglais, Aberystwyth, SY23 3BU.

Bydd teuluoedd a ffrindiau'n cael eu cyfarch wrth y brif fynedfa wrth gyrraedd.

Mae'r bwrdd iechyd yn ddiolchgar i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am eu cefnogaeth.

Bydd yr adeilad hefyd wedi'i oleuo mewn goleuadau glas a phinc drwy gydol yr wythnos.

Mae digon o le parcio am ddim ar gael.

Sir Gaerfyrddin

Dydd Mercher 15 Hydref 2025 am 4.30yp.

Lleoliad: Parc Howard, Heol Felinfoel, Llanelli, SA15 3LJ.

Bydd seremoni fer a blodau ffres yn cael eu gosod ar y garreg goffa a gysegrwyd i fabanod a gofir a fu farw'n rhy gynnar.

Oherwydd y tywydd, cynhelir rhan gyntaf y gwasanaeth yng nghyntedd Amgueddfa Parc Howard.

Mae'r bwrdd iechyd yn ddiolchgar i staff Parc Howard, Cyngor Tref Llanelli a Chyngor Sir Caerfyrddin am eu cefnogaeth.

Mae parcio ar y stryd ar gael ar Rodfa Parc Howard.

Ton o Oleuni

Dydd Mercher 15 Hydref 2025, 7pm.

Mae Ton o Oleuni yn nodi diwedd Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod. Am 7yh, bydd Uwch Gaplan y Bwrdd Iechyd yn goleuo cannwyll sy'n gweithio ar fatri yn y Capel / Ystafell Dawel yn Ysbyty Glangwili er cof am yr holl fabanod a oleuodd ein bywydau am gyfnod mor fyr.

Gwahoddir chi'n gynnes i ymuno â ni trwy oleuo cannwyll gartref neu mewn man cymunedol (defnyddiwch ganhwyllau sy'n gweithio ar fatri lle bo modd a chymerwch ofal os ydych chi'n defnyddio fflamau go iawn.)

Dywedodd Euryl Howells, Uwch Gaplan ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn amser i’w neilltuo i anrhydeddu bywydau y babanod rydyn ni'n eu cario yn ein calonnau.

“Mae hefyd yn foment i sefyll gyda'n gilydd mewn cariad i gofio, i ymuno a chynnig cysur i'r rhai sy'n galaru. P'un a allwch chi ymuno â ni yn un o'n digwyddiadau neu oleuo cannwyll gartref, mae eich gweithred o gofio yn estn gobaith ac undod ar draws ein cymunedau.”

Os na allwch fynychu digwyddiad ond hoffech anfon neges ymlaen i gael eich cynnwys, anfonwch e-bost at loved.forever.hdd@wales.nhs.uk

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch neu os ydych wedi cael eich effeithio gan Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, cysylltwch ag Euryl Howells, Uwch Gaplan ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar euryl.howells2@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01267 227563. Os yw'n frys cysylltwch â'r Switsfwrdd 01267 235151 a gofynnwch am Gyswllt Hir (Long Range).