English

Cynllun Ad-dalu Cyfranddaliadau Weinidogaeth.

Mae'r llythyr hwn yn cael ei anfon at holl Ddeoniaid, Cadeiryddion a Thrysoryddion LMA.

Mae Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth yn edrych yn gyson ar ffyrdd o gydnabod yr Eglwysi hynny sydd wedi gweithio'n galed iawn i dalu eu cyfraniad Cyfran y Weinidogaeth yn ystod y flwyddyn. O ganlyniad, mae Swyddogion Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth wedi cytuno i sefydlu Cynllun Ad-dalu Cyfran y Weinidogaeth ar gyfer 2024.

Yng Nghynhadledd ddiweddar yr Esgobaeth cyhoeddodd Mr Tim Llewelyn, Is-gadeirydd y Bwrdd, y cynllun newydd gan bwysleisio nad oedd y Bwrdd wedi chwyddo ffigurau Cyfran y Weinidogaeth er mwyn ariannu'r ad-daliadau.

Dyma’r meini prawf ar gyfer canran yr ad-daliad sydd ar gael:

  • I'r Eglwysi hynny sydd wedi talu Cyfran y Weinidogaeth yn llawn ar gyfer y pedwar (4) chwarter bydd y Bwrdd yn ad-dalu'r swm o 4% o gyfanswm eu cyfraniad.
  • I'r Eglwysi hynny sydd wedi talu Cyfran y Weinidogaeth yn llawn am dri (3) chwarter bydd y Bwrdd yn ad-dalu'r swm o 3% o gyfanswm eu cyfraniad.
  • I'r Eglwysi hynny sydd wedi talu Cyfran y Weinidogaeth yn llawn am ddau (2) chwarter bydd y Bwrdd yn ad-dalu'r swm o 2% o gyfanswm eu cyfraniad.
  • I'r Eglwysi hynny sydd wedi talu Cyfran y Weinidogaeth yn llawn am un (1) chwarter bydd y Bwrdd yn ad-dalu'r swm o 1% o gyfanswm eu cyfraniad.

Mae'r cynllun yn ymwneud â thaliadau 'chwarteri llawn' neu gyfwerth e.e. os yw Cyfran y Weinidogaeth eglwys yn £3,000 y chwarter a’i bod wedi talu £1,000 yn Ch.1 a £2,000 yn Ch.2, mae hi wedi talu'r hyn sy'n cyfateb i chwarter llawn.

Mae ambell i enghraifft wedi’i nodi isod i’ch helpu chi.

Dylid anfon taliadau i Swyddfa'r Esgobaeth, Abergwili, Caerfyrddin. SA31 2JG erbyn 17 Ionawr 2025 fan bellaf.

Os oes gennych chi neu'ch cydweithwyr yn yr Ardal Weinidogaeth Leol unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â'r Cynllun Ad-dalu, cysylltwch ag Adran Gyllid y Bwrdd ar 01267 236145 neu drwy e-bost yn finance.stdavids@cinw.org.uk

Diolch yn fawr iawn am eich ymrwymiad a'ch cefnogaeth barhaus.

Yn gywir,

Howard Llewellyn

Ysgrifennydd yr Esgobaeth a Phrif Swyddog Gweithredol Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth.

Enghreifftiau