English

Eleni, mae Plant Dewi yn dathlu 24 mlynedd o gefnogi teuluoedd - gyda carreg milltir mawr yn dod y flwyddyn nesaf!

I nodi hyn, rydym yn lansio ein her codi arian ar gyfer mis Mehefin: 24 Milltir am 24 Mlynedd. Gweler y daflen atodedig am ragor o fanylion.

Gallwch gymryd rhan drwy:

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, ar 1af o Fehefin, byddwch yn derbyn taflen wybodaeth, cofnodwr milltiroedd, a ffurflen nawdd ddewisol i helpu codi arian ychwanegol, os dymunwch.

Rydym hefyd wedi sefydlu tudalen Local Giving i unrhyw un sydd am gyfrannu:

https://localgiving.org/fundraising/24milesfor24yearsofPlantDewi

Mae pob cam rydych chi’n ei gymryd yn ein helpu ni i:

  • Gefnogi rhieni a phlant drwy adegau anodd
  • Creu mannau diogel a chynnes i deuluoedd
  • Adeiladu cymunedau cryfach ac iachach

P’un a wnewch chi ei gwblhau mewn diwrnod, wythnos neu dros y mis – eich her chi ydy hi, eich ffordd chi.