Egin gwyrdd ym Mharc Yr Esgob
Bydd dwy ardd newydd yn ymddangos ym Mharc yr Esgob, Abergwili fis yma, diolch i grant o £22,900 gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ‘Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur’.
Mae’r parc yn amgylchynu hen balas Esgobion Tyddewi, sydd nawr yn gartref i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, a mae’r gerddi newydd yn rhan oadferiad a chadwraeth helaethachy saflesy’n cynnwys trawsnewid adeiladau allanol adfeiliedig i greucaffi newydd a chanolfan dysgu a dehongli. Defnyddir planhigion o amrywogaethau hanesyddol i greu arddangosfeydd plannu deniadol i hybu bywyd gwyllt, yn ogystal â darparu cyfleoedd addysgu a gweithgareddau ar gyfer ymwelwyr a phlant.Rydym hefyd yn creu adnoddau addysgiadol a chynlluniau gwersi yn seiliedig ar osod a phlannu’r gerddi, mewn partneriaeth ac ysgolion cynradd Nantgaredig ac Abergwili.
Gardd newydd yr Esgob Jenkinson
Mae’r fynedfa sydd yn croesawu ymwelwyr ar hyn o bryd yn cael ei drawsnewid i ddarparu gardd o ddiddordeb gydol y flwyddyn, ac ysbrydolwyd y dyluniad gan gyfnod yr Esgob John Jenkinson (1825 i 1840). Mewn ffurf cylch, bydd y plannu deniadol yn cynnwys gwyntyllau o goed afalau a gellyg treftadol, ac amrywiaeth o blanhigion a pherlysiau a ddefnyddiwyd mewn meddyginiaeth a choginio yng nghanol yr 19eg ganrif. Cynlluniwyd yr ardd gyda chyfuniad o blanhigion cynhenid ac addurnol a fydd yn darparu neithdar a phaill i bryfed, gan adlewyrchu amcanion cynaladwy’r prosiect a hanes cyfoethog y safle. Bydd yr ardd yn creu cyswllt diriaethol i hanes a threftadaeth y safle, gan ennyn diddordeb ymwelwyr, boed hen neu ifanc.
Ardal Coetir Newydd
© Carol Thomas
Saif yr ardd goedwigol newydd wrth ymyl prif goetir Parc Yr Esgob, ac fe’i hagorwyd gyntaf 5 mlynedd yn ôl pan dorrwyd ffawydden aeddfed lawr a oedd yn ansefydlog oherwydd ffwng. Mae’r boncyff nawr yn creu ardal agored, gysgodol mewn chwaraefa naturiol, gyda golygfa at orlifdir y waun, lle bydd ymwelwyr yn gallu eistedd i fwynhau’r planiadau gyda Dyffryn Tywi fel cefndir, a mwynhau’r buddiannau llesiant o fod mewn coetir. Bydd llwyni addurnol newydd, coed bychain a bylbiau blodau’r gwanwyn ynghyd â chyflwyniad bocsys adar ac ystlumod yn ychwanegu at y fflora a ffawna ac yn elwa bywyd gwyllt y goedlan. Byddwn yn plannu yr ardd goedwigol newydd gyda chymorth dau brentis o brosiect Dyffryn Tywi, Dan ac Ossian.
Dywedodd Louise Austin, Rheolwraig yr Ymddiriedolaeth Drws yr Dyffryn: “Rydym wrth ein bodd o dderbyn y grant yma oddi wrth Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol, sy’n ein galluogi i greu gardd a choetir newydd ddeniadol newydd, gan ddefnyddio planhigion o amrywogaethau hanesyddol a fydd yn cynnal pryfed peillio a bywyd gwyllt eraill. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i weithio gyda mwy o ysgolion lleol a grwpiau cymunedol er mwyn datblygu ystod eang o weithgareddau a deunyddiau addysgiadol ar gyfer ymwelwyr, plant a’r gymuned leol.”