24 milltir am 24 mlynedd o Blant Dewi

Eleni, mae Plant Dewi yn dathlu 24 mlynedd o gefnogi teuluoedd - gyda carreg milltir mawr yn dod y flwyddyn nesaf!
I nodi hyn, rydym yn lansio ein her codi arian ar gyfer mis Mehefin: 24 Milltir am 24 Mlynedd. Gweler y daflen atodedig am ragor o fanylion.
Gallwch gymryd rhan drwy:
- Gwblhau’r ffurflen gofrestru yma – 24 milltir am 24 mlynedd o Blant Dewi – Fill in form
- Talu ffi gofrestru o £10 drwy’r ddolen a ddarperir ar ôl cyflwyno’r ffurflen (neu dalu’n barod yn swyddfa Plant Dewi)
Unwaith y byddwch wedi cofrestru, ar 1af o Fehefin, byddwch yn derbyn taflen wybodaeth, cofnodwr milltiroedd, a ffurflen nawdd ddewisol i helpu codi arian ychwanegol, os dymunwch.
Rydym hefyd wedi sefydlu tudalen Local Giving i unrhyw un sydd am gyfrannu:
https://localgiving.org/fundraising/24milesfor24yearsofPlantDewi
Mae pob cam rydych chi’n ei gymryd yn ein helpu ni i:
- Gefnogi rhieni a phlant drwy adegau anodd
- Creu mannau diogel a chynnes i deuluoedd
- Adeiladu cymunedau cryfach ac iachach
P’un a wnewch chi ei gwblhau mewn diwrnod, wythnos neu dros y mis – eich her chi ydy hi, eich ffordd chi.