English

Cefnogi iechyd a lles ymhlith clerigiaid

“Y mae’n rhoi nerth i’r diffygiol, ac yn ychwanegu cryfder i’r dirym. Y mae’r ifainc yn diffygio ac yn blino, a’r cryfion yn syrthio’n llipa; ond y mae’r rhai sy’n disgwyl wrth yr ARGLWYDD yn adennill eu nerth. Y maent yn magu adenydd fel eryr, yn rhedeg heb flino, ac yn rhodio heb ddiffygio.” Eseia 40:29-31

Fe allai iechyd clerigol fod yn un o’r materion mwyaf tyngedfennol yn yr holl fyd. Po uchaf fyddo lefel iechyd clerigiaid unigol, yna mwyaf oll fydd eu gallu i wasanaethu eu cynulleidfaoedd a’u cymunedau yn effeithiol drwy gyfrwng y neges o obaith, gras a chariad.

Cewch hyd, fan yma, i adnoddau i’ch cynorthwyo i ymgynnal….o ran ysbryd, meddwl a chorff. Po fwyaf effeithiol eich ymdrech i reoli pwysau meddyliol a chadw’n iach, gorau oll fydd eich gallu i wasanaethu pobl eich cynulleidfaoedd.

Disgyblaethau Clerig Iach

Fe allai’r canlynol fod yn weithgareddau neu ddisgyblaethau pwysig i glerigiaid eu cyflawni er mwyn bod yn iach ac effeithiol:

  • Cymrwch Gyfnodau Sabothol Byrion ac Aml
  • Gofalwch Gynnal eich Perthynas Bersonol â Duw
    • Gweddïwch
    • Addolwch
    • Darllenwch ac Astudiwch y Beibl er Dealltwriaeth Bersonol
  • Gofalwch Gynnal a Meithrin Cyfeillgarwch Agos ag Amryw Rai o Blith eich Cydnabod
    • Datblygwch a Chynhaliwch Rwydwaith o Gefnogaeth ymhlith eich Cyfoedion
  • Cynhaliwch Berthynas Fyw gyda Chymar Atebolrwydd
  • Gofalwch gadw Cydbwysedd rhwng Gwaith a’ch Bywyd Personol
  • Cadwch gysylltiad â’ch Grŵp Cyfoedion
  • Sefydlwch & Chymhwyswch Flaenoriaethau drwy Adolygu eich Gwerthoedd o Dro i Dro
  • Gosodwch Ffiniau Eglur – Dywedwch“Na” yn Amlach
  • Gofalwch am eich corff
    • Bwytewch Fwyd Maethlon
    • Gofalwch Ymarfer y Corff
    • Cofiwch Orffwys a Chysgu’n Ddigonol
    • Trefnwch eich bod yn Cael Archwiliadau Corfforol Rheolaidd

Peidiwch â theimlo’n euog o fethu cyflawni cyfran o’r uchod. Nid yw’r rhestr hon yn gyflawn, a rhwydd hynt i chi ychwanegu ambell ddisgyblaeth bersonol eich hunan.

Gweler isod rai o’r ffynonellau i’ch cynorthwyo fel clerig

PERTHYNASAU

ADEILADWYR PONTYDD - https://www.bbministries.org.uk/

Cefnogir pobl Gristionogol yn y dasg heriol o fyw yn batrymau o gymod. Cynorthwyant i drawsnewid diwylliant Crustionogol – y dulliau hynny o feddwl a gweithredu sy’n rhan o gyfansoddiad y bywyd Cristionogol nas archwilir yn aml.

DEFODAU BRIW - https://www.brokenrites.org/

Grŵp rhyngwladol yw hwn, yn cynnig cefnogaeth a gwybodaeth, o’r ddwy ochr, i wŷr, gwragedd a phartneriaid clerigiaid a gweinidogion ar ôl iddynt ymwahanu ac ysgaru.

GWEITHIAU CYFRAITH - https://www.lawworks.org.uk/

Elusen yw hon yn gweithio yn Lloegr a Chymru er mwyn cysylltu cyfreithwyr gwirfoddol â phobl sydd angen cyngor cyfreithiol ond heb fod yn gymwys ar gyfer cymorth cyfreithiol, na chwaith yn medru talu; cysylltir hefyd â’r cyrff di-elw sy’n eu cefnogi.

CYMORTH I FENYWOD – https://www.womensaid.org.uk/

Mae Cymorth i Fenywod yn ffederasiwn sylfaenol sy’n cydweithio er darparu gwasanaethau achubol yn Lloegr, a chan adeiladu dyfodol lle na oddefir camdriniaeth ddomestig. Mae’n sicrhau gwasanaethau cyfrinachol, diogel, ar gyfer menywod a phlant y bu camdriniaeth ddomestig o unrhyw fath yn rhan o’u profiad ar lwybr bywyd.

LLOCHES - https://www.refuge.org.uk/

Mae cefnogi’r sawl a brofodd drais a chamdriniaeth wrth wraidd holl waith y gymdeithas hon. Waeth beth fo’ch profiad – trais yn y cartref, trais rhywiol, trais ‘anrhydedd’, priodi gorfodol, FGM, masnachu dynol neu gaethwasiaeth fodern – meant yma i’ch cefnogi.

MENTER I WRYWOD - https://www.mankind.org.uk/

Mae ein llinell gymorth gyfrinachol ar gael ar gyfer dioddefwyr gwrywaidd camdriniaeth a thrais yn y cartref, ledled y DG, hefyd ar gyfer eu cyfeillion, teulu, cymdogion, cydweithwyr a chyflogwyr. Rydym yn darparu gwasanaeth gwybodaeth, cefnogaeth a chyfarwyddyd ar gyfer dynion sy’n dioddef camdriniaeth yn y cartref dan ddwylo’r wraig gyfredol neu gyn-wraig, cymar (gan gynnwys cymar o’r un rhyw) neu ŵr.

IECHYD

  1. GOFAL IECHYD SANT LUC AR GYFER CLERIGIAID - https://www.stlukesforclergy.org.uk/

Mae cymdeithas St Luc yn barod i weithio ochr yn ochr â chlerigiaid unigol a chydag unrhyw esgobaeth er budd llesiant clerigol, drwy gyfrwng gweithdai hyfforddi gwytnwch a grwpiau ymarfer myfyriol.

  1. MEDDWL CYMRU - https://www.mind.org.uk/about-us/mind-cymru/

Cynigir gwybodaeth, arweiniad a chyfarwyddyd, er cefnogi ynglŷn â iechyd meddwl. Maent yn gymuned ddiarbed o bobl yng Nghymru, nad ildiant hyd nes y caiff pawb sydd â phroblem iechyd meddwl gefnogaeth a pharch haeddiannol. Ynghyd â'n 20 cangen leol o Meddwl Cymru, maent wedi ymrwymo i wella iechyd meddwl yn y wlad hon.

ARIANNOL

YMDDIRIEDOLAETH CEFNOGI CLERIGIAID- https://www.clergysupport.org.uk/sonsandfriends

Elusen er cefnogi clerigiaid yw hon; sefydlwyd yn 1655, a chynigir grantiau ariannol i deuluoedd clerigiaid Anglicanaidd ar adegau o gyni, caledi neu salwch. Hefyd grantiau iechyd, llesiant a chymorth dyled. Mae’r canlynol yn gymwys i dderbyn cymorth: clerigiaid Anglicanaidd mewn swydd ac wedi ymddeol, ynghyd â’u teuluoedd, gwŷr a gwragedd, a phartneriaid sifil clerigwyr cymwys (sydd wedi ysgaru ac wedi ymwahanu), gweddwon a phartneriaid sifil goroesol clerigiaid cymwys, hefyd ymgeiswyr am urddau.

UNDEB CREDYD CYDFEDDIANNOL YR EGLWYSI - https://churchesmutual.co.uk/

Cymdeithas gydfeddiannol yw hon, trefniant cydweithredol ar gyfer cynilion a benthyciadau, dan berchnogaeth ei haelodau. Mae cyfrifon Cynilo a Benthyg ar gael i unigolion sydd mewn safle cydnabyddedig o fewn i Eglwysi Anglicanaidd Gwledydd Prydain, Eglwys yr Alban, yr Eglwys Unedig Ddiwygiedig, Eglwys Fethodistaidd Gwledydd Prydain, Eglwys Gatholig Lloegr a Chymru, ac Eglwys Gatholig yr Alban, yn gyflogedig neu wirfoddol. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth helaeth o gysylltiadau, megis gweinidogion lleyg ac ordeiniedig, aelodau cynghorau eglwysig, blaenoriaid, staff swyddfa ac ymddiriedolwyr elusennau eglwysig, gan gynnwys ysgolion eglwys. Mae’r Undeb hefyd â’r modd i gynnig cyfrifon i aelodau o deulu pobl sy’n gymwys, hefyd i weinidogion sydd wedi ymddeol.

GWASANAETH CYNGHORI ARIANNOL - https://www.moneyadviceservice.org.uk/en

Un o wefannau’r llywodraeth yw hon, yn cynnig cyngor rhad ac am ddim, a di-duedd, ynglŷn â materion ariannol, gan gynnwys y camau i’w hystyried yn wyneb ysgariad neu ymwahaniad.

HAWL PENSIWN GWLADOL- https://www.gov.uk/state-pension-age

Ceir cyngor ar y wefan hon ynglŷn ag amcangyfrif maint tebygol eich pensiwn gwladol wrth ymddeol.

TURN2US – https://www.turn2us.org.uk/

Gwasanaeth elusennol sy’n helpu pobl i hawlio arian sydd ar gael iddynt drwy asiantaethau lles, budd-daliadau, grantiau a mannau eraill. Mae yna wybodaeth helaeth yma.

CYNGOR I BAWB - https://www.citizensadvice.org.uk/wales/

Mae Swyddfa Cyngor ar Bopeth yn darparu gwybodaeth ynglŷn â’ch hawliau, a hynny ar amrywiaeth o bynciau.

GALWEDIGAETH

Y Gydgymdeithas er Arolygiaeth Fugeiliol ac Addysg (APSE yn Saesneg) –https://www.pastoralsupervision.org.uk/

Rhwydwaith yw hon, o bobl a mudiadau sy’n ymwneud ag Arolygiaeth Fugeiliol a sy’n ymddiddori mewn hyfforddi arolygwyr bugeiliol. Mae’r aelodau’n cynnwys caplaniaid gofal iechyd, therapyddion, clinigwyr, ymgynghorwyr, gweinidogion ordeiniedig, cyfarwyddwyr ysbrydol, addysgwyr diwinyddol, swyddogion addysg eglwysig a gweithwyr proffesiynol eraill. Diben y Gydgymdeithas yw hyrwyddo safonau uchel o arolygiaeth fugeiliol drwy: grwpiau meithrin er cefnogaeth, atebolrwydd a datblygiad parhaol arolygwyr bugeiliol; annog cyd-drafod ymhlith amrywiol draddodiadau a chyd-destunau arolygu bugeiliol, ac addysg arolygu bugeiliol; cefnogi mentrau hyfforddi arolygwyr bugeiliol; cynnig cyfundrefn awdurdodi arolygwyr bugeiliol a phobl sy’n addysgu yn y pwnc.

YSGOL FYFYRIO - https://www.theschoolofmeditation.org/

Mae’r Ysgol hon yn rhan o’r Gymuned Fyd-eang er Myfyrdod Cristionogol, cymuned fyfyriol gynhwysol yn cwmpasu miloedd o grwpiau wythnosol mewn mwy na 100 o wledydd. Wedi ei sefydlu bron 30 mlynedd yn ôl, gwelwyd y Gymuned yn esblygu’n raddol a thyfu yn feithrinfa fyfyrio, gan rannu’r ddawn hon ag eraill mewn cymdeithas amrywiol ei gwedd a chyflym ei thŵf – yn grefyddol a seciwlar. Gwelwn fyfyrdod fel elfen sy’n gyffredin i bob crefydd a diwylliant, tra’n parchu’r hyn sy’n unigryw ynddynt, ar yr un pryd.

Y GYMUNED FYDEANG ER MYFYRDOD CRISTNOGOL (WCCM yn Saesneg) – https://wccm.org/

Mae hon yn gymuned ysbrydol fydeang, â’r arfer o fyfyrio yn y traddodiad Cristionogol yn ganolog iddi. Mae’n rhannu ffrwyth yr arfer hwn yn helaeth a chynhwysol, gan barchu unoliaeth pawb a chan hybu dealltwrieth rhwng crefyddau a diwylliannau. Gwyddys fod aelodaeth y Gymuned yn cwmpasu cant a mwy o wledydd, a bod yna tua thrigain a saith o gydlynwyr cenedlaethol. LLeolir ei chanolfan ryngwladol yn Bonnevaux ger Poitiers, Ffrainc – safle fynachaidd hynafol, â’i ffocws ar heddwch bydeang a chyd-drafod yng nghyd-destun myfyrio dyddiol.

CANOLFANNAU ENCIL

Y GYDGYMDEITHAS ENCIL - http://www.retreats.org.uk/index.php

Trefniant Cristionogol cenedlaethol yw hwn, wedi ei sefydlu er mwyn helpu pobl i ddarganfod dulliau o archwilio a dwysau eu taith yng nghwmni Duw, drwy ysbrydolrwydd a gweddi. Trefniant eciwmenaidd ydym, yn cefnogi’r sawl sydd yn rhan o’r Eglwys, a hefyd bobl o’r tu allan iddi, fel a ganlyn:

Awgrymu encil – hyrwyddwn encilion drwy gyngor personol;
Encilion – mae ein cylchgrawn blynyddol yn rhestru 230 tŷ encil a’u rhaglenni.

Cyfarwyddyd Ysbrydol – rhoddir cymorth i bobl ganfod cyfarwyddydd neu gydymaith ysbrydol.

Adnoddau – i’r sawl a fynn ddwysau ei bywyd gweddi.

Digwyddiadau – digwyddiadau cenedlaethol neu ranbarthol yn canolbwyntio ar ysbrydolrwydd.

Hyfforddiant – gan gynnwys cyrsiau ysbrydolrwydd a chyfarwyddyd ysbrydol; arwain encilion a dyddiau tawel.

HWB SHELDON – https://www.sheldonhub.org/

Mae hon yn ganolfan ddiogel lle gall y sawl sy’n gweinidogaethu gyfarfod, rhannu a chefnogi ei gilydd. Mae’n saff, ac ar gael yn rhad, i bawb ym maes gweinidogaeth, er rhannu syniadau, cyngor ac adnoddau ar gyfer llesiant, a hynny yn gyfrinachol. Cewch yr wybodaeth ganlynol yma:

  • Cymuned arlinell gefnogol
  • Cyfeirlyfr byw am bobl a lleoedd
  • Swmp o gyngor dibynadwy

BONNEVAUX - https://bonnevauxwccm.org/

Dyma ganolfan fyfyrdod ac encil ryngwladol y Gymuned Fyd-eang er Myfyrdod Cristionogol (WCCM yn Saesneg). Mae cymuned breswyl yn byw yn ysbryd Rheol Sant Bened, ynghyd â gwirfoddolwyr o amryw rannau o’r byd. Mae Bonnevaux yn gwasanaethu heddwch ac unoliaeth fyd-eang ymhlith pob traddodiad, drwy ymgomio, distawrwydd a chyfeillgarwch. Ein gobaith yw gweld pawb sy’n ymweld â Bonnevaux yn ymdeimlo â’r ysbryd tangnefeddus, gan brofi distawrwydd amgen. Wrth i hedyn y trawsnewidiad gydio, bydd modd i’r ymwelwyr deimlo grym myfyrdod yn dwysau yn eu bywydau eu hunain ac ym mywydau’r sawl sy’n byw a gweithio gyda hwy.

IECHYD MEDDWL

AP I’R ENAID(SOULTIME APP )- https://www.soultime.com/

Ap sy’n archwilio myfyrdod, o safbwynt Cristionogol – cyfnod profi am ddim cyn tanysgrifio.

GRYMCWSG (SLEEPSTATION ) – https://www.sleepstation.org.uk/clergy-support-trust/

Sefydlwyd partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Cefnogi Clerigiaid, er mwyn helpu clerigiaid Anglicanaidd prysur, ynghyd â’u gwŷr/gwragedd/cymheiriaid, i gysgu’n drymach. Rhaglen arlinell ydyw, er cyfarwyddyd y cyfryw bobl sy’n dioddef o ddiffyg cwsg. Mae’r cynnig hwn ar gael yn y DG ac Iwerddon. Cynlluniwyd gan feddygon, a hynny ar sail wyddonol, bydd Grymcwsg yn fendithiol i chi o ran cysgu’n esmwyth. Caiff y rhaglen gefnogi a chyfarwyddo hon ei hariannu’n llawn gan Ymddiriedolaeth Cefnogi Clerigiaid.

PENAGORED(HEADSPACE ) - https://www.headspace.com/

Y nod yw annog ymwybodolrwydd, o ran bywyd beunyddiol – cyfnod profi am ddim cyn tanysgrifio.

SEFYDLIAD MEDDWL AC ENAID (MIND AND SOUL FOUNDATION) - https://www.mindandsoulfoundation.org/

Credwn mewn Duw sy’n ein caru AC yn ymboeni am ein hiechyd emosiynol a meddyliol. Cedwir ein ffydd a’n hemosiynau ar wahân yn aml. Mae ein tîm llywio creiddiol – seicolegydd, offeiriad a seiciatrydd – wedi datblygu adnoddau integredig o safon, a chafwyd neges rymus ganddynt, sef bod y DDEUBETH yn bwysig. Pur anaml y trafodir iechyd meddwl mewn eglwysi, ac o’r braidd y gwelir fod gan ysbrydolrwydd Cristionogol unrhyw beth o bwys i’w gyfrannu i fyd seicoleg. Rhychwantu’r bwlch hwnnw yw ein nod.

  • Addysgu: Rhannu agweddau gorau diwinyddiaeth Cristionogol a datblygiadau gwyddonol.
  • Cyflenwi: Helpu pobl i gyfarfod â Duw a gwella o’u gofid emosiynol.
  • Annog: Cysylltu â’r eglwys leol a’r gwasanaethau iechyd meddwl.

SEFYDLIAD IECHYD MEDDWL - https://www.mentalhealth.org.uk/

Ers 1949, dyma elusen fwyaf blaenllaw y DG o ran iechyd meddwl pobl. O geisio, yn bennaf, atal yr aflwydd, mynd i’r afael ag achosion problemau iechyd meddwl yw ein bwriad, a hynny er lles a ffyniant pobl a chymunedau.

SINAMON (CINNAMON )- https://www.cinnamonnetwork.co.uk/mental-health-and-wellbeing/

Cefnogi Iechyd Meddwl a Llesiant yn ystod COVID-19 yw’r nod. Rydym yn poeni’n aruthrol yma yn Sinamon, ynghylch iechyd meddwl. Dywedir yn fynych fod unigrwydd yn un o brif achosion iechyd meddwl bregus. Rhoddir cyngor buddiol ynglŷn â iechyd meddwl yn ystod y pandemig.

Y GYDGYMDEITHAS SEICDREIDDIO BRYDEINIG (BRITISH PSYCHOANALYTIC ASSOCIATION )- https://www.psychoanalysis-bpa.org/

Nod ein gwaith yw hyrwyddo datblygiad parhaol meddylu ac ymarfer seicdreiddiol, a hynny drwy gynnig rhaglen hyfforddi gyfoes a chynhwysol. Ategir hyn gan gyfleoedd datblygu helaeth a chyson, rhaglen wyddonol gynhwysfawr a Gwasanaeth Clinigol. Cynigir, man pellaf, 6 sesiwn RAD AC AM DDIM dros y ffôn neu fideo, i’r sawl sy’n ceisio cefnogaeth iechyd meddwl yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Y GYDGYMDEITHAS YMGYNGHORWYR CRISTIONOGOL (ACC Association of Christian Counsellors )- https://www.acc-uk.org/

Sail ethos arbennig y gydgymdeithas hon yw’r traddodiadau Cristionogol sy’n dyrchafu gofal bugeiliol, hefyd y gred fod y cyfryw ofal, law yn llaw â chyngor proffesiynol ac annibynnol, ynghyd â seicotherapi, yn wasanaeth pwysig i’r cyhoedd. Mae gwaith ein staff yn deillio o’u hymdeimlad o obaith a ffydd, a does yna ddim rhagdybiaethau na disgwyliadau ganddynt, o ran credoau, gwerthoedd na ffordd o fyw y sawl sy’n ceisio cyngor. Credwn fod ymwybyddiaeth o gariad eraill, a charu cymydog fel ni ein hunain, yn fynegiant o gariad Duw tuag at y ddynoliaeth, fel y gwelwyd ym mywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu. Mynegir y cariad hwn tuag at bobl grefyddol ac anffyddwyr, gan barchu amrywiaeth profiadau dynol, rhyddid ewyllys a chydwybod.

RHAGLEN RITHIOL SANT LUC GOGYFER â LLESIANT CLERIGIAID (ST LUKE’S CLERGY VIRTUAL WELLBEING PROGRAMME) - https://www.stlukesforclergy.org.uk/st-lukes-virtual-wellbeing-programme/

Ceir adnoddau parod fan yma i gefnogi clerigiaid o ran eu llesiant yn ystod COVID-19, drwy feddylu/pwyso a mesur, yn unigol neu fesul grŵp. Diweddarir Rhaglen Lesiant Sant Luc bob dydd Llun, a bydd yr adnoddau oll ar gael fan yma i’w defnyddio pa bryd bynnag y bydd eu hangen.

IECHYD CORFFOROL

YR HYFFORDDWR CORFF JOE WICKS (THE BODY COACH) - https://www.youtube.com/user/thebodycoach1

Un o’r cyfresi ymarferion mwyaf poblogaidd heddiw, o bell ffordd – gyda phlant ac oedolion – i bob golwg, yw honno gan Joe Wicks @thebodycoach, sydd ar gael ar y linc uchod ar You Tube.

STIWDIO FFITRWYDD GIG (NHS FITNESS STUDIO) - https://www.nhs.uk/conditions/nhs-fitness-studio/

Mae dewis o 24 fideo gan hyfforddwr corfforol, yn cwmpasu ymarferion erobig, cryfder a gwytnwch, hefyd gategorïau Pilates a ioga.

ARWYDD GWEITHGAREDD CHWARAEON Y BBC (SPORTS ACTIVITY FINDER) - https://www.bbc.co.uk/sport/av/get-inspired/45245003

Dyma ddewis o bobl blaenllaw ym myd chwaraeon yn ein harwain yn ddyddiol mewn ymarferion 15-munud, a thrwy gyfrwng ambell fideo ffitrwydd.

DYGYMOD Â STRAEN & PHRYDER

SANVELLO - https://www.sanvello.com/

Technegau wedi eu gwirio’n glinigol ar gyfer lleihau straen a thrin pryder ac iselder (ar gael yn union yn rhad ac am ddim, yn ystod pandemig COVID-19).

HAPPIFY - https://www.happify.com/

Trechwch feddyliau negyddol, straen a heriau bywyd. Mae peth o’r cynnwys yn rhad ac am ddim, gan gynnwys lleihau straen a thechnegau dirnadol i geisio trechu pryder.

NEWIDMEDDWL (MINDSHIFT) CBT – https://www.anxietycanada.com/resources/mindshift-cbt/

Strategaethau a brofwyd yn wyddonol ac yn seiliedig ar Therapy Ymddygiad Dirnadol yw hanfod gwaith y corff hwn, a’i nod yw helpu pobl i ymlacio a bod yn ymwybod- ol;gobeithir datblygu’r ddawn o feddwl yn fwy eglur a dysgu rheoli pryder yn llwyrach.

APIAU

COLORFY – Llyfr lliwio ar gyfer oedolion, a hynny yn y maes digidol. Mae yma amrywiaeth dewis o ddelweddau a mandalâu, neu gellir lanlwytho eich brasluniau eich hunain ar gyfer eu lliwio; gellir treulio oriau mewn ysbryd hwyliog neu fyfyrdod dwys drwy gyfrwng yr ap hwn. Gall canolbwyntio sylw ar y patrymau pert dynnu eich sylw oddiwrth eich pryderon a rhoi rhyw dawelwch meddwl i chi. Ni fydd hunan-archwilio, chwaith, gan fod cynllun syml yr ap yn sicrhau na fydd crwydro yn bosib.

MEIDDIO (DARE) — Dim Pryder Mwyach. Mentrwch wynebu eich ofnau, pa un ai wrth boeni am bryder, panig, gofid neu ddiffyg cwsg. Gall y Meiddio fod, drwy recordiadau sain, yn fodd i chi ddygymod â’ch pryder, yn hytrach na’i osgoi, rhywbeth sy’n medru dwysáu pryder. Bydd cyfarwyddyd ar y sgrîn yn fodd i chi ganolbwyntio wrth anadlu’n ddwfn, a chewch ddigon o gymorth ychwanegol ar ôl tanysgrifio.

SYNAU NATUR, YMLACIO A CHYSGU – Mae meddyliau gwib a synfyfyrion yn arwyddion sicr o bryder, ond bydd modd i chi arafu, anadlu’n ddwfn a gwagio’r meddwl drwy gyfrwng y synau a’r golygfeydd mwynaidd o fyd natur, yn yr ap hwn. Clywch ru taran, pitran patran glaw, crenshian tân, trydar adar a mwy – oes, mae yma rywbeth i bawb. Gosodwch amserydd yr ap er mwyn gwrando, wrth i chi lithro i fyd cwsg, neu, fel arall, i gael deffro’n blygeiniol i ryw sain tyner.

SGLEIN – Nid yr un mo pryder i bawb o bob hîl. Cynlluniwyd ap Sglein gan wragedd duon, yn benodedig er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon hyn sy’n arbennig o berthnasol i’r gymuned ddu, gan gynnig dulliau myfyrio, podlediadau, llyfrgell sain enfawr, a chyfleuster cymunedol i’ch galluogi i ymorol ynglŷn â’ch pryder(on), yn unigol neu gyda chefnogaeth eraill o’r un anian.

ANADLWCH (BREATHWRK) – O fod yn llawn pryder, diau i chi geisio ambell ymarfer anadlu er mwyn tawelwch meddwl. Mae’n ap Breathwrk yn defnyddio gwyddor anadlu a’i dwysáu drwy ddyfeisio ymarferion anadlu yn ôl eich dymuniad: mynd i gysgu, ymlacio, ymegnïo a lliniaru pryder. Mae’r ap yn rhoi cyfarwyddyd, o ran pob ymarfer, a gall eich atgoffa’n ddyddiol i gofio……wel, anadlu.

GÊM LLEDDFU STRAEN A PHRYDER – Wyddoch chi am y teclynnau bychain yna sy’n tynnu eich sylw oddiwrth rhywbeth – ciwbiau “fidget”? Dychmygwch lond ap o’r cyfryw bethau: dyna’r ap Gwrthstraen. Rhyw gêmau dibwys megis popio swigod plastig, troellwyr fidget, clicio beiro, cerfio sebon ac ati – dyma’r union beth i dynnu eich sylw oddiwrth yr hyn sy’n peri pryder.

HYPNOSIS STRAEN A PHRYDER – Pa un a ydych yn credo mewn hypnosis ai peidio, mae’n werth sylwi ar yr ap hwn gan fod iddo sail wyddonol, er lleddfu gofid drwy brofiadau sain, gan gynnwys darlleniadau a synau ar dâp i helpu i leddfu straen, pryder, PTSD, a symptomau megis dicter ac OCD a waethygir oblegid y cyfryw straen a phryder.

NODIADAU HWYLIAU (MOODNOTES) – Gallwch gofnodi eich holl brofiadau pryderus drwy hyn. Mae’r ap yn seiliedig ar dechnegau CBT a seicoleg gadarnhaol, gan roi modd i chi ddeall a rheoli holl brofiad straen a phryder. Gellir dewis unrhyw dechneg – tynnu llun o’ch wyneb er mwyn synhwyro eich hwyliau, cofnodi eich meddyliau wrth i chi ddechrau teimlo pryder neu ddarllen deunydd addysgol sy’n help i chi gadw teimladau pryderus o hyd braich – mae’r dewis yn helaeth.

DYGYNNWRF - https://www.calm.com/

Gellir profi’n rhad ac am ddim am saith diwrnod. Ap yn ymdrin â myfyrio, cysgu ac ymlacio, ynghyd ag adnoddau i ddygymod yn benodedig â phryder ynglŷn â COVID-19.

FY MYWYD - https://my.life/

Mae emosiynau rhywun yn newid. Dyna’r rheswm fod Fy Mywyd yn cynnig ateb personol parthed ymwybodolrwydd a hwnnw’n addas i’ch hwyliau ar y pryd.

  1. AMSERYDD DEALL (INSIGHT TIMER) - https://insighttimer.com/ Bythol rad ac am ddim. Nid ap dyddiol mohono ond llyfrgell sylweddol ag ynddi sawl math o fyfyrdod a chymorth gan athrawon o fri.
  2. HAPUSACH O DDEG Y CANT (TEN PERCENT HAPPIER) - https://www.tenpercent.com/ Yn yr ap hwn cewch hyd i fyfyrdodau ac arweiniad ymarferol a fydd yn gyffredinol ddefnyddiol.
  3. AP YMWYBODOLRWYDD UCLA Mindful App - https://www.uclahealth.org/marc/ucla-mindful-app Rhwydd i’w ddefnyddio; gellwch ymarfer myfyrio ymwybodolrwydd lle bynnag a phryd bynnag y mynnoch, drwy arweiniad Canolfan Ymchwil Ymwybyddiaeth Gofal UCLA.
  4. HYFFORDDWR YMWYBODOLRWYDD (MINDFULNESS COACH) - https://www.mentalhealthapps.org/ Datblygwyd i helpu cyn-filwyr, aelodau o’r lluoedd arfog, ac eraill, i ddysgu sut i ymarfer ymwybodolrwydd. Dyma raglan hyfforddi hunan-dywysedig raddol, i’ch cynorthwyo i ddeall a mabwysiadu dull syml o ymarfer ymwybodolrwydd.

GALAR

GEIRIAU A BALLA (AT A LOSS) - https://www.ataloss.org/

Sefydlwyd yn 2016 gan Yvonne Richmond Tulloch er sicrhau cefnogaeth i bawb yn y DG a welodd brofedigaeth. Gwneir hyn drwy:

  • ddarparu gwefan gyfeirio y DG ar gyfer y galarus, gan ddwyn i’w sylw hwy a’r sawl sy’n eu cefnogi, wybodaeth a gwasanaethau addas.
  • hyrwyddo ac annog y gefnogaeth alar sydd ar gael.
  • gau’r bylchau mewn cefnogaeth alar lle bo’r gefnogaeth honno’n brin.

hyfforddi grwpiau ac unigolion o ran gofal galar, er sicrhau cefnogaeth leol.

GOFAL GALAR CRUSE - https://www.cruse.org.uk/

Gweledigaeth Gofal Galar Cruse Cymru yw fod pawb sy’n alarus â rhywle i droi am gymorth ar adeg profedigaeth.

ADNODDAU CYFFREDINOL

  1. Deg Awgrym Hygyrch er hybu gwytnwch yn y cartref, datblygwyd gan seicolegwyr yn CPLl ac eraill.
  2. Cynghorion iechyd meddwl gan seicolegydd profiadol, lluniwyd wedi sawl wythnos o sesiynau yn ymwneud yn bennaf ag ofnau a gofidiau parthed Covid-19.