Swyddog Gweinyddu a Gofal Eglwysi
Gwybodaeth
Lleoliad Swyddfa'r Esgobaeth, Abergwili, Caerfyrddin
Cyflog £32,658 - £36,049
Dyddiad cau 20 Hydref 2026 11 y.h.
Disgrifiad Swydd
Esgobaeth Tyddewi | Abergwili, Caerfyrddin
Amser llawn (35 awr yr wythnos) | Yn seiliedig yn y swyddfa
Mae Esgobaeth Tyddewi yn chwilio am weithiwr proffesiynol trefnus sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i ymuno â'n tîm fel Swyddog Gweinyddu a Gofal Eglwysi.
Mae hon yn rôl allweddol sy'n cefnogi gofal a goruchwyliaeth adeiladau eglwysig ar draws yr Esgobaeth. Gan weithio'n agos gyda chlerigwyr, gwirfoddolwyr, pwyllgorau esgobaethol, penseiri ac ymgynghorwyr proffesiynol, byddwch yn darparu cymorth gweinyddol o ansawdd uchel, yn cydlynu prosesau pwyllgorau, yn rheoli ceisiadau ac ymholiadau, yn cynnal cofnodion, ac yn helpu i ddarparu gwasanaeth rhagorol i blwyfi a rhanddeiliaid.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â:
- Profiad sylweddol o waith gweinyddol, rheoli achosion neu wasanaeth cwsmeriaid
- Sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol
Profiad o drefnu a chynorthwyo mewn cyfarfodydd, paratoi agendâu a chymryd cofnodion - Sgiliau cryf yn Microsoft 365 a TG
- Y gallu i reoli blaenoriaethau lluosog a gweithio'n annibynnol
- Dull proffesiynol, rhagweithiol ac sy'n canolbwyntio ar y cwsmer o ran darparu gwasanaeth
- Byddai profiad o weithio mewn amgylchedd eglwysig, elusennol, treftadaeth neu'r sector cyhoeddus yn fantais, yn ogystal â gwybodaeth am eiddo, cynllunio neu brosesau 'faculties' (trwyddedau eglwysig). Croesewir sgiliau yn y Gymraeg hefyd.
Mae hon yn gyfle cyffrous i gyfrannu at genhadaeth a gweinidogaeth yr Esgobaeth drwy helpu i sicrhau llywodraethu, gofal a datblygiad effeithiol ein heglwysi a'n hadeiladau hanesyddol.
Lleoliad: Swyddfa'r Esgobaeth, Abergwili, Caerfyrddin
Cyflog: £32,658 - £36,049
Dyddiad Cau: 20 Hydref 2026
Am ragor o wybodaeth a phecyn ymgeisio, gweler y disgrifiad swydd llawn: