Swyddog Grantiau a Chyllido
Gwybodaeth
Lleoliad Swyddfa'r Esgobaeth, Abergwili, Caerfyrddin, SA31 2JG
Cyflog £34,000
Dyddiad cau 04 Rhagfyr 2026 2:04 y.h.
Cyfweliadau 16 Rhagfyr 2026
Disgrifiad Swydd
Bydd deiliad y swydd yn helpu eglwysi, Ardaloedd Gweinidogaeth Leol, archddiaconiaethau a phrosiectau’r Esgobaeth i sicrhau cyllid allanol. Bydd yn nodi cyfleoedd i ymgeisio am grantiau, yn helpu timau i ddatblygu prosiectau a chyllidebau, ac yn llunio ac yn adolygu ceisiadau. Bydd hefyd yn meithrin perthynas â chyrff cyllido, yn datblygu ceisiadau ar y cyd, yn cadw cofnod o ganlyniadau ceisiadau ac yn hyfforddi clerigion a gwirfoddolwyr i ymgeisio am grantiau’n hyderus.
I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at iwanthomas@cinw.org.uk.