English
We are currently in the process of making our entire website bilingual.

Unfortunately, this page has not been fully translated yet but will be soon. If you would like to help us translate this page sooner and contribute in a way that helps us reach more people through the website, please click on the button below. Alternatively, you can ask for this page to be translated and we will do our best to do so as soon as possible.

Gwybodaeth

Lleoliad Archddiaconiaeth Aberteifi

Disgrifiad Swydd

Mae nifer o gyfleoedd cyffrous ar gael ar hyn o bryd i Offeiriaid Tîm wasanaethu o fewn Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol (AGLlau) Archddiaconiaeth Aberteifi, yn Esgobaeth Tyddewi.

Rydym yn chwilio am glerigion sydd ag angerdd dros weinidogaeth fugeiliol, ymgysylltu â chymunedau a chefnogi bywyd a chenhadaeth yr Eglwys.

Cyfleoedd presennol:

  • AGL Aberystwyth – Offeiriad Tîm: Gyda chyfrifoldeb bugeiliol penodol dros Benparcau.
  • AGL Bro Padarn – Offeiriad Tîm: Gyda chyfrifoldeb bugeiliol penodol dros Lanbadarn Fawr a'r eglwysi gwledig o fewn yr AGL.
  • AGL Bro Wyre – Offeiriad Tîm: Gyda chyfrifoldeb bugeiliol penodol dros Lanilar a phum eglwys wledig arall o fewn yr AGL.
  • AGL Dyffryn Teifi – Offeiriad Tîm: Gyda chyfrifoldeb bugeiliol penodol dros Gastellnewydd Emlyn a phum eglwys wledig arall o fewn yr AGL.

Mynegi Diddordeb

Anogir unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am y cyfleoedd hyn, neu mewn archwilio'r posibilrwydd o weinidogaethu o fewn Archddiaconiaeth Aberteifi, i gysylltu ag Archddiacon Aberteifi.

E-bost: archdeacon.cardigan@churchinwales.org.uk