English

Mae Esgobaeth Tyddewi yn cynnig nifer o grantiau gwahanol i gefnogi eglwysi, Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol a phrosiectau ledled yr esgobaeth.

Os ydych yn ceisio cyllid ar gyfer gwaith atgyweirio, adfer, gwella, gwella hygyrchedd, ail-drefnu neu unrhyw waith arall ar adeilad eglwys, dylech wneud cais am Grant Atgyweirio Eglwysi. Peidiwch â defnyddio’r ffurflen gais am Grant Cyffredinol ar gyfer gwaith adeiladu.

Mae’r Grant Atgyweirio Eglwysi, sy’n gallu darparu hyd at £7,500 o gyllid, wedi’i fwriadu’n benodol ar gyfer gwaith cymwys ar adeiladau eglwysig. Mae’r manylion llawn, y meini prawf a’r ffurflen gais i’w gweld o dan 2) Grantiau Atgyweirio Eglwysi isod.

Mae’r Grant Cyffredinol wedi’i fwriadu ar gyfer prosiectau sy’n annog cenhadaeth, twf ysbrydol ac allgymorth i gymunedau lleol. Ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer gwaith adeiladu, adfer neu wella.

Fel arfer, cyfrifoldeb yr Ardal Weinidogaeth Leol yw cynnal a chadw adeilad eglwys yn rheolaidd. Fodd bynnag, bydd achlysuron pan fydd angen cyngor neu gymorth ariannol o’r tu allan.

Mae GrantFinder yn darparu mynediad at fwy nag 8,000 o ffynonellau cyllid ar gyfer ystod eang o brosiectau a allai helpu i gynnal, adnewyddu, ail-drefnu neu ymestyn adeiladau eglwysig, yn ogystal â chefnogi gwaith grwpiau eglwysig. Mae gan yr esgobaeth fynediad at GrantFinder drwy gynllun taleithiol, sy’n darparu ystod ehangach o gyfleoedd cyllido posibl na llawer o beiriannau chwilio safonol.

Cyn ystyried unrhyw waith ar eich eglwys neu fynwent yr eglwys, dylech ymgynghori â’ch Archddiacon, a all eich cynghori ynghylch y ffynhonnell fwyaf priodol o gymorth neu gyllid.

Cofiwch y gall fod angen faculty ar gyfer cynigion i atgyweirio, newid neu addasu eglwysi neu fynwentydd eglwysig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar brif dudalen y Pwyllgor Ymgynghorol Esgobaethol.

Mae pedwar grant esgobaethol gwahanol ar gael. Darllenwch y disgrifiadau’n ofalus a gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi’r ffurflen gais ar gyfer y grant sydd fwyaf addas i’ch prosiect.

Grant Cyffredinol

Mae grantiau hyd at £3000 ar gael i Ardaloedd Gweinidogaeth Leol, eglwysi ac unigolion i gefnogi prosiectau sy'n annog cenhadaeth a hyrwyddo twf mewn niferoedd, twf mewn ysbrydolrwydd ac allgymorth i gymunedau lleol. Nid yw'r grantiau hyn ar gyfer gwaith adeiladu, adfer neu wella.

Rhaid i geisiadau gael cefnogaeth yr Archddiacon a Chyngor yr Ardal Gweinidogaeth Leol. Rhaid hawlio pob grant o fewn 12 mis i ddyddiad dechrau'r prosiect.

Mae ceisiadau yn cael eu hystyried trwy gydol y flwyddyn bob chwarter. Rhaid cyflwyno ceisiadau o leiaf 14 diwrnod gwaith cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor Grantiau.

Meini prawf dyfarnu grantiau Grant Cyffredinol

Ffurflen Gais Grant

Grant ar gyfer Atgyweirio

  • Atgyweirio adeiladwaith yr eglwys ac eithrio gwydr lliw neu addurnwaith oni bai bod gwaith o'r fath yn cynrychioli llai na 10% o brosiect atgyweirio mawr.
  • Gwaith i wella diogelwch a hygyrchedd
  • Estyniadau neu aildrefnu mawr
  • Eglwysi newydd

DS> Bydd yr uchafswm yn cael ei ddyfarnu dim ond lle y gellir dangos y bydd y gwaith yn helpu'r eglwys i gyrraedd targed sero net.

Lawrlwytho: Ffurflen gais grantiau atgyweirio eglwysi [pdf]

Meini Prawf a Ffurflen Gais

Cronfa Menter Ardal Gweinidogaeth Leol

Mae Ardaloedd Gweinidogaeth Leol yn gymwys i gael grant untro o £800 tuag at amrywiol brosiectau datblygu. Mae'r rhain yn cynnwys:

Grant Adnoddau Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

Mae'r grant yn agored i bob Ardal Gweinidogaeth Leol, prosiectau Plant Dewi ac Ysgolion yr Eglwys.

2 Faint yw'r grant?

Mae’r grantiau wedi'u cyfyngu i uchafswm o £1000.

3 Pa fath o Fentrau/Prosiectau y gellir eu hariannu â'r grant hwn?

Beth ellir ei ariannu:

  • Mentrau newydd fel Llan Llanast, Caffis Mawl, Cylchoedd Plant Bach, Grwpiau Ieuenctid
  • Prosiectau Plant, Ieuenctid a Theuluoedd presennol sydd angen cyllid parhaus
  • Mentrau/Prosiectau sy'n annog Eciwmeniaeth
  • Hyfforddiant i'r rhai sy'n arwain/hwyluso e.e. Chwarae Duwiol, Agor y Gair
  • Hyfforddi a pharatoi arweinwyr ifanc newydd
  • Gellir ystyried unrhyw brosiect arall sy'n dod o fewn y rhestr uchod, ond nid yn uniongyrchol, ond nid yw'r rhestr hon yn cynnwys pob un dim.

Beth na ellir ei ariannu:

  • Cyflogi Staff
  • Adeiladwaith adeilad e.e. creu cornel i blant mewn eglwys neu waith adeiladu

4 Pa feini prawf fydd yn cael eu hasesu wrth wneud grant?

  • Diwallu angen lleol – ceisio peidio â dyblygu gwaith presennol
  • Gweledigaeth glir ar gyfer y prosiect/fenter
  • Prosiectau sy'n caniatáu i Blant a Phobl Ifanc ddefnyddio eu lleisiau a chyfrannu at y gymuned neu'r eglwys ehangach
  • Prosiectau a fydd yn gwneud gwahaniaeth i Blant, Pobl Ifanc neu Deuluoedd
  • Cynaliadwyedd yn y dyfodol
  • Ymarfer Diogelu Priodol ar waith
  • Gofynion statudol eraill yn dibynnu ar natur y gwaith: e.e. Hylendid Bwyd

5 Oes angen i mi siarad ag unrhyw un cyn gwneud cais?

Oes, mae angen i chi siarad â’r Cenhadwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd er mwyn sicrhau bod y gwaith rydych chi'n ei gynnig yn unol â'r Meini Prawf Esgobaethol. Peidiwch ag anfon unrhyw ffurflenni cais at y Cenhadwr PITh i'w gwirio gan nad ei chyfrifoldeb hi fydd hynny. Mae'n synhwyrol siarad â'ch Cyngor Ardal Gweinidogaeth Leol neu'ch Ymddiriedolwr/Corff Llywodraethol gan y bydd angen llofnod y Cadeirydd.

Lawrlwythwch y Ffurflen Gais

Meini Prawf a Furflen Gais