Celf Ar Y Llwybr Ffydd (Gaeaf)
Ar ôl colli dau haf, rydym wedi penderfynu cynnal arddangosfa gaeaf "Celf ar y Llwybr Ffydd" yn yr eglwys gadeiriol yn ystod mis Tachwedd eleni. Bydd yr arddangosfa’n agor ar yr ail o Dachwedd am bedair wythnos.
![ArtFaitTrail Cathedral [Tim Williams].jpg](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/ArtFaitTrail_Cathedral_Tim_Williams.width-500.jpg)
Dathliad blynyddol o'r cysylltiad rhwng celf a mannau cysegredig, yw Celf ar y Llwybr Ffydd (fel arfer). Yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf mae'n arfer cael ei gynnal, gydag arlunwyr lleol yw arddangos eu gwaith mewn amrywiaeth o ffurfiau yn y gadeirlan ac mewn eglwysi yng ngogledd Sir Benfro. Fodd bynnag, diolch i'r pandemig mae hyn wedi bod yn amhosib am y ddwy flynedd ddiwethaf. Felly mae'r arddangosfa eleni yn gyfle i ail-sefydlu'r digwyddiad.
Llun: Charlotte Cortazzi, Tim Williams