English

Mae'r Tîm Gweinidogaethol yn cydlynu a datblygu'r holl weinidogaethau ordeiniedig, trwyddedig a lleyg o fewn yr Esgobaeth.

Galwedigaeth

Ydy Duw yn galw arnoch i fod yn rhan o weinidogaeth benodol?

Y cam cyntaf: trefnwch gyfarfod gydag un o'r Ymgynghorwyr Galwedigaethau.

Cymrodoriaeth Galwedigaeth

Sefydlwyd y Gymrodoriaeth fel man cyfarfod i'r rheiny sy'n teimlo eu bod wedi derbyn galwad Duw ond sy'n ansicr am y cam nesaf.

Arwain Addoliad

Gweinidogion lleyg sy'n cynorthwyo gyda gwasanaethau mewn nifer o ffyrdd yw Arweinwyr Addoliad - ond nid ydynt wedi'u trwyddedu i bregethu. Felly mae Tîm y Weinidogaeth yn cyhoeddi Homili wythnosol, sy'n seiliedig ar ddarlleniadau Beiblaidd bob Sul. Mae'r rhain wedi'u hysgrifennu gan unigolion trwyddedig, ac mae rhwydd hynt iddynt gael eu defnyddio yn lle pregeth, neu fel cymorth i gynulleidfa gysylltu gyda'r Ysgrythur.

Cyfleoedd ar gyfer Gweinidogaeth Gristnogol yn yr Esgobaeth