English

Yn ei erthygl ddiweddaraf, mae Matt Webster yn ystyried rhannu rhythm bywyd ac yn edrych ymlaen at ŵyl haf

Yn fy erthygl gyntaf, cyflwynais Gymuned y Ffordd - ein cymuned fynachaidd sydd wedi'i gwreiddio yn Llansteffan, ac wedi’i sefydlu ar sylfaen gweddi, symlrwydd a lletygarwch radical. Y tro hwn, dwi am rannu mwy am ein hymdeimlad o genhadaeth - sut y gall bywyd myfyriol hefyd fod yn un o ymgysylltiad dwfn â'r byd o'n cwmpas.

Mae bywyd mynachaidd weithiau'n cael ei gamddeall i olygu encilio o'r byd. Ond i ni, mae'n ymrwymiad i fod yn bresennol - i Dduw, i'n gilydd, ac i'r gymuned rydyn ni'n byw ynddi. Mae'r Rheol sy'n ein tywys yn ein galw i groesawu'r rhai sy'n ceisio heddwch neu fyfyrio - nid yn ddifeddwl, ond gyda sylw, ffiniau a pharch. Nid yw'n ymwneud â chynnig atebion cyflym, ond rhannu rhythm bywyd lle gall cariad gael ei adnabod yn y cyffredin.

Mae llawer o'n cenhadaeth yn digwydd yn dawel: eistedd gyda rhywun dros gawl a bara, cerdded llwybr yr aber gyda ffrind, neu yn syml gwrando, neu ymgynnull am dân wrth iddi wawrio ar y traeth - gweledigaeth o weddi sy’n seiliedig ar rythmau’r llanw a’r golau. Mae eiliadau fel yna yn helpu i lunio sut rydyn ni'n byw nawr.

Mae peth o'n gwaith estyn allan wedi'i leoli yng Nghaerfyrddin, lle rydyn ni’n cydweithio â sefydliadau sy'n cefnogi pobl sy'n byw trwy dlodi, dibyniaeth, neu drallod meddyliol. Mae'r achosion hyn o gyfeillgarwch yn cael eu hadeiladu'n dyner ac yn barchus. Nid darparwr gwasanaethau yw’r mynachdy - aelwyd o weddi ydyw, ac mae'r rhai sy'n ymuno â ni yn dod yn rhan o'i rythm, hyd yn oed am gyfnod byr.

Community of the Way 1

Rydyn ni hefyd yn gweld ein perthynas â'r tir fel rhan o'n cenhadaeth. Trwy Brosiect Glasbren yn Lord'sPark Farm, mae cyfleoedd i helpu i dyfu bwyd, cadw gwenyn, ac ymuno â'r byd amaeth a gefnogir gan y gymuned. Mae'n araf, yn ddaearol, ac yn cael ei rannu. Fel y gwnaeth y pab Ffransis ein hatgoffa, "Mae blodau’r maes a’r adar y gwnaeth llygaid dynol yr Iesu eu gweld a’u gwerthfawrogi bellach wedi eu llenwi a’i bresenoldeb disglair.” Credwn nad stiwardiaeth dda yn unig yw gofalu am y greadigaeth - mae'n ffordd o glosio at Grist.

Yr haf hwn, 9-24 Awst, rydyn ni’n cynnal gŵyl bythefnos wedi'i hysbrydoli gan Gantigl y Creaduriaid gan Sant Ffransis o Asisi sy'n archwilio sut mae mawl, cyfiawnder a gofal am y greadigaeth yn cyd-berthyn. Bydd yr ŵyl yn cynnwys gweithdai ysgrifennu, cyngherddau, noson farddoniaeth meic agored, ac arddangosfa wych a fydd yn cynnwys cerfluniau mawr wedi'u brodio gan Romola Parish. Bydd un penwythnos yn canolbwyntio'n arbennig ar themâu Ffransisgaidd: symlrwydd, heddwch a chydberthynas â'r holl greadigaeth.

I ddysgu mwy neu i gymryd rhan, ewch i www.communityoftheway.org.uk