English

“Mae gennym waith i'w wneud" – yr Archesgob Cherry yn cymryd yr awenau

Cherry Vann [Archbishop]

Mae gan Gymru archesgob newydd. Etholwyd Esgob Mynwy, Cherry Vann, ym mis Gorffennaf a bydd yn cael ei gorseddu'n ffurfiol yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Hi yw'r pymthegfed person - a'r fenyw gyntaf - i ddal y swydd.

“Mae'n rhaid i mi weithio arno fy hun ac mae'n mynd i gymryd tipyn o amser ond rwy'n credu bod gennym gyfle nawr i wneud gwaith da iawn ar draws y Dalaith i sicrhau bod pob un o'r chwe esgobaeth mewn lle da.”

Darllenwch ein proffil

Sioned Cray 1 [Race Across the World]

Caredigrwydd Dieithriaid

Sioned Cray – cystadleuydd yn y gyfres deledu ddiweddar ar y BBC, Race Across the World – ar garedigrwydd dieithriaid a’u cadwodd i fynd yn ystod her flinedig.

"Mewn byd sydd yn aml yn cael ei ddiffinio gan frys, straen a hunan-fudd, mae’n hawdd anwybyddu’r grym tawel ond pwerus sy’n dal y cyfan at ei gilydd: caredigrwydd..."

Darllenwch ei stori

Llangorwen Gravestones 1 [crop]

Dirgelwch y Beddau

Mae rhywbeth od wedi bod yn digwydd mewn mynwentydd o amgylch yr esgobaeth.

Mae tua dwsin o eglwysi wedi sôn am resi o gerrig beddi sydd wedi cael eu hanharddu, rhai â sialc coch, rhai â sialc gwyn a rhai â sialc glas.

Syd Smith, Warden Eglwys yr Holl Saint, Llangorwen, sy’n adrodd yr hanes

Llys y Fran [Crown Copyright]
Saith milltir o therapi

Mae Alun Ifans yn argyhoeddedig bod taith gerdded dda yn ffordd o ddatrys pob math o broblemau

"Dwi’n argyhoeddedig fod cerdded yn gymorth i ddatrys problemau. A gellir ei wneud wrth gerdded y saith milltir o gwmpas cronfa ddŵr Llys-y-frân."

Darllenwch fwy

Clive Fane de Salis [crop]
Dod o hyd i'ch lle

Clive Fane de Salis sy’n disgrifio rhai o’r lleoedd cywir, ac anghywir, ar ei daith i ddod yn Ddarllenydd.

"Mae'n ymddangos nad yw llawer o bobl yn yr Eglwys yng Nghymru yn gwybod beth yw Darllenydd, ac felly nid oes gan yr Eglwys le i Ddarllenwyr. Mae'n iawn ac yn dda i weld eich hun fel cyd-Gristion ac fel rhan o’r gynulleidfa yn unig."

Darllenwch fwy

Waldo Williams [Peoples Collection]
Waldo Williams: Barddoniaith y Preseli

Magwyd Waldo Williams (1904-1971), un o feirdd mwyaf Cymru yn yr 20fed ganrif, yng nghysgod y Preseli, a’r bryniau hyn yw testun un o’i gerddi mwyaf adnabyddus.

Yn heddychwr gydol ei oes, cyfansoddodd Preseli ym 1946 fel protest yn erbyn cynlluniau i droi’r ardal yn faes hyfforddi milwrol parhaol.

Yn yr erthygl deiran hon, mae Hume Gravell yn sôn am y tri chopa mae’r bardd yn cyfeirio atyn nhw fel “mur fy mebyd”

Darllenwch fwy

Llyfrau

Ysgol Ystrad Meurig [book cover]

Addysgu mewn modd rhagorol

Teitl: Ysgol Ystrad Meurig 1757-1973

Awdur: Aled W. Williams

Cyhoeddwr: Yr Awdur

Pris: £8.50 (gan yr awdur)

Darllenwch adolygiad Jeffrey Gainer

Gofal Ein Gwinllan 3 [Book cover]

Gofal ein Gwinllan Cyfrol 3

Golygyddion: Cynfael Lake, Densil Morgan

Cyhoeddwr: Y Lolfa

ISBN: 9781800997448

Pris: £12

Darllenwch adolygiad Dr Sion Aled Owen