Gofynnir i Aelodau’r Gynhadledd Esgobaethol gyflwyno enwebiadau ar gyfer safleoedd etholedig ar fyrddau a phwyllgorau rhanbarthol ac esgobaethol. Gobeithiwn y bydd hyn yn arwain at gynrychiolaeth ehangach ledled yr esgobaeth ac yn annog pobl newydd i gymryd rhan ym mywyd ein heglwys. Cynhelir nifer o etholiadau elenni. Ceir wybodaeth isod.
Gofynnir i chi ddilyn y canllawiau ar y Ffurflenni Enwebu yn ofalus. Dychwelwch y Ffurflenni Enwebu a’r Ffurflenni Derbyn Ymgeiswyr drwy e-bost at:
elections.stdavids@churchinwales.org.uk erbyn canol dydd ar ddydd Mercher 30 Medi 2026.
Os na fedrwch ddychwelyd y ffurflenni drwy e-bost gallwch eu dychwelyd drwy’r post erbyn canol dydd ar ddydd Mercher 30 Medi 2026 at:
Cyd-Ysgrifenyddion
Swyddfa’r Esgobaeth
Abergwili
Caerfyrddin
SA31 2JG
DIM OND AELODAU’R GYNHADLEDD ESGOBAETHOL SY’N MEDRU ENWEBU AC EILIO’R ENWEBEDIG.
MI FYDD Y SWYDDFA’N CYSYLLTU Â PHOB ENWEBWR AC EILIWR I GADARNHAU ENWEBIADAU.
Dosbarthir papurau pleidleisio yn unol â hynny.
COLEG ETHOLWYR ESGOBOL YR EGLWYS YNG NGHYMRU
Pwrpas y Coleg Etholwyr Esgobol yw ethol Esgobion ac Archesgob yr Eglwys yng Nghymru. Mae’r Coleg yn gweithredu mewn cytundeb â Chyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru. Mae angen arnom unigolion i lenwi’r gwagleoedd presennol ac i greu rhestr atodol.
Mi fydd y bobl sydd wedi’u henwebu yn llenwi gwagleoedd ar restr yr Etholwyr ac yn creu rhestr atodol o etholwyr. Bydd etholwyr yn cael eu galw yn nhrefn nifer y pleidleisiau y maent yn derbyn. Mae gofyn i chi nodi bydd yr Etholwyr sydd yn gwasanaethu ar hyn o bryd yn cael eu galw’n gyntaf yn y drefn y maent yn ymddangos ar y rhestrau.
Os oes angen ethol Esgob mewn Esgobaeth arall neu Archesgob, mi fydd y tri enw cyntaf (o’r rhestrau clerigwyr a lleygwyr) yn cael eu galw fel Etholwyr. Mae hyn yn meddwl bydd cyfanswm o chwech Etholwr yn cael eu galw. Os oes gwagle yn ein Hesgobaeth ni, yna bydd y chwech enw cyntaf (o’r rhestrau clerigwyr a lleygwyr) yn cael eu galw fel Etholwyr. Mae hyn yn meddwl bydd cyfanswm o ddeuddeg Etholwr yn cael eu galw. Bydd diffyg ethol Etholwyr a rhestr atodol efallai yn meddwl na fydd gan ein Hesgobaeth y cwota llawn o Etholwyr mewn Coleg Etholwyr Esgobol.
Gallwch ddod o hyd i fanylion pellach wrth ddilyn y linc gwybodaeth isod ac wrth ddarllen y Ffurflenni Enwebu.
- Gwybodaeth am Goleg Etholwyr Esgobol yr Eglwys yng Nghymru
- Ffurflen Enwebu Clerig (RHAID i’r Enwebedig cael eu henwebu gan Glerigwyr
sydd dan 70 oed o’r un Archddiaconiaeth)
- Ffurflen Enwebu Lleyg (RHAID i’r Enwebedig cael eu henwebu gan Lleygwyr sydd dan 75 oed o’r un Archddiaconiaeth)
- Rhestr Aelodau Lleyg
CORFF LLYWODRAETHOL YR EGLWYS YNG NGHYMRU
Y Corff Llywodraethol yw corff deddfu goruchaf yr Eglwys yng Nghymru, sef yn fras ‘senedd’ yr Eglwys yng Nghymru, ac mae’n cymharu â Synod Cyffredinol Eglwys Loegr.
- Ffurflen Enwebu Clerig (RHAID i’r Enwebedig cael eu henwebu gan Glerigwyr
sydd dan 70 oed o’r un Archddiaconiaeth)
- Ffurflen Enwebu Lleyg (RHAID i’r Enwebedig cael eu henwebu gan Lleygwyr sydd dan 75 oed o’r un Archddiaconiaeth)
- Rhestr Aelodau Lleyg
CORFF CYNRYCHIOLWYR YR EGLWYS YNG NGHYMRU
Corff y Cynrychiolwyr yw corff gweinyddol canolog yr Eglwys yng Nghymru, sy’n gyfrifol am reoli asedau ac eiddo’r Eglwys yng Nghymru a darparu cyflogau a phensiynau ar gyfer clerigion.
- Ffurflen Enwebu Clerig (RHAID i’r Enwebedig cael eu henwebu gan Glerigwyr sydd dan 70 oed)
- Ffurflen Enwebu Lleyg (RHAID i’r Enwebedig cael eu henwebu gan Lleygwyr sydd dan 75 oed
- Rhestr Aelodau Lleyg
