English
Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth

Mae Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant. Ei brif bwrpas yw i hybu a chynorthwyo gweinidogaeth a chenhadaeth yr Eglwys yng Nghymru yn Esgobaeth Tyddewi. Pwyllgor Gwaith y Bwrdd Cyllid sy'n gyfrifol am reoli cyllid ac eiddo'r Esgobaeth.

Pwyllgor Sefydlog

Dyma'r Pwyllgor sydd yn gyfrifol am weithredu'r hyn sy'n cael ei benderfynu gan Gynhadledd yr Esgobaeth, mae hefyd yn trefnu'r gynhadledd ac yn monitro gweithgareddau pwyllgorau'r esgobaeth.

Bwrdd Enwebiadau'r Esgobaeth

Mae'r Bwrdd hwn yn gyfrifol am fonitro'r nifer o swyddi gwag a'u trafod yn ôl y galw, gan gynghori'r Esgob ar y broses enwebu pan fo hynny'n briodol, a dod i gytuneb ar ei reolau mewnol.

Bwrdd Persondai yr Esgobaeth

Dyma'r Bwrdd sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r holl bersondai, a'r gwaith o'u hadnewyddu, a phrynu neu werthu tai yn ôl y galw.

Pwyllgor Bugeiliol ac Eglwysi

Mae'r pwyllgor hwn yn gyfrifol am y canlynol:

  • Adolygu anghenion bugeiliol adeiladau eglwysig yr Esgobaeth a rhoi cyngor i'r Esgob a Chynhadledd yr Esgobaeth yn ôl y galw
  • Gweinyddu'r cynllun arolygu eglwysi bob pum mlynedd
  • Gweinyddu'r broses ar gyfer eglwysi di-angen
  • Darparu cyngor ar grantiau a benthyciadau sy'n gysylltiedig ag adeiladau eglwysig, yn cynnwys grantiau HLF. Ceir mwy o wybodaeth ar y dudalen Grantiau
  • Cadeirydd – Yr Hybarch Paul Mackness, Archddiacon Tyddewi
    archdeacon.stdavids@churchinwales.org.uk
  • Ysgrifennydd – Janet Every
    janetevery@churchinwales.org.uk
    01267 236145
Pwyllgor Cynghori'r Esgobaeth

Mae gan y pwyllgor hwn aelodau sy'n arbenigo mewn meysydd penodol sy'n ymwneud ag adeiladau eglwysig, fel pensaernïaeth, organau, archaeoleg a.y.b, ac maent yn gyfrifol am:

Cymdeithas Dai yr Esgobaeth

Nod y Gymdeithas yw cynorthwyo clerigwyr sydd wedi ymddeol a gweddwon clerigwyr i ddod o hyd i dai wedi iddynt ymddeol