Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2024 Mae'r organydd yn diddanu

Mae'r organydd yn diddanu

Singh family pic

Mae Dorothy Singh yw organydd eglwys y plwyf yn Llandybie. Ond mae hi a'i phlant ymhlith y teuluoedd cerddorol mwyaf blaenllaw yng Nghymru. Donna Williams yn adrodd eu hanes

Un o deuluoedd cerddorol mwyaf blaenllaw Cymru yw Dorothy Singh a'i thri phlentyn o Landybie. Roedd dawn Dorothy yn amlwg o oedran ifanc a threuliodd amser yn yr Almaen, yn cyfarfod â cherddorion eraill o’r un anian ac o bob rhan o Ddwyrain Ewrop. Yn arbennig, roedd Dorothy yn hoff iawn o egni'r cerddoriaeth werin o Hwngari. Roedd hi’n dilyn dull Kodaly, hynny yw, yn dysgu cerddoriaeth trwy ganu (sol-ffa) a chwarae gemau cyn dysgu canu offeryn- yn teimlo'r gerddoriaeth yn ogystal â'i chwarae. Mabwysiadodd Dorothy ddull Kodaly a theithiai o gwmpas Hwngari bob haf yn chwarae ei ffidil i gynulleidfaoedd ac yn dysgu ar gyrsiau.

Ers hynny, mae Dorothy wedi defnyddio dull Kodaly i ddysgu cannoedd o blant lleol ac mae bob amser yn arbennig o awyddus i gynnwys plant difreintiedig na fyddent fel arall yn gallu cael mynediad at gerddoriaeth a chwarae offeryn. Ar hyn o bryd, mae hefyd yn gweithio ac yn annog plant a theuluoedd sy’n ffoaduriaid o Wlad Pwyl, Syria ac Iran. Mae Dorothy wedi gweithio’n galed i Elusen Kodaly yng Nghymru ac wedi trefnu llawer o ddigwyddiadau a chyrsiau i hybu ei cherddoriaeth.  Cynhaliwyd un llwyddiannus yn Rhos y Gilwen yn Sir Benfro.

Ond nid ein horganydd yn unig yw Dorothy. Mae hi wedi estyn allan i’r gymuned leol , yn darparu Clwb Cerdd i blant, wedi trefnu cyngherddau prynhawn i gefnogi ffoaduriaid, ac mae ei theulu wedi ein diddanu gyda Chyngerdd Diolchgarwch a Chyngerdd Golau Cannwyll o’r safon uchel gan ddenu cynulleidfaoedd o bell ac agos.

Mae plant Dorothy, Rakhi, Davinder a Simmy wedi rhagori wrth chwarae’r ffidil. Enillodd y tri ysgoloriaethau i fynychu Ysgol Gerdd Chetham. Enillodd Rakhi, sydd bellach yn  unawdydd llwyddiannus iawn, Wobr Bryn Terfel yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Cherddor Ifanc Prydain Fawr. Mae Rakhi, Davinder a Simmy  wedi ennill nifer o wobrau ac wedi chwarae i gerddorfeydd mawreddog.

Yn ystod y ‘cyfnod clo’ bu Rakhi a Simmy yn cyd-gyfarwyddo cerddorfa linynnol ac mae’r perfformiadau i’w gweld  ar YouTube. Simmy yw Cyfarwyddwraig Creadigol Sinfonia Cymru sy’n meithrin y genhedlaeth nesaf o gerddorion ifanc, gan roi’r lle a’r cyfle iddynt ddatblygu eu gallu..

Mae Simmy wedi derbyn grant Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol/Cyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu ei sgiliau fel Cerddor Actifyddion Daear.sy’n golygu defnyddio cerddoriaeth fel ateb byd-eang i newid ein  hinsawdd. Ar wefan Sinfonia Cymru gallwch wrando a gwylio enghraifft o’r gwaith hwn sef y Four Seasons gan Vivaldi o dan y teitl Regenerate.