Gweithio i ddiddymu‘r fasnach caethion

Cafodd Kay Owen, 81 oed, ac yn un o aelodau hynaf Undeb y Mamau yn Eglwys y Santes Fair, Porth Tywyn, ei hysbrydoli i godi arian i elusen Gristnogol sy’n ceisio achub ac ail-gartrefu plant a phobl ifanc sy wedi’u dal yn y gyfundrefn gaethweision fodern
Haf diwethaf fe wrandewais ar Ddiwrnod Gweddi misol Ffald y Brenin ac fe glywais neges gan David Westlake, Prif Weithredwr Cenhadaeth Cyfiawnder Rhyngwladol (IJM). Dysgais mai IJM, yn seiliedig yn y DU, yw’r gyfundrefn gwrth-gaethweisiaeth fwyaf yn y byd. Y mae pob un sy’n rhan o’r gwaith yn angerddol am eu gweledigaeth i ddod â chaethweisiaeth i ben yn gyfangwbl yn ein hoes ni.
Ar yr un pryd, cefais fy llorio i ddysgu bod y pandemig mewn gwirionedd yn ei gwneud hi’n haws i’r gweithredwyr i wneud, ac hyd yn oed ehangu eu harferion anfad, yn guddiedig mwy neu lai oherwydd cyfyngderau Covid-19.
Eglurodd David bod IJM, er yn gyfundrefn byd eang, hefyd yn delio â symud pobl yma yn y DU. Sonodd am rai porthladdoedd Cymreig sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd gan y masnachwyr caethion.
![Kay Owen 2 [IJM]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/photo_1.width-500.jpg)
Roedd diddordeb arbennig gennyf yn y rhaglen IJM gyfredol, ble y mae plant bregus, yn aml yn dioddef cam-drin treisgar a trawma rhywiol, yn cael eu hachub yn gariadlon, eu gwella a’u ail-gartefu. Y mae timau a hyfforddwyd gan IJM hefyd yn gallu adnabod agweddau eraill o gaethweisiaeth fodern megis bechgyn ifanc yn cael eu ecsploetio gan y diwydiant pysgota a dynion a gwragedd yn gweithio fel caethweision yma yn y DU, mewn sefyllfaoedd domestig, bariau ewinedd a golchi ceir, er enghraifft.
Roedd yn rhywfaint o gysur i glywed bod yr hyfforddiant bydeang a roddir gan IJM yn cynnwys pobl broffesiynol o bob ran o fywyd, fel bod yr awdurdodau yn gallu adnabod yn well a defnyddio’r gyfraith i ddal, erlyn a charcharu y drwgweithredwyr ffiaidd hyn.
Cefais fy nychryn pan ddywedodd David y byddai, yn y 15 munud y bu’n siarad, 30 o blant wedi eu gwerthu i weithdai cyflog isel a phuteindai. Wedi teimlo fy mod yn cael fy arwain i helpu mewn unrhyw ffordd, trefnais daith feicio hanner marathon noddedig (rhwng y cyfnodau clo!), ac oherwydd haelioni Eglwys y Santes Fair, Porth Tywyn, a’r gymuned leol, codwyd dros £900 i’r elusen Gristnogol haeddiannol hon.
Crybwyllodd David yn ei araith y dylem wneud amser i fyfyrio ar Rufeiniaid 12:12 ‘Llawenhewch mewn gobaith. Safwch yn gadarn dan orthymder. Daliwch ati i weddio’ ar ran y gwaith pwysig iawn a wneir gan IJM (www.ijmuk.org)