Hafan Pobl Dewi CROESO NÔL I’R EISTEDDFOD

CROESO NÔL I’R EISTEDDFOD

Wedi dwy flynedd o ddisgwyl bydd Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yn yr haf. Bu Lyn Dafis yn siarad gyda rhai o’r trefnwyr

Astronauts [Natioinal Eisteddfod of Wales/Iolo Penri]

Dyw Cymru ddim yn Gymru heb ei heisteddfodau. Ond dros y ddwy flynedd diwethaf maen nhw wedi bod yn brin iawn. Efallai’r golled fwyaf oedd methu cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol, un o’r digwyddiadau sydd yn ein galluogi i ddathlu ein diwylliant a’n hiaith a chael sbort yr un pryd.

Roedd Eisteddfod 2020 yn dod i Esgobaeth Tyddewi oherwydd y cynllun oedd ei chynnal yn Nhregaron. Gweithiodd cymunedau’r fro yn galed iawn i godi’r arian i noddi’r Eisteddfod ac roedd pawb yn disgwyl yn eiddgar am fis Awst. Yna fe ddaeth y pandemig a gohiriwyd yr Eisteddfod am ddwy flynedd.

Elin Jones MS [Presiding Officer Senedd]

© Eisteddfod Genedlaethol Cymru / Iolo Penri

Elin Jones AS yw cadeirydd pwyllgor gwaith lleol Eisteddfod 2022 ac fe gefais air gyda hi am hyn. “Roedd peidio â chynnal yr Eisteddfod yn siom aruthrol i bobol yn lleol a phawb oedd wedi edrych ymlaen i ymweld â Cheredigion.

“Bellach mae’r Pwyllgor Gwaith lleol a staff yr Eisteddfod yn paratoi ar gyfer ei chynnal yn Awst 2022. O brofiad bellach rydyn ni’n gwybod fod yr haf yn llawer gwell cyfnod o ran caniatáu gweithgareddau a chymdeithasu. Mae gŵyl awyr agored ar gaeau braf Tregaron yn debygol iawn felly. Mae’n bosib y bydd angen i ambell beth newid er mwyn galluogi awyru naturiol ac yn y blaen – ond mae popeth mewn llaw.”

Aled Lewis

Gyda chefnogwyr a gwirfoddolwyr brwd yr Eisteddfod wedi ail-gydio yn y gwaith paratoi cefais air gyda’r Parchg Aled Lewis sy’n gweinidogaethu yn Ardal Weinidogaeth Leol Llambed. Roedd e o’r farn na fyddai’r Eisteddfod ddim yr un peth ag y byddai wedi bod dwy flynedd yn ôl. Mae hynny yn bennaf am nad yw cymdeithas yr un peth. Meddai Aled, “Mae pethau wedi newid yn fawr iawn yn sgîl ein profiadau o Covid-19. Mae fel petai pobl yn galaru am yr hyn a gollwyd dros y cyfnod trawmatig hwn. Dwi’n edmygu'r rhai sydd wedi ail-gydio yn y gwaith caled yn barod. Fy ngobaith i yw bydd yr ymdrechion hyn yn llwyddo i dynnu pobol nôl at ei gilydd a dechrau ail-fywhau ein cymunedau. Mae’n her sylweddol ar ôl beth sydd wedi digwydd.”

Delyth Hopkins Evans, Llantrisant, yw cadeirydd y Pwyllgor Cerdd Lleol, sydd yn gyfrifol am drefnu'r cystadlu, y beirniaid a pherfformiadau ar faes yr Eisteddfod. “Dwi’n credu mai’r golled fwyaf dwi wedi teimlo o fethu cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r cyfle i gymdeithasu ac i gwrdd â hen ffrindiau. Ac i fi mae’r cystadlu yn rhan bwysig a dwi wedi colli hwnnw’n fawr.

“Dwi’n credu fod yr Eisteddfod ei hun, trwy gynnal digwyddiadau fel yr Eisteddfod Amgen, wedi gweithio’n galed i gadw pethau i fynd a dwi’n ddiolchgar iddyn nhw am wneud.”

Roedd Delyth yn eiddgar i bwysleisio nad un wythnos ym mis Awst yw’r Eisteddfod, ond bod sylfeini’r ŵyl yn cael eu gosod yn ystod misoedd oer a gwlyb y gaeaf. “Mae cystadlaethau’r corau yn rhan annatod o’r Eisteddfod ond dŷn ni’n gwybod eu bod nhw wedi’i chael hi’n anodd ymarfer a dyfalbarhau hefyd oherwydd Covid-19. Ond dwi’n clywed am gorau sydd wedi ail-ddechrau cwrdd ac ymarfer a byddwn ni’n dweud wrth bawb am ddod i’r Eisteddfod os dim ond am gael y profiad o glywed corau unwaith eto!

“Dwi hefyd wedi cael y fraint o gael fy ngofyn i arwain y Gymanfa Ganu eleni. Alla i ddim dweud cymaint dwi’n edrych mlaen i wneud y gwaith. Mae traddodiad yr emyn a cherddoriaeth eglwysig yn ein gwaed ni yn Llantrisant a dwi’n gobeithio y bydd pawb fydd yn rhan o’r gymanfa yn profi bendithion cerddoriaeth y traddodiadau hynny.”

Caiff Elin Jones y gair olaf, “Dwi’n meddwl, ar ôl aros cyhyd, bydd brwdfrydedd mawr i fod yn rhan o’r digwyddiadau. Rwy’n dychmygu’r Cardis yn heidio i’r maes yn Nhregaron, fel mae’r gwartheg yn taflu’u coesau wrth adael y siedau i fynd mas i’r caeau yn y gwanwyn!”

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Nhregaron o 31 Gorffennaf tan 6 Awst 2022.