Newyddion da bod yn ddisgybl gwyrddach
Marcus Zipperlen, Swyddog Gofal Creu a Chynaliadwyedd yr Esgobaeth, yn ystyried manteision bod yn ecogyfeillgar
Rydym wedi arfer â newyddion drwg am ryfel, newyn, a thlodi. Erbyn hyn rydyn ni'n ymgodymu â'r newyddion drwg ychwanegol am y dinistr ecolegol a’r trychineb hinsawdd sydd ar ddod! Rydym wedi tueddu i weld y byd fel llwyfan ar gyfer chwarae allan dramâu dynol, gyda’r gobaith bob amser y daw pethau'n iawn yn y drydedd act. Nawr rydym yn sylweddoli bod y llwyfan ei hun ar dân a bod angen newid i ddulliau llawer mwy radical. Nid yw'n syndod ein bod ni'n aml yn teimlo bod maint y dasg hon yn ein llethu, a’n bod ni hefyd yn bryderus am fod yr atebion amgylcheddol yn aml yn cael eu darlunio fel cyfyngiadau digroeso ar ein bywydau. Ond pan edrychwn ar y newidiadau i’n ffordd o fyw sydd eu hangen i ofalu am y greadigaeth rydym yn llwyddo i ddod o hyd i ffyrdd o fyw sydd o fudd uniongyrchol i ni nawr.
Er enghraifft, mae lleihau ein hallyriadau carbon yn golygu y bydd angen i ni yrru llai ar ein ceir. Os byddwn yn rhannu ambell lifft gydag eraill rydym yn lleihau ynysu cymdeithasol, un o brif achosion yr epidemig iechyd meddwl sy’n cydio yn ein gwlad. Rydym hefyd yn arbed arian a straen (os taw ni yw'r teithiwr). Mae strydoedd sydd wedi'u cynllunio i ffafrio pobl dros geir yn cynhyrchu trefi mwy cyfeillgar, mwy bywiog lle gall plant gerdded neu feicio i'r ysgol a pheidio â thrafferthu eu perthnasau hŷn am lifft. Wrth edrych ar fwyd, mae diet sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd yn golygu bwyta llai o gig coch. Mae hyn yn uniongyrchol o fudd i’n hiechyd a’n lles yn ôl ein meddygon, ac os ydym yn prynu llai o gig a hwnnw’n gig lleol o ansawdd gwell (sy’n fwy blasus yn ôl pob tebyg) rydym hefyd yn cefnogi ein ffermwyr.

Diwrnod yr Afal, yn eglwys Sant Jerome, Llangwm ym mis Medi 2021: digwyddiad cymunedol yn y fynwent pan blannwyd coed afalau a bylbiau a gwasgwyd yr afalau i wneud sudd afal
Mae ffyrdd mwy gwyrdd o fyw o fudd i fywyd yr eglwys hefyd. Gall mesurau effeithiol o leihau gwastraff ynni arbed arian sylweddol. Yn fwy sylfaenol ar gyfer ein bywyd fel disgyblion, rydym yn aml yn teimlo rheidrwydd i estyn allan mewn cenhadaeth i'n cymunedau ond yn ofni gwneud. Os gallwn gyd-weithio â grwpiau cymunedol i reoli ein mynwentydd ar gyfer bywyd gwyllt a defnydd cyffredinol mae’n bosibl iawn y byddwn â phroject eciwmenaidd, rhyng-ffydd, a rhyng-genedlaethau o dan ein trwynau. A bydd hyn yn ei dro yn gam i leihau’r ffin galed rhwng yr eglwys a’r gymuned ac yn medru ailfywiogi ein teimlad o bwrpas. Mae mannau cyfeillgar i’r greadigaeth, boed yn anialwch neu’n ardd, yn ein helpu i fyw bywyd mwy tebyg i Iesu wrth gynnig llefydd lle gallwn ni weddïo a gwrando ar Dduw, fel y gwnaeth ein Harglwydd ei hun ar adegau o angen.
Nid rhyw ffurf gyfyngedig o’n presennol yw dyfodol ecogyfeillgar ond cyflawnder bywyd mewn cytgord â chreadigaeth Duw y mae ein cymdeithasau presennol yn adlewyrchiad gwael ohono. Y newyddion da yw bod ein taith yn gymaint o fendith inni â’n nod yr ydym yn cyrchu tuag ato.