Hafan Pobl Dewi Y beddrod gwag

Y beddrod gwag

Y mae dathlu atgyfodiad yr Iesu yn uchafbwynt y calendar Cristnogol. Nid oes un digwyddiad sy’n fwy pwysig yn hanes a hwn yw’r trobwynt hanfodol y mae Cristnogaeth yn gorffwys arno, fel y mae Parch Paul Pritchard yn ein hatgoffa i gyd

Yn y dyddiau hanesyddol hynny, fe groeshoeliwyd miloedd ar filoedd o bobl, y ffordd a ystyrid y mwyaf cywilyddus a phoenus o farw. O’r miloedd o ddioddefwyr y dienyddiad erchyll hwn, nid oes ond un a atgyfododd.

Un o’m hoff ddarnau o’r Ysgrythur yw pymthegfed bennod llythyr cyntaf Paul at y Corinthiaid. Yn ddiweddar fe’m gwahoddwyd i arwain gwasanaeth angladdol ar lan y bedd, gyda’r gofyniad na fyddai unrhyw deyrnged. Yr wyf yn aelod o’r Gymdeithas Llyfr Gweddi ac yn aml yn defnyddio Llyfr Gweddi Gyffredin 1662 yn fy nefosiynau personol. Roedd gwasanaeth Claddedigaeth y Meirw yn y Llyfr Gweddi yn teimlo’n addas i ateb y gofyniad, gan fod y gwasanaeth yn cynnwys bron â bod yn gyfangwbl o ddarnau o’r ysgrythur a gweddiau yn cyhoeddi trugaredd Duw a’r gobaith am atgyfodiad llawen i fywyd tragwyddol.

Y mae trefn y gwasanaeth yn seiliedig yn ddwfn ar y bennod hon o lythyr Paul, yn dechrau gyda ‘Ond y gwir yw fod Crist wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn flaenffrwyth y rhai sydd wedi huno’ ac y mae’n parhau i’n hannog gyda gwirdroi marwolaeth fel yr addewyd. Yna mae’n troi at yr amheuaeth sy’n llygru athrawiaeth dda. Nid yw bod yn amheuwr yn rhinwedd, nid ydym yn ennill dim drwy ddal at ein amheuon .

Y mae’n ddigon naturiol i amau, ac yr oedd gennyf lawer o amheuon ac yr oeddwn yn amau am bethau ‘ysbrydol’ yn gynnar yn fy ffydd. Yr oeddwn yn faterolwr cryf, yn israddedigol yn astudio Bywydeg Cymhwysol – chwarddais ar ben unrhywbeth yn ymwneud â’r uwchnaturiol a gwrthodais pob crefydd, ffydd ac ysbrydoliaeth. Newidiodd hyn i gyd wedi i mi fynychu Cyngerdd Gospel ac wedi gwahoddiad i weddio ac adnabod Crist, fe ildiais yn syml er mwyn i stopio’r dyn y tu ôl i mi rhag siarad â mi. Roedd yn anghysurus iawn.

Fe ddes at ffydd i ddechrau oherwydd nad oeddwn am i’m gwraig fynd ar ei phen ei hun. Fe gwrddom yr haf cyn hynny mewn parti, cwympo mewn cariad dros fy mhen a’m clustiau a phriodi bedair wythnos yn ddiweddarach. Roedd hi wedi clywed y neges o’r blaen a’i wrthod, yn nawr roedd hi am ddilyn Iesu. Roeddwn yn dal yn amheuwr, ond un noson wedi dadl anodd, fe ruthrais i’r gegin a gofyn i Dduw am ein helpu. Yn sydyn fe’m gorlethwyd gan bresenoldeb Duw, wrth i bwysau syrthio oddi wrthyf ac fe syrthiais ar y llawr yn fy nagrau. Gwyddwn fy mod yn cael fy ngharu, a bod yr Iesu yn byw ynof. Diflannodd fy amheuon i gyd.

Yn yr epistol, eglura Paul bod y dyn cyntaf, Adda, wedi ei wneud o lwch a phridd, ond bod yr ‘ail’ ddyn o’r nefoedd, ac ’fel y bu delw’r dyn o’r llwch arnom, felly hefyd y bydd delw’r dyn o’r nef arnom’. Yna fe eglura ‘ni all cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw, ac ni all llygredigaeth etifeddu anllygredigaeth’.

Astudiais hyn un bore wrth baratoi am wasanaeth angladdol, fel y dymunodd y teulu gael darlleniad o’r bennod hon, adnodau 50-58. Fe’m trawyd bod yn y Groeg gyfnewid o’r haniaethol am y diriaethol, y llygredig am y diriaethol.

Mewn un fflach, mewn eiliad, anweledig o amser, gyda sŵn utgorn, daw’r llygredig yn anllygredig, daw’r meidrol yn anfeidrol. Y mae’r bywyd hyn i gyd yn haniaethol, megis niwl, yma heddiw ac wedi mynd yfory. Y mae atgyfodiad yr Iesu yn diriaethol, solet, real. Roedd atgyfodiad Iesu mor real ac anfarwol fel ei fod yn gallu cerdded drwy furiau solet o garreg i gwrdd â’r disgyblion a oedd wedi’u cloi yn yr oruwch ystafell. Roedd ei fywyd atgyfodedig yn fwy diriaethol a solet na’r muriau, a oedd fel niwlen o’i gymharu. Ni symudwyd y garreg i ffwrdd er ei fwyn ef, ond er mwyn i’w ddilynwyr weld y beddrod gwag a chredu.