We are currently in the process of making our entire website bilingual.

Unfortunately, this page has not been fully translated yet but will be soon. If you would like to help us translate this page sooner and contribute in a way that helps us reach more people through the website, please click on the button below. Alternatively, you can ask for this page to be translated and we will do our best to do so as soon as possible.

Hafan Pobl Dewi Cael trafferth gydag iechyd meddwl ers yn ifanc

Cael trafferth gydag iechyd meddwl ers yn ifanc

Mae cefnogaeth wedi bod yn hollbwysig i'r person ifanc hwn

Siwd mae? Rwy'n 15 oed o Sir Benfro sydd, am o leiaf y pedair blynedd diwethaf, wedi cael trafferth gyda fy iechyd meddwl. Yn fwy diweddar, rydw i wedi sylweddoli ers i mi fod yn ifanc iawn, bod pryder cymdeithasol yn arbennig wedi pwyso’n drwm arna i a’i fod dal i wneud. Wrth gwrs, pan ydych chi rhwng 0-10 oed ac weithiau’n hŷn na hynny, dydych chi ddim yn gwybod mewn gwirionedd am yr ystod eang o faterion y gallwch chi gael eich hun yn eu hwynebu. Felly, pan oeddwn i mor ifanc â hynny, doedd gen i ddim syniad bod yr hyn oedd yn digwydd. (yn bennaf yn fy mhen) ddim yn “normal”. Roedd cael meddyliau pryderus yn bendant yn rhoi straen arnaf finnau fach a'r bobl oedd yn ceisio magu finnau fach. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydw i wedi cael llawer o gefnogaeth i fy helpu gyda’r materion hynny ac maen nhw wedi cael effaith enfawr, yn enwedig ar ôl i Covid wneud fy iechyd meddwl i ac un pawb grebachu’n ddim fwy neu lai.

Yn anffodus, nid yw pawb wedi cael y cymorth sydd ei angen arnynt ar ôl y pandemig. Wrth ddweud cymorth dydw i ddim nid yn golygu siarad trwy eich profiad yn unig, ond hefyd y cymorth ariannol, meddygol, ac ati, sydd ei angen. Mae'r pandemig wedi rhoi straen ar bobl mewn llawer o ffyrdd. Fel bodau dynol roedd yn rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi, a hunan-niweidio oedd fy mecanwaith ymdopi i (ddim yn un gwych o gwbl). Rydw i wedi cael trafferth gyda hunan-niweidio ers tro, ond mae'r pandemig yn bendant wedi ei wneud yn fwy o beth rheolaidd ac fe gymerais dro er gwaeth. Ychydig fisoedd i mewn i 2021 ceisiais ladd fy hun, rhywbeth oedd nid yn unig yn niweidiol i fy iechyd meddwl (a chorfforol), ond hefyd i iechyd fy nheulu.

Rydyn ni yn ôl ar y llwybr iawn bellach, mewn ffordd o siarad, ac mae pethau wedi dysgu ychydig o bethau i ni. Mae pawb wedi cymryd tro er gwaeth ers i’r pandemig ddechrau ond y gobaith yw bod bydd pawb yn dod o hyd i ffordd iach o ymdopi â’r normal newydd mae Covid wedi’i ddod aton ni, er mor annifyr ydyn nhw. Un o'r pethau pwysig i'w gofio o'r profiad hwn yw nad ydych chi ar eich pen eich hun ac nid chi yw'r unig un sydd wedi'i chael hi'n anodd ymdopi â'r newidiadau hyn.

Mae’n bwysig myfyrio ar sut rydym wedi delio â’r sioc hon, rhai ohonom yn well nag eraill (wna i ddim sôn am y llywodraeth). Ac mae'n bwysicach fyth nodi y bydd bywyd, er mor anodd yw credu hynny, yn mynd ymlaen. Rhowch amser i bethau. Un peth olaf: diolch MAWR i'r GIG.