Digwyddiadau yn Tŷ’r Pererin
Diwrnod Encil: Blwyddyn Bywyd y Disgybl- Camu trwy'r Grawys
Dydd Gwener 18 Mawrth 10.30am-3pm
Cyfle i ddysgu am Ddisgyblaethau’r bywyd Cristnogol ynghyd â chyfleoedd i gerdded, siarad, ymdawelu a hyd yn oed garddio; gallwch dreulio’r amser yn Nhŷ’r Pererin neu symud i’r eglwys gadeiriol, cloestrau, gerddi a llwybrau troed.
Arweinydd: Janet Ingram, Swyddog Addysg a Phererindod, Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Gwahoddir rhoddion o £6 sy'n cynnwys diodydd a chinio syml o gawl a bara
Sesiwn i’r Teulu: Gardd Gymunedol Erw Dewi
Dydd Gwener y Groglith 15 Ebrill, 2-4pm
Amser i deuluoedd ifanc ddysgu rhagor am stori'r Pasg. Dilynwch y storïwr o amgylch yr ardd gan oedi am weithgareddau ar hyd y daith. Daw'r sesiwn i ben wrth wneud Gardd Pasg i fynd adref gyda chi.
Helfa Wyau’r Pasg
Dydd Llun 18 Ebrill, 11am-1pm a 2-4pm
Faint o lefydd i guddio ŵy Pasg yn yr eglwys gadeiriol? Prynhawn i'r teulu oll yn yr eglwys gadeiriol ac o'i chwmpas.
£1 y plentyn (oedolion am ddim)
Gweithdy Celf
Dydd Mawrth 19 a dydd Iau 21 Ebrill, 11am-4pm
Gweithdy anffurfiol, ar gyfer pob oed yn yr eglwys gadeiriol. Defnyddiwch yr arddangosfa gelf Yn Nwylo Duw, gan y Parchg Diana Hoare, i’ch ysbrydoli i greu eich gwaith celf eich hun ac adrodd eich stori eich hun am fod yn nwylo Duw.
Eglwysi Cadeiriol yn y nos Cathedrals@Night
Dydd Sadwrn 14 Mai, dechrau am 6pm
Dysgwch am beth sy’n digywdd yn yr eglwys gadeiriol yn y nos, wrth i Brydain ddathlu’r adeiladau hynod hyn. Cymysgedd o weithgareddau diwylliannol, treftadaeth ac ysbrydol, a rhai ohonynt yn mynd ymlaen tan yn hwyr – a’r cyfan am ddim.
Diwrnod Canu gydag offerynnau
Dydd Iau 2 Mehefin, 10am-4pm
Gweithdy i gantorion ac offerynwyr dan arweiniad Fforwm Cerddoriaeth Gynnar Cymru, sydd newydd ei ffurfio. Dathliad o waith Thomas Tomkins o dan arweiniad Huw Williams. Archebwch le yn: https://www.bmemf.org.uk/future-workshops.html
Pererindod y Jiwbilî
Dydd Gwener 3 Mehefin, 10.30am-12.30pm
Cyfle i ymweld â man geni Dewi Sant, a chlywed straeon a myfyrdodau sy'n gysylltiedig â Blwyddyn y Jiwbilî a gweld yr adfeilion hynafol wrth fynd ar daith gerdded fer (1½ milltir) yng nghwmni tywysydd o lwybr yr arfordir i'r eglwys gadeiriol. Cyfarfod yn Oriel y Parc. Gall cyfranogwyr aros am weddïau yng Nghysegrfa Dewi Sant am hanner dydd.
Pererindod yr Eglwysi Cadeiriol ar gefn beic
Dydd Llun Mehefin 6
Ar ddechrau Wythnos Feicio 2022, bydd Cymru yn ymuno â Llwybr Beicio yr Eglwysi Cadeirol. Mae’n dechrau yn Nhyddewi ac yn cysylltu ein heglwysi cadeiriol hanesyddol. Bydd y daith gyfnewid yn cludo baton a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur, gan ei drosglwyddo i grwpiau ym mhob eglwys gadeiriol a all ymuno â'r daith am gyn lleied neu gymaint o amser ag y maent yn ei ddymuno. Bydd grŵp yn dychwelyd 10 diwrnod yn ddiweddarach (os bydd y tywydd yn caniatáu) ar ôl beicio i bob eglwys gadeiriol yn yr Eglwys yng Nghymru.
Diwrnod Pererindod
Dydd Gwener 10 Mehefin, 11am-3pm
Cewch olwg newydd ar fywyd wrth i chi gerdded llwybr y pererinion o dan arweiniad tywysydd (4 milltir), gan oedi am straeon a myfyrdodau ar y ffordd. Neu ewch am daith gerdded fyfyriol, wedi’i thywys drwy daflenni, o amgylch yr eglwys gadeiriol gyda chyfle i gymryd rhan mewn myfyrdod tawel, wedi’i dywys yng Nghapel Mair. Bydd y Labyrinth ar gael i'w ddefnyddio hefyd. Gwasanaeth pererindod am 3pm. Cyfarfod y tu mewn i brif ddrysau'r eglwys gadeiriol.
Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch â Janet Ingram, Tŷ'r Pererin, Y Cwcwll, Tyddewi Ffôn: 01437 729151 E-bost: education@stdavidscathedral.org.uk