Hafan Pobl Dewi Canu yn y cloi

Canu yn y cloi

Yn diweddaraf o’i gyfres Pererin y Gadair freichiau, mae Lyn Dafis yn disgrifio sut mae’n mwynhau canu ar ei ben ei hun

armchair-clipart

Dwi’n hoffi canu ond y broblem yw nad dwi’n medru gwneud go iawn. Dwi’n adnabod tôn yn fy mhen, ond pan mae’n dod yn fater o’i chynhyrchu gyda’r llais dwi’n methu’r nodau’n fwy aml nad dwi’n eu taro. Does dim pwynt wedyn sôn am fy mherthynas gyda chyweirnod achos dyw e ddim yn bodoli.

Mae fy niffyg sgiliau cerddorol yn achosi problem hunaniaeth i mi achos does dim sy’n gwneud imi deimlo’n fwy o eglwyswr na chanu’r emyn “Sanctaidd, Sanctaidd, Sanctaidd! Dduw hollgyfoethog”. Fel un na chafodd ei fagu’n Anglican does gen i ddim ffordd well o sicrhau fy hun (ac eraill) fy mod yn eglwyswyr go iawn na chanu emyn yr Esgob Herber yng nghyfieithiad Nicander ar dop fy llais. Ac i gael yr effaith yn llawn rhaid i hynny ddigwydd mewn gwasanaeth o’r Foreol Weddi.

Felly i fi daeth ‘gwasanaethau Zoom’ yn fendith. Diolch i’r botwm coch sy’n medru cau’r microffon - y mute bondigrybwyll – roeddwn i’n medru canu nerth fy mhen yng nghwmni eraill. Ac eto heb godi cywilydd ar fy hunan na pheri i eraill deimlo’n annifyr.

O ddechrau gwneud hyn dwi wedi parhau i ganu emynau i fi fy hun yn gyson o gwmpas y tŷ.

Dwi wedi bod yn cyd-ganu gyda help dwy record. Y gyntaf yw 20 uchaf emynau Cymru = The top 20 best-loved Welsh hymns gan artistiaid gwahanol a gyhoeddwyd yn 1993. Dyma’r emynau Cymraeg mwyaf adnabyddus sy’n rhan annatod o’n hetifeddiaeth Gristnogol a diwylliannol fel cenedl. Mae’r ail yn cynnwys emynau sy’n rhan annatod o fywyd Eglwys Loegr a’r sefydliad Seisnig, sef Westminster Abbey favourite hymns a gyhoeddwyd yn 1997 gyda’r côr enwog o dan arweiniad Martin Neary.

Gyda’i gilydd maen nhw’n adlewyrchu’r cymhlethdod o fod yn eglwyswr Cymraeg ei iaith. Eto dwi’n trysori’r cyfoeth hwn fel rhywbeth sy’n deilwng o’r Duw sy wedi ein creu, ein cadw, ac sy’n ein cynnal. Fel mae byd natur yn ei holl amrywiaeth yn adlewyrchu gogoniant yr Arglwydd ein Gwneuthurwr, felly gwelodd Ioan yn ei Ddatguddiad fod amrywiaeth iaith a diwylliant yn gyfrwng perffaith i fynegi’r gogoniant hwnnw yn y nef: “I'n Duw ni, sy'n eistedd ar yr orsedd, ac i'r Oen y perthyn y waredigaeth!” (Datguddiad 7:9,10) Dwi’n argyhoeddedig felly ei bod hi’n ddyletswydd arnon ni i feithrin y cyfoeth hwn os yw ein Duw i gael y moliant y mae’n ei haeddu gan ei greaduriaid.